Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021.

Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw.

I ddathlu cyhoeddi’r teitl, mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth arbennig i ddod o hyd i’r 150 o gymeriadau o lyfrau plant Cymru sydd wedi cael eu cuddio gan Huw mewn poster prysur.

Cystadleuaeth
Mae cystadleuaeth ‘Ble yn y byd, Boc?’ ar agor i ysgolion ac i unigolion o bob oedran, ac mae gwobrau gwych i’w hennill.

Bydd enillydd categori’r ysgolion yn derbyn pentwr o lyfrau, gyda thaleb llyfrau £50 yn ail wobr.

Y brif wobr yn y categori unigol fydd darn gwreiddiol o waith celf Huw sy’n ymddangos yn Ha Ha Cnec a phentwr o lyfrau, gyda thocyn llyfr £20 yn ail wobr.

Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Huw Aaron: “Dw i wedi arlunio llun o barti arbennig iawn ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r gwesteion i gyd yn gymeriadau o lyfrau plant a theledu Cymru – rhai newydd, rhai o’m mhlentyndod, a rai sy’n hen iawn erbyn hyn! Mae ’na 150 i’w henwi – ond bydd angen help mam a dad (ac efallai Mam-gu neu Taid!) i adnabod nhw i gyd. Pob lwc!”

Mae manylion pellach am y gystadleuaeth i’w gweld ar www.mellten.com a’r dyddiad cau yw 31 Ionawr 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Ddiwrnod y Llyfr 4 Mawrth 2021.

Bydd modd prynu copi o Ha Ha Cnec (Y Lolfa) am £1 neu ddefnyddio’r tocyn llyfr £1 a roddir i bob plentyn i nodi Diwrnod y Llyfr 2021 ar 4 Mawrth.

Bydd Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, hefyd ar gael eto eleni am £1. Dyma lyfr sy’n adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Nod Diwrnod y Llyfr yw sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i gael eu llyfr eu hunain a’u helpu i fwynhau’r profiad o ddarllen er pleser, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Rydym wrth ein bodd felly bod Huw Aaron wedi cytuno i greu llyfr newydd a fydd, gyda chyfrol Myrddin ap Dafydd, yn sicrhau dewis da o lyfrau Cymraeg am £1 i blant ar Ddiwrnod y Llyfr 2021.”

Mae’r poster sydd yn sail i’r gystadleuaeth yn ymddangos yn llyfr newydd Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau gan Huw Aaron a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020 ac sydd wedi’i ddewis yn Llyfr y Mis gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Rhagfyr 2020.

Diwrnod y Llyfr
Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones.

Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.

Bydd manylion pellach am ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2021 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.

Darllenwyr Brwd Cymru yn Paratoi i Ddathlu Diwrnod y Llyfr 2020

Darllenwyr Brwd Cymru yn Paratoi i Ddathlu Diwrnod y Llyfr 2020

Bydd darllenwyr brwd Cymru yn ymuno â’i gilydd i ddathlu Diwrnod y Llyfr, sy’n cael ei gynnal eleni ar 5 Mawrth 2020.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, siopau llyfrau, colegau, llyfrgelloedd, busnesau a theuluoedd i ymuno â’r dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â rhannu’r mwynhad o ddarllen.

I nodi Diwrnod y Llyfr 2020, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd dau lyfr arbennig i blant ar gael i’w prynu am £1 yn unig, neu gall plant gyfnewid eu tocyn £1 Diwrnod y Llyfr am un o’r cyfrolau. Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau hefyd ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Mae Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yn dilyn hanesion y cymeriad poblogaidd Cyw a’i ffrindiau, ac mae’r llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr iau a theuluoedd sy’n dysgu Cymraeg gyda’u plant.

Mae Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, yn adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Mae adrodd a rhannu straeon hefyd yn thema bwysig ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni gydag ymgyrch ledled Prydain i lansio ‘chwyldro darllen’ drwy rannu miliwn o straeon. Gall unrhyw un gymryd rhan yn yr ymgyrch: teuluoedd, ysgolion, siopau llyfrau a llyfrgelloedd, meithrinfeydd, ac ati. Ar ôl cofrestru ar worldbookday.com/share-a-million-stories, mae modd dod o hyd i bopeth sydd ei angen, gan gynnwys canllawiau, cwestiynau cyffredin ac awgrymiadau er mwyn rhannu stori.

