Ariannu dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg o Ebrill 2022

Ariannu dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg o Ebrill 2022

Cyngor Llyfrau Cymru i ariannu dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg o Ebrill 2022

Bydd gan Gymru fwy o sianeli newyddion digidol pwrpasol yn y Gymraeg o Ebrill 2022 ymlaen wrth i Gyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi pwy fydd yn derbyn cyllid y gwasanaeth newyddion digidol am y 4 blynedd nesaf.

Bydd Golwg 360 a Corgi Cymru yn derbyn cyllid blynyddol o £100,000 yr un dan y cytundeb newydd, a fydd yn parhau o Ebrill 2022 tan Fawrth 2026.

Dyfarnwyd y grantiau yn dilyn proses dendro agored, sy’n gwahodd ceisiadau i ddarparu gwasanaeth newyddion digidol pwrpasol yn y Gymraeg. Gweinyddir y grant gan Gyngor Llyfrau Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gyda phanel annibynnol yn dyfarnu’r cyllid.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Pwrpas y grant yma ydy galluogi darpariaeth newyddion yn y Gymraeg a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd ac amrywiaeth newyddiaduraeth yng Nghymru. Y nod yn y pen draw ydy cynyddu nifer y bobl, yn enwedig pobl ifanc, sy’n ymgysylltu â’r newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cyflwynodd y ddau gwmni gynigion cyffrous a gwahanol i’r panel grantiau annibynnol gan ddangos sut y bydden nhw’n darparu gwasanaethau newyddion o ansawdd uchel a fydd yn apelio at ddarllenwyr ar draws Cymru, gyda straeon a chynnwys sydd yn berthnasol, yn hygyrch a chyda llais Cymreig cryf.

“Rydym ni’n falch iawn i allu dyfarnu’r cyllid grant i’r ddau gwmni a rhoi mwy o ddewis nag erioed i bobl dderbyn eu newyddion dyddiol yn y Gymraeg trwy amrywiaeth o blatfformau digidol.”

Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Dros Dro Golwg Cyf: “Mae Golwg yn falch o’r cyfle i barhau i gynnig gwasanaeth newyddion digidol yn y Gymraeg trwy golwg360.cymru. Mae gennym gynlluniau cyffrous ynglŷn â sut i symud y gwasanaeth i gyfeiriad ychydig yn wahanol, gan ymateb i’r hyn rydym wedi’i ddysgu am y gynulleidfa ers lansio golwg360 yn 2009, yn ogystal â’r modd y mae’r byd newyddion wedi esblygu ers hynny. Rydym yn hyderus yng ngallu ein tîm profiadol i barhau i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Dywedodd Huw Marshall, Cyhoeddwr Corgi Cymru: “Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru sydd wedi croesawu ein gweledigaeth ar gyfer creu gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg newydd a fydd yn targedu cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau Cymreig ôl-ddiwydiannol, yn ogystal â’r rheini sy’n byw mewn cymunedau Cymraeg mwy traddodiadol.

“Bydd y buddsoddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ein galluogi, gobeithio, i ddatblygu gwasanaeth masnachol hyfyw yn yr iaith Gymraeg ac ychwanegu at luosogrwydd o fewn tirwedd y cyfryngau yng Nghymru.”

Gallwch chi ddilyn newyddion Golwg 360 ar Golwg360 – Newyddion, materion cyfoes, chwaraeon a chelfyddau – y diweddara yn ddi-dor yn y Gymraeg.

Bydd Corgi.Cymru yn cael ei lansio ar 25 Ebrill 2022. Gallwch chi ddilyn newyddion Corgi ar www.corgi.cymru

Facebook.com/corgicymru
Instagram.com/corgicymru
https://www.tiktok.com/@corgicymru

Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Tir na n-Og 2022

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru Tir na n-Og 2022

Drama afaelgar mewn cyfnod o ryfel… chwedlau hynafol wedi’u hadrodd o’r newydd… stori’n myfyrio ar rym iachaol natur a chymeriadau lliwgar o fyd hanes Cymru. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 11 Mawrth. Mae’r gwobrau eleni yn gymysgedd eclectig o’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2021.

Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg, neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones a Catherine Fisher. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.

Dyma’r rhestr fer ar gyfer llyfr Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys (4–18 oed):

Welsh Fairy Tales, Myths and Legends gan Claire Fayers (Scholastic, 2021)
‘Llyfr hyfryd yn llawn straeon rhyfeddol, difyr a chyffrous o fyd y tylwyth teg, mythau a chwedlau Cymreig, sy’n cael eu hadrodd o’r newydd gyda chynhesrwydd mawr ac yn llawn hiwmor.’

10 Stories from Welsh History that everyone should know gan Ifan Morgan Jones (darluniau gan Telor Gwyn) (Dragon Press, 2021)
‘Cyflwyniad arbennig i ddeg ffigur allweddol a digwyddiadau yn hanes ein gwlad, gyda’r wybodaeth wedi’i chyflwyno mewn ffordd hynod hygyrch a darllenadwy, gyda darluniau trawiadol.’

Swan Song gan Gill Lewis (Barrington Stoke Ltd, 2021)
‘Llyfr hardd ac emosiynol am rym iachaol natur; er gwaethaf ei dynerwch telynegol a chain, mae iddo neges bwerus am obaith ac adferiad.’

The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury Publishing Ltd, 2021)
‘Stori afaelgar wedi’i gosod yng nghymoedd de Cymru mewn cyfnod o ryfel, sydd yn llawn dirgelwch a chynllwynio ond caredigrwydd a chyfeillgarwch yn ogystal.’

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestr fer ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Mae gan y beirniaid sydd ar y Panel Saesneg eleni – Alex Ball (Cadeirydd), Jannat Ahmed, Simon Fisher a Lydia Bundy – brofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant.

Dywedodd Alex Ball, Cadeirydd y Panel Saesneg: “Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o broses feirniadu Gwobrau Tir na n-Og eto eleni. Fel llyfrgellydd, mae wedi bod yn braf darganfod awduron a theitlau gyda’r fath amrywiaeth o gynnwys gyda dimensiwn Cymreig dilys, nifer ohonynt mewn lleoliadau braf. Rwyf wedi argymell sawl un o’r teitlau yma i ffrindiau, teulu a darllenwyr ifanc rwy’n eu cyfarfod yn y llyfrgell. Mae bob amser yn braf gallu rhannu teitlau gwych gyda chynulleidfa newydd a rhannu’r cyfle i weld ein diwylliant, ein hanes a’n gwlad yn cael eu hadlewyrchu rhwng cloriau llyfr da.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Eleni eto, mae gennym restr fer o safon uchel – ac rwy’n falch iawn nad oes rhaid i mi ddewis enillydd o blith y detholiad bendigedig yma! Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi bod ynghlwm â chreu’r cyfrolau sydd ar y rhestr fer. Mae’r ffaith fod pedwar llyfr yn hytrach na’r tri arferol yn dweud rhywbeth am y safon eleni – mae hyn yn dyst i nifer y llyfrau gwych oedd yn gymwys ar gyfer y wobr eleni.”

Cyhoeddwyd y rhestrau byrion ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 10 Mawrth.

Mae’r categori ar gyfer llyfrau Cymraeg oedran cynradd yn cynnwys Gwil Garw a’r Carchar Crisial gan Huw Aaron (Llyfrau Broga), Sara Mai a Lleidr y Neidr gan Casia Wiliam (Y Lolfa), a Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (Atebol).

Y tri llyfr sydd ar y rhestr fer yn y categori oedran uwchradd yw Hanes yn y Tir gan Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch), Y Pump, gol. Elgan Rhys (Y Lolfa), a Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa).

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ddydd Iau, 2 Mehefin, a bydd y teitl Saesneg buddugol yn cael ei ddatgelu ar y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, 20 Mai.

