O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60

Cyhoeddir O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 heddiw (dydd Llun 1 Tachwedd 2021) i nodi pen-blwydd y sefydliad. Mae’r gyfrol hardd hon yn adrodd stori’r Cyngor Llyfrau dros 60 mlynedd, o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw. Golygwyd y gyfrol gan Gwen...
Cyngor Llyfrau Cymru yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi

Cyngor Llyfrau Cymru yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a dathlu darllen gydag wythnos o weithgareddau o 1–5 Tachwedd 2021.

O edrych yn ôl at ei wreiddiau fel elusen a sefydlwyd i hybu cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn 1961, i gyhoeddi’i weledigaeth am y dyfodol gyda lansiad y Cynllun Strategol pum mlynedd newydd, Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr, bydd y Cyngor yn archwilio holl agweddau’r sector yng Nghymru yn ystod wythnos gyfan o ddathlu.

Bydd byd creadigol, bywiog, cyffrous cyhoeddi yng Nghymru yn cael ei ddadlennu trwy gyfrol y dathlu, ffilmiau o’r byd cyhoeddi ar waith, dathlu rhagoriaeth llenyddiaeth Cymru gyda Gwobr Mary Vaughan Jones, ac yna hel atgofion am lyfrau arbennig, Clwb Darllen Sbondonics, a 60 mlynedd o lyncu llyfrau a dathlu darllen.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd gen i fod yn arwain y sefyliad hwn wrth i ni ddathlu’r garreg filltir arbennig hon, a ninnau’n gweithio ein ffordd at gyfnod yn dilyn Covid ac at y pum mlynedd nesaf. Mae’r deunaw mis diwethaf wedi amlygu’r cyfraniad aruthrol y mae llyfrau wedi’i wneud i’n lles a’n hiechyd meddwl. Mae cyhoeddi llyfr bob amser yn ffrwyth cydweithio creadigol rhwng yr holl wahanol bobl sy’n rhan o’r diwydiant, sy’n cynnwys y llyfrwerthwyr, a byddwn yn parhau i gefnogi’r diwydiant yma yng Nghymru i sicrhau y bydd y straeon niferus sy’n adlewyrchu ein gwlad yn dal i gael eu hadrodd.”

Bydd rhaglen lawn yn ystod yr wythnos – ewch i wefan llyfrau.cymru am ragor o wybodaeth.

 

Dydd Llun 1 Tachwedd – Pen-blwydd hapus!

Lansio cyfrol ddathlu’r Cyngor Llyfrau, O Hedyn i Ddalen

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda lansiad llyfr newydd i ddathlu’r pen-blwydd. Mae O Hedyn i Ddalen yn adrodd stori’r Cyngor dros 60 mlynedd o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw. Wedi’i olygu gan Gwen Davies a gyda darluniau unigryw gan yr argraffydd Molly Brown, mae’r llyfr yn olrhain etifeddiaeth a gwaith y Cyngor trwy gyfraniadau gan yr Athro M. Wynn Thomas a rhai o ffigurau blaenllaw eraill y sector. Mae chwaer-gyfrol, Two Rivers from a Common Spring, ar gael yn Saesneg.

 

Dydd Mawrth 2 Tachwedd – Dathlu rhagoriaeth

Menna Lloyd Williams yn ennill Gwobr Mary Vaughan Jones

Menna Lloyd Williams yw enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones 2021, gwobr sy’n ei hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant. Bydd digwyddiad digidol ar sianel Cyngor Llyfrau Cymru #carudarllen AM amam.cymru/carudarllen am 7pm ddydd Mawrth, 2 Tachwedd fel rhan o ddathliadau’r wythnos.

 

Dydd Mercher 3 Tachwedd – Tuag at y dyfodol

Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr – Lansio strategaeth bum mlynedd y Cyngor Llyfrau

Am 60 mlynedd mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflawni ei brif bwrpas, sef cefnogi diwydiant cyhoeddi Cymru a hybu darllen er pleser i bawb.

Wrth gyhoeddi’i strategaeth newydd mae’r Cyngor yn datgan ei uchelgeisiau a’i weledigaeth am y pum mlynedd nesaf. Mae’n amlinellu sut y bydd yn symud ymlaen gyda’i genhadaeth yng nghyd-destun yr adferiad yn dilyn Covid, gan ymateb i Raglen Lywodraethu a Datganiad Llesiant Llywodraeth Cymru a chefnogi’r diwydiant i ymateb i gyfleoedd a heriau’r dyfodol.

 

Dydd Iau 4 Tachwedd – Hel atgofion

Dathlu 60 mlynedd o lyfrau, straeon – a Sbondonics!

Bydd tîm y Cyngor Llyfrau yn pori trwy’r archif ac yn rhannu delweddau ac atgofion o’r 60 mlynedd diwethaf ar ei gyfrifon cymdeithasol @LlyfrauCymru (Trydar / Instagram) a @Llyfr Da / Fab Books (Facebook). O faniau’r Ganolfan Ddosbarthu i gyn-enillwyr Gwobrau Tir na n-Og a Chlwb Sbondonics, cewch flas o weithgaredd y Cyngor Llyfrau dros y 60 mlynedd diwethaf.

 

Dydd Gwener 5 Tachwedd – y diwydiant ar waith
Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw
Bydd yr wythnos yn gorffen trwy rannu dwy ffilm fer (10 munud) a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y dathliad, sef Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw ac Our Story – publishing voices today, sy’n arddangos y diwydiant cyhoeddi a’r byd llyfrau yng Nghymru. Trwy leisiau Manon Steffan Ros, Jon Gower, Myrddin ap Dafydd ac eraill, mae’r ffilmiau yn archwilio rôl a chyfraniad y Cyngor Llyfrau at y maes arbennig hwn dros y 60 mlynedd diwethaf a’i gefnogaeth barhaus wrth i’r diwydiant edrych tuag at y dyfodol.

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT – GWOBR MARY VAUGHAN JONES 2021 Cyfraniad Menna Lloyd Williams gaiff ei anrhydeddu wrth gyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones eleni. Fe gyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu...
ARAITH ALLWEDDOL YR ATHRO CHARLOTTE WILLIAMS OBE

ARAITH ALLWEDDOL YR ATHRO CHARLOTTE WILLIAMS OBE

https://youtu.be/FFnOoUaqD8s Dyma sgwrs wadd gan yr Athro Charlotte Williams OBE ar y thema Harnessing ‘book power’ for race Equality in Wales a draddodwyd yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru, Gorffennaf...
CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN PENODI TRYSORYDD NEWYDD, ALFRED OYEKOYA

CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN PENODI TRYSORYDD NEWYDD, ALFRED OYEKOYA

Heddiw mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi penodi eu Trysorydd newydd, Alfred O. Oyekoya, i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd y rôl bwysig hon ar y Bwrdd yn allweddol wrth arwain y Cyngor wrth iddo gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru trwy adferiad Covid, gan...