Fel rhan o’r dathliadau, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio gêm gardiau Top Trumps arbennig i blant sy’n cynnwys cymeriadau o lyfrau Cymraeg hen a newydd. Bydd y cardiau’n siŵr o ddod â gwên i wynebau rhieni hefyd wrth weld rhai o hoff gymeriadau eu plentyndod yn y gêm megis Sam Tân a Siôn Blewyn Coch.

Bydd y Cyngor hefyd yn nodi Diwrnod y Llyfr trwy gynnal dau ddigwyddiad arbennig i blant yn Theatr Felinfach ar 4 Mawrth, a Theatr Glan-yr-Afon yng Nghasnewydd ar 5 Mawrth.

Bydd plant ysgolion yr ardal yn cael gwahoddiad i ddod i Theatr Felinfach i rannu straeon gyda rhai o awduron a darlunwyr Cymru, gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Casia Wiliam, Aneirin Karadog, Huw Aaron ac Elidir Jones.

Ar Ddiwrnod y Llyfr ei hunan, bydd plant yn mynd i Theatr Glan-yr-Afon i rannu straeon gyda’r cyflwynydd a’r awdur plant Lucy Owen, y storïwraig a’r awdur Atinuke, Mark Llewelyn Evans, awdur ABC of Opera, a’r darlunydd a’r awdur o’r Rhondda Siôn Tomos Owen.

Ac mewn digwyddiad arbennig yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.

www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?id=13336

Yng Nghymru, mae ymgyrch Diwrnod y Llyfr yn cael ei gydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones. Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.

Yn ogystal â chael eu dosbarthu drwy’r drefn arferol yn ysgolion a meithrinfeydd, rhwng dydd Mercher 5 Chwefror a dydd Mawrth 17 Mawrth bydd tocyn £1 Diwrnod y Llyfr yn ymddangos ar bob blwch Happy Meal™ gan gwmni McDonald’s ym Mhrydain ac Iwerddon. Gall plant a theuluoedd ei gyfnewid am un o blith nifer o deitlau Diwrnod y Llyfr yn rhad ac am ddim, gan gynnwys y teitlau Cymraeg, neu gael gostyngiad o £1 oddi ar bris llyfr neu lyfr sain sy’n costio £2.99 neu fwy, yn eu siop lyfrau neu archfarchnad leol sy’n cymryd rhan yn y cynllun rhwng 27 Chwefror a 29 Mawrth.

Llwyfan i Iechyd Meddwl ar Ddiwrnod y Llyfr

Llwyfan i Iechyd Meddwl ar Ddiwrnod y Llyfr

Ydy llyfrau yn gallu helpu i leddfu problemau iechyd meddwl? Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw eleni yn nigwyddiad blynyddol Diwrnod y Llyfr sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Mae ystod eang o lyfrau i’w cael fel rhan o gynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn, sy’n cyhoeddi cyfresi o lyfrau defnyddiol yn cefnogi iechyd a lles ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys iechyd meddwl a dementia.

Asiantaeth The Reading Agency sy’n gyfrifol am y cynllun ar draws Prydain mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau Cymru’n sicrhau bod detholiad o’r llyfrau ar gael yn Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Mae’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cynnig gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.

Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.

Y golygydd a’r adolygydd llyfrau Bethan Mair sy’n cadeirio’r drafodaeth banel ar Ddiwrnod y Llyfr.

“Llyfrau yw fy mywyd”, meddai Bethan “ond mae fy mywyd hefyd wedi cynnwys cyfnodau o iselder a gorbryder difrifol. Dyw hi ddim bob amser yn hawdd siarad am y pethau hyn, ac mae hynny’n fwy anodd fyth pan ydych chi wedi arfer gwisgo mwgwd ‘popeth-yn-iawn’ ar gyfer y cyhoedd. Ond mae gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod pobl eraill wedi dioddef fel chi, ac wedi dod drwyddi, yn gallu bod yn gysur mawr.

