Sut i Ymgeisio

  Mae croeso i unrhyw un sydd am gael cyngor ynglŷn â’r drefn o ymgeisio am grantiau gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn uniongyrchol, yn enwedig os ydych yn gyhoeddwr newydd sy’n ystyried mentro i’r maes. Nid yw’r Cyngor yn derbyn ceisiadau am grant yn...

Cyfieithu

CYFIEITHU Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn cynnig grantiau yn uniongyrchol i gyfieithwyr. Serch hynny, mae’n bosibl cael peth cefnogaeth tuag at waith cyfieithu (o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu o unrhyw iaith i’r Gymraeg). Dylai cyhoeddwyr drafod eu prosiectau ymlaen llaw gyda...

Grantiau Sydd ar Gael

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r grantiau cyhoeddi, â’r Cyngor Llyfrau yn eu gweinyddu. Mae angen i gyhoeddwyr gyflwyno cais am gefnogaeth ac mae pob cais yn cael ei ystyried gan Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg) annibynnol y Cyngor Llyfrau....

Gwybodaeth i Lyfrwerthwyr

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig cymorth ariannol i lyfrwerthwyr mewn dwy ffordd.

Y Cynllun Ymestyn

Mae’r Cynllun Ymestyn yn cynorthwyo llyfrwerthwyr i fynychu digwyddiadau trwy Gymru gyfan. Gweinyddir y cynllun hwn gan Adran Gwerthu a Marchnata’r Cyngor. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma. Nid yw’r cynllun hwn yn cael ei ariannu o’r Grant Cyhoeddi.

Y Grant Cyhoeddi (Cymraeg)

Mae cronfa fechan o fewn y Grant Cyhoeddi (Cymraeg) a ddefnyddir i gynnig gostyngiadau ychwanegol i lyfwerthwyr annibynnol sydd â chyfrif gyda Chanolfan Ddosbarthu’r Cyngor, ac sydd yn cyrraedd trothwy gwerthiant penodol ar y cyfrif hwnnw. Nid oes angen i lyfwerthwyr wneud ceisiadau am y taliadau hyn. Gweinyddir y cynllun gan y Ganolfan Ddosbarthu.

Grantiau i Gyhoeddwyr (deunydd Saesneg)

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweinyddu grantiau ar gyfer cyhoeddi ystod eang o lyfrau a chylchgronau Saesneg eu hiaith ar gyfer oedolion a phlant. Yn bennaf, rydym yn cefnogi cyhoeddiadau sydd â ffocws diwylliannol Cymreig gan gynnwys deunydd hamdden a theitlau...