Yr Athro Gerwyn Wiliams – Ymddiriedolwr

Mae Gerwyn Wiliams yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2005, a bu’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg ers 1989. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ers 2019 ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws ers 2018. Yn gyn-enillydd Coron...

Yr Athro Jane Aaron – Ysgrifennydd Mygedol

Mae’r Athro Jane Aaron yn addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac yn awdur o Gymru. Hyd nes ei hymddeoliad ym mis Rhagfyr 2013, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg yn ne Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o’r Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn...

Yr Athro M. Wynn Thomas – Ymddiriedolwr

Mae M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau dros nifer o flynydoedd, yn Athro Saesneg a deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith...

Bwrdd Ymddiriedolwyr

Linda Tomos – Cadeirydd Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Rona Aldrich – Is-Gadeirydd Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn...
Yr Athro M. Wynn Thomas

Yr Athro M. Wynn Thomas

Yr Athro M. Wynn Thomas yw deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru).

Mae’n arbenigwr mewn barddoniaeth Americanaidd ac yn nwy lenyddiaeth Cymru fodern, ac wedi bod yn Athro ar ymweliad ym Mhrifysgolion Havard a Tubingen.  Bu’n Gadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau am bum mlynedd. Ar ôl gweithredu fel Cadeirydd Academi Awduron Cymru, Yr Academi Gymreig, cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi yn 2000 ac yn 2012 fe’i gwnaed yn Gymrawd Er Anrhydedd Coleg Cenedlaethol Cymru. Fe’i etholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1996, a derbyniodd anrhydedd uchaf gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2000. Mae yn Gymrawd ac yn gyn Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.