“Mae hunan-wella’n elfen bwysig o bob triniaeth iechyd meddwl,” ychwanegodd hi “ac eto, rhaid cael help llaw – ac mae llyfr yn gymorth hawdd ei gael ar unrhyw adeg. Mae llyfrau Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn yn dod ymhob lliw a llun, ar gyfer pob math o achlysur, a dim ond daioni all ddeillio o’r ddarpariaeth arloesol hon yn Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gadeirio trafodaeth fywiog, ddeallus a datgelol ar faes sy’n cyffwrdd â chynifer o bobl.”

Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys:

• Manon Elin James – un o sylfaenwyr meddwl.org, sef gwefan sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

• Bethan Hughes – Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych sy’n arwain ym maes lles a chynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar draws Cymru.

• Sharon Marie Jones – awdur plant sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei galar a’i hiechyd meddwl ers i’w mab pump oed gael ei ladd mewn damwain car yn 2016.

• Dr Harri Pritchard – meddyg teulu profiadol sy’n aml yn trafod materion meddygol ar y cyfryngau.

• Angharad Tomos – awdur arobryn sydd wedi ysgrifennu am yr iselder difrifol a ddioddefodd yn dilyn genedigaeth ei phlentyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ddathlu’r gair ysgrifenedig a sut mae darllen yn gallu bod yn llesol i ni ar sawl lefel. Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Mae pob un o’r llyfrau hunangymorth yn y cynllun hwn wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd ac mae sicrhau bod deunydd safonol o’r fath hefyd ar gael yn y Gymraeg yn hollbwysig.”

Dywedodd Debbie Hicks MBE, Cyfarwyddwr Creadigol The Reading Agency: “Bydd un ymhob pedwar ohonon ni yn wynebu problem iechyd meddwl rhywbryd yn ein bywydau. Ar Ddiwrnod y Llyfr, rydym wrth ein bodd yn tynnu sylw at y budd cydnabyddedig a ddaw yn sgil darllen i helpu pobl ddeall a rheoli eu lles a’u hiechyd meddwl. Rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus i ddod â Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn i Gymru, gan sicrhau fod y cynllun yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Bydd digwyddiad Diwrnod y Llyfr yn dechrau am 6yh gyda derbyniad yn Venue Cymru yn Llandudno nos Iau 5 Mawrth 2020, gyda’r drafodaeth banel am 6.30yh.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Y cyfan sydd angen ei wneud i gadw lle yw ebostio menai.williams@llyfrau.cymru.

Mae teitlau yn y gyfres Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gael i’w benthyg o lyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol hefyd argymell y llyfrau ar bresgripsiwn fel rhan o driniaeth unigolyn.

Mae manylion pellach am weithgareddau Cyngor Llyfrau Cymru i nodi Diwrnod y Llyfr i’w gweld ar ein gwefan.

Diwrnod y Llyfr

Cenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw annog plant a phobl ifanc i ddarganfod pleserau darllen drwy sicrhau y gall bob unigolyn berchen ei lyfr ei hun. Cydlynir Diwrnod y Llyfr yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ydych chi yn chwilio am...

Cystadleuaeth #rhannwchStori #diwrnodyllyfr 2021

Mae treulio deg munud y dydd yn darllen gyda phlentyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w lwyddiant yn y dyfodol.

Mae rhannu straeon yn ffordd wych o ddathlu darllen gyda’n gilydd ar Ddiwrnod y Llyfr 2021. Felly rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno yn ein cystadleuaeth rhannu stori.

Postiwch lun ohonoch chi yn rhannu stori gyda’r teulu, gyda’r gath neu yn darllen yn eich hoff leoliad!

Cofiwch dagio @llyfrauCymru a chynnwys  #rhannwchstori #diwrnodyllyfr #carudarllen

Mae croeso i chi e-bostio’r llun atom  – cllc.plant@llyfrau.cymru

Gallai rhannu stori fod yn darllen gartref gyda’ch teulu, darllen yn eich hoff gilfach, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gyda’ch anifail anwes, darllen llyfr wedi’i wisgo fel eich hoff gymeriad, a mwy!

Mae’r gystadleuaeth yma yn rhedeg rhwng 4 – 31 Mawrth 2021.

Gwobrau: Mi fydd y 5 llun gorau yn ennill pentwr o lyfrau werth £30.

Gweler ein Polisi Preifatrwydd fan hyn – https://llyfrau.cymru/ein-polisiau/dogfennau-corfforaethol/polisi-preifatrwydd/