Mae manylion pellach am y gwobrau a’r llyfrau sydd ar y rhestr fer ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

 

Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2022

Dirgelion, anturiaethau a direidi cyffrous… golwg ffres ar hanesion a chymeriadau Cymru… a straeon pwerus a grymusol am dyfu i fyny yng Nghymru heddiw. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn datgelu’r llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 10 Mawrth. Mae’r gwobrau eleni yn gymysgedd eclectig o’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2021.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg, neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones, Caryl Lewis a Gareth F. Williams. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.

Rhestr Fer Cynradd

Gwil Garw a’r Carchar Crisial, Huw Aaron, Llyfrau Broga
Llyfr llawn doniolwch, digwyddiadau dychmygus, bwystfilod arbennig, a phrif gymeriad sydd rhywsut yn gallu goroesi pob trallod ac anhrefn.

Sara Mai a Lleidr y Neidr, Casia Wiliam, Y Lolfa
Stori sy’n gafael o’r cychwyn cyntaf, yr ysgrifennu yn gelfydd, yn gymesur ac yn meddu ar hiwmor rhwydd.

Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts, Atebol
Stori lawn antur sy’n hoelio sylw’r darllenydd o’r paragraffau cyntaf, ac yn portreadu byd estron y Wyrcws yn gynnil ac yn afaelgar.

Rhestr Fer Uwchradd

Hanes yn y Tir, Elin Jones, Gwasg Carreg Gwalch
Cyfrol hardd sydd, yn symlrwydd y cyflwyniad a’r ieithwedd, yn gwneud hanes cymhleth yn hygyrch i’r darllenydd.

Y Pump, gol. Elgan Rhys, Y Lolfa
Casgliad o straeon heriol ac arbrofol sy’n cydblethu i greu un cyfanwaith ardderchog.

Fi ac Aaron Ramsey, Manon Steffan Ros, Y Lolfa
Nofel gyfoes a gafaelgar sy’n cyflwyno cymeriadau real o gig a gwaed sy’n taro tant gyda darllenwyr ifanc heddiw.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Alun Horan (Cadeirydd), Morgan Dafydd, Sara Yassine a Ceri Griffith – rhai sydd â phrofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant. 

 Dywedodd Alun Horan, Cadeirydd y Panel Cymraeg: “Roedd yn bleser ac yn fraint cadeirio’r Panel Cymraeg eleni gyda’r arlwy yn arwydd pendant fod y diwydiant yn iach iawn. Braf gweld nifer o enwau newydd a bod safon ysgrifennu a diwyg y teitlau gyrhaeddodd y rhestr fer yn ardderchog. Ymysg y teitlau roedd sawl llyfr hynod o wreiddiol sy’n mynd â llyfrau plant a phobl ifanc yn y Gymraeg i dir newydd cyffrous, gyda’r potensial o ddenu darllenwyr anfoddog ac anodd eu cyrraedd.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyfrannu at greu’r llyfrau rhagorol ar y rhestrau byrion eleni. Nod y gwobrau hyn ydy dathlu’r gorau o blith llyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg ac mae’n bleser mawr gweld llyfrau mor arloesol a chyffrous yn cael eu hanrhydeddu. Rydw i’n hynod o falch nad ydw i’n wynebu’r cyfrifoldeb o ddewis enillwyr o’r detholiad campus yma!”

Bydd y rhestr fer ar gyfer llyfrau Saesneg yn cael ei datgelu am 18:30 ddydd Gwener, 11 Mawrth ar y Radio Wales Arts Show.

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ddydd Iau, 2 Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, ac enillydd y categori Saesneg ddydd Gwener, 20 Mai ar y Radio Wales Arts Show.

Dathlu 25 mlynedd o Diwrnod y Llyfr

Dathlu 25 mlynedd o Diwrnod y Llyfr

Dathlu 25 mlynedd o Ddiwrnod y Llyfr

Bydd y rhaglen lawn eleni yn helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at ddarllen.

Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ddydd Iau, 3 Mawrth 2022, ac mae’n gwahodd pawb i barti i ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol darllen plant.

Darllen er pleser yw’r dangosydd mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol – yn fwy felly nag amgylchiadau ei deulu, cefndir addysgol ei rieni neu eu hincwm.[1] Fodd bynnag, mae’n mynd yn llai poblogaidd, ac mae ar ei lefel isaf ers 2005.

