Alwena Hughes Moakes – Ymddiriedolwr

Mae Alwena Hughes Maokes yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Yn wreiddiol o’r...

Dr Caroline Owen Wintersgill – Ymddiriedolwr

Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer gradd Meistr Astudiaethau Cyhoeddi ym Mhrifysgol Stirling. Mae ganddi ddoethuriaeth ym maes darllen, ysgrifennu a chyhoeddi llenyddiaeth gyfoes. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn...

Rajvi Glasbrook Griffiths – Ymddiriedolwr

Yn Bennaeth Ysgol Gynradd High Cross yng Nghasnewydd sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ers 2009, mae Rajvi Glasbrook Griffiths hefyd yn Gyfarwyddwr gŵyl Llenyddiaeth Caerllion ers 2014, yn Gyfarwyddwr Prosiect Porth Caerllion ers 2016, ac yn aelod o Fwrdd...

Rona Aldrich – Is-Gadeirydd

Mae Rona Aldrich wedi bod yn Is-gadeirydd y Cyngor Llyfrau ers 2021. Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers dros 40 mlynedd. Mae ganddi radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymddeol roedd...

Yr Athro Carwyn Jones – Ymddiriedolwr

Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999–2021. Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ei flaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr gan weithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr,...