Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest – Corgi Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno i roi terfyn ar ariannu a darparu’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg, Corgi Cymru.

Daeth y ddwy ochr i gytundeb ar y cyd i gynnig cau sianeli digidol Corgi Cymru ar ddiwedd mis Hydref a chaniatáu i’r gwasanaeth gael ei ddirwyn i ben dros y mis canlynol.

Mae un swydd lawn-amser ac un swydd ran-amser bellach mewn perygl a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda staff sy’n cael eu heffeithio yn Newsquest, gan ddechrau heddiw, 19 Hydref.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Ar ôl dwys ystyried a thrafod gofalus, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno mai’r peth gorau i’r ddwy ochr yw terfynu’r cytundeb cyllido a chau’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg Corgi Cymru ddiwedd Hydref.

“Rydym wedi bod mewn cyswllt rheolaidd gyda Newsquest dros yr wythnosau diwethaf ac mae’n ddrwg iawn gennym weld Corgi Cymru yn cau, ond rydym yn deall bod yr amgylchiadau wedi newid ers dyfarnu’r grant, oherwydd yr amgylchedd presennol heriol sydd ohoni. Mae ein meddyliau gyda’r staff sydd wedi’u heffeithio gan y penderfyniad hwn.”

Dywedodd Gavin Thompson, Golygydd Rhanbarthol Newsquest: “Rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Llyfrau am eu cefnogaeth, sydd wedi caniatáu i ni lansio Corgi Cymru yn gynharach eleni. Yn anffodus, daeth yn glir, hyd yn oed gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau ac o ystyried yr amgylchedd economaidd heriol, na fyddai adeiladu menter Gymraeg newydd ar hyn o bryd yn gynaliadwy yn economaidd.

“Rydym wedi bod mewn trafodaethau adeiladol ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn cau The National Wales. Byddwn yn dechrau proses ymgynghori gyda staff yr effeithir arnynt, gan ddechrau heddiw.”

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r broses ar gyfer aildendro am weddill cyllid y grant Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg o 2023 ymlaen dros yr wythnosau nesaf.

Straeon Campus – Cwpan y Byd 2022

Straeon Campus – Cwpan y Byd 2022

Cyngor Llyfrau Cymru yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘i fynd â Chymru i’r Byd’ Fel rhan o Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru ymhlith y 19 sefydliad sy’n cefnogi tîm Cymru wrth iddynt fynd i Qatar ym mis Tachwedd....

Archwilio’r byd

Hanes ein Byd ar y Map add. gan Siân Lewis Canllaw gwreiddiol i’n byd ar gyfer plant 9-12 oed, sef plethiad llawn gwybodaeth o feysydd daearyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth a gyflwynir drwy ddwsin o fapiau lliw. Dewch i Deithio: Brasil gan Anni Llŷn, Sioned V....

Archwilio eich Dychymyg

Môr ac Awyr / Ocean Meets Sky add. gan Tudur Dylan Jones Mae Gwern yn cofio gwrando ar ei daid yn adrodd straeon am fan lle mae’r môr yn cwrdd â’r awyr, lle mae morfilod a slefrod yn hedfan ac mae adar a chestyll yn arnofio. A’i daid bellach wedi...

Rhestrau Darllen

ARCHWILIO'R BYD Cwpan Y Byd Pêl-droed ARCHWILIO DY...