Eleni, mae Diwrnod y Llyfr yn ysbrydoli plant a theuluoedd i ystyried eu hunain yn ddarllenwyr ac i ddarllen gyda’i gilydd yn fwy rheolaidd.

Mae uchafbwyntiau ymgyrch Diwrnod y Llyfr yng Nghymru yn cynnwys: 

  • Llyfr £1 newydd yn Gymraeg gan yr awdur, y bardd a’r seren teledu plant nodedig Anni Llŷn – Lledrith yn y Llyfrgell (Y Lolfa)
  • Adnoddau hwyliog a lliwgar yn llawn syniadau am sut i ddathlu gyda pharti wedi’i ysbrydoli gan ddarllen i nodi dathliadau’r pen-blwydd yn 25 oed
  • Cystadleuaeth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor Llyfrau Cymru i ennill pentwr o 25 llyfr
  • Cystadleuaeth noddedig ar Awr Fawr Cyw (S4C) i annog plant ac ysgolion i anfon lluniau o’u dathliadau a’u gwisgoedd Diwrnod y Llyfr

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod y Cyngor Llyfrau yn gallu cefnogi’r gwaith o gyflwyno Diwrnod y Llyfr yng Nghymru, a dathlu’r pen-blwydd arbennig hwn. Rydym yn gwybod bod datblygu arfer o ddarllen er pleser yn ifanc yn dod â manteision gydol oes, ac rydym yn credu’n gryf y gall pawb fod yn ddarllenydd. Dyna pam rydym mor falch o allu sicrhau bod llyfr £1 arall ar gael yn Gymraeg eleni ac o weithio gyda’n ffrindiau o elusen Diwrnod y Llyfr i annog pawb i ddod o hyd i’r llyfr addas ar eu cyfer, ble bynnag maen nhw ar eu taith ddarllen.”

Er mwyn ei gwneud yn hawdd i bawb gymryd rhan yn Niwrnod y Llyfr 2022 ac i annog dathliad o ddarllen, bydd cyfres o adnoddau ar-lein hefyd ar gael ar wefan Diwrnod y Llyfr, gan gynnwys taflenni gweithgaredd a chanllawiau trafod i athrawon, rhieni a gofalwyr.

Yn ogystal, mae’r Cyngor Llyfrau yn annog pobl i fynd draw i’w siop lyfrau neu lyfrgell leol i ddarganfod pa lyfrau sy’n cydio yn eu dychymyg. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar y diwrnod ei hun, a chyn hynny hefyd, gan gynnwys ymgyrch You Are A Reader ar y cyfryngau cymdeithasol, lle bydd awduron gwaddol Diwrnod y Llyfr, dylanwadwyr a thalentau o fydoedd teledu, ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth yn rhannu eu hoff straeon ac yn annog plant a’u teuluoedd i ymgolli mewn llyfrau a mwynhau darllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.

Cymryd rhan
Diolch i waith National Book Tokens ar y cyd â chyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn dosbarthu dros 15 miliwn o docynnau llyfrau gwerth £1/€1.50 ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon bob blwyddyn drwy ysgolion, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, carchardai ac elusennau eraill. Yn ogystal, mae modd lawrlwytho’r tocyn digidol untro o wefan Diwrnod y Llyfr.

Gellir cyfnewid tocynnau am unrhyw lyfr £1 rhwng dydd Iau, 17 Chwefror a dydd Sul, 27 Mawrth 2022 mewn siopau llyfrau, siopau llyfrau cadwyn ac archfarchnadoedd. Mae hefyd yn bosibl eu defnyddio fel cyfraniad o £1/€1.50 tuag at unrhyw lyfr arall.

[1] Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ymhlith tystiolaeth arall – https://www.worldbookday.com/about-us/the-evidence/

 

Cyfarchion y Nadolig

Cyfarchion y Nadolig

Bydd y Cyngor Llyfrau ar gau o nos Iau, 23 Rhagfyr 2021 ac yn dychwelyd wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 4 Ionawr 2022.