Darllen a Bwrw Bol!

Darllen a Bwrw Bol!

Gwahoddiad arbennig i fod yn rhan o Wobr Tir na n-Og – Dewis y Darllenydd.

Annwyl Ddarllenwyr,

Yma yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru, rydym wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og, ac yn falch iawn o gynnig cyfle i chi fod yn rhan bwysig o’r broses.

Bu ein panel o feirniaid swyddogol wrthi’n brysur dros gyfnod y Nadolig yn darllen yr holl lyfrau a gyflwynwyd i’w hystyried ar gyfer y rhestr fer.

Cyhoeddir y rhestr honno ar 27 Mawrth, ar drothwy’r gwyliau Pasg, gydag adnoddau i unrhyw ddarllenwyr sydd eisiau bod yn feirniaid answyddogol (mae rhai yn ei alw’n Gynllun Cysgodi) yn cael eu hanfon bryd hynny hefyd. Bydd yr adnoddau’n cynnwys manylion am y cyfrolau a’r awduron sydd ar y rhestr fer, yn ogystal ag awgrymiadau am weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r cyfrolau.

Ar y panel beirniaid mae nifer o unigolion sydd ag arbenigedd ym maes llenyddiaeth plant, ac er eu bod nhw’n hyfryd ac yn glyfar iawn, oedolion yw pob un ohonynt; dyma pam ein bod ni eich angen chi – rydym ni am glywed eich barn chi, y darllenwyr.

Dyma’r cynllun:

Byddwn yn anfon set o’r llyfrau sydd ar y rhestr fer atoch cyn gwyliau’r Pasg fel bod gennych amser i’w darllen gyda’ch gilydd fel grŵp neu i’w rhannu a’u darllen yn unigol. Fe fyddwch wedyn yn trafod y llyfrau ac yn penderfynu pa lyfr a ddylai ennill Gwobr Dewis y Darllenydd. Bydd eich pleidlais yn cael ei hychwanegu at bleidleisiau Grwpiau Cysgodi Dewis y Darllenydd a chyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremonïau gwobrwyo a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor, 13 Mai 2020 (y wobr am y llyfr Saesneg orau ac iddi gefndir Cymreig dilys) ac o lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ar 28 Mai (y gwobrau categori cynradd ac uwchradd am y llyfrau gwreiddiol orau).

Fel rhan o Gynllun Cysgodi Dewis y Darllenwyr fe’ch gwahoddir chi i’r seremonïau lle bydd cyfle i gyfarfod yr awduron ar y rhestr fer.

Fe fydden ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhan o’r wobr eleni.

Gadewch i ni wybod (enw’r ysgol/grŵp, categori yr hoffech ei gysgodi – Saesneg/cynradd Cymraeg/uwchradd Cymraeg, nifer y darllenwyr a’u manylion cyswllt) erbyn 14 Chwefror, fan bellaf, fel bod modd i ni sicrhau eich bod yn derbyn y llyfrau.

Y CYNTAF I’R FELIN FYDD HI O RAN DOSBARTHU’R SETIAU LLYFRAU AM DDIM, FELLY YMATEBWCH YN SYDYN! (Bydd modd i chi gymryd rhan o hyd yn y cynllun cysgodi ond bydd rhaid i chi dalu am y llyfrau.)

Gan edrych ymlaen at glywed gennych, a daliwch ati i ddarllen,

Helen Jones

Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen

Darllen a Bwrw Bol!

Golygathon Wici-Llên yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru

Cynhelir Golygathon Wici-Llên, yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, dydd Gwener, 10 Ionawr 2020, rhwng 12:00 – 16:00.

Nod y prosiect Wici-Llên yw creu a chyfoethogi gwybodaeth am lenyddiaeth Cymru ar lwyfannau Wicipedia a Wicidata. Cydlynir y prosiect gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Môn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Bydd Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn bresennol gan gynghori ar ffyrdd o baratoi a golygu tudalennau.

Mae croeso cynnes i chi fynychu’r digwyddiad. Dewch a’ch offer technoleg gyda chi.

Darllen a Bwrw Bol!

Cyngor Llyfrau yn Chwilio am y ‘Gryffalo’ Newydd

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.

Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros.

Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor, “Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd geiriau Manon yn un rhan o’r stori, ond gall y delweddau adrodd yr hyn sydd rhwng y bylchau, ac ychwanegu ati.”

Ychwanegodd, “Yn naturiol, byddwn yn chwilio am dalent weledol a chreadigol fydd yn apelio at gynulleidfa ifanc yn ogystal â’r oedolyn fydd yn rhannu’r stori. Byddwn hefyd yn asesu dawn yr ymgeiswyr i briodi testun a darluniau, a’u dealltwriaeth o naratif, rhediad y stori a’r cymeriadu.”

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau’r Cyngor, “Mae rhai o lyfrau plant mwyaf eiconig Cymru yn llyfrau stori-a-llun, o gyfrolau Sali Mali i Rala Rwdins, ac mae datblygu darlunwyr sy’n gallu dweud stori wreiddiol ar gyfer y plant lleiaf yr un mor bwysig â datblygu awduron. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y gystadleuaeth hon yn help i feithrin to newydd o dalent yn y maes.”

Darperir testun y stori gan Swyddfa’r Eisteddfod a’r Cyngor Llyfrau. Ewch i dudalen 57 o’r Rhestr Testunau ar wefan yr Urdd am fanylion y gystadleuaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2020.

Am ragor o wybodaeth am y daith, cysylltwch â Helen Jones, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB 01970 624151 helen.jones@llyfrau.cymru

Darllen a Bwrw Bol!

Llyfr y Flwyddyn 2020

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Categori Newydd Plant a Phobl Ifanc a Lleoliad y Seremoni

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi categori newydd i Wobr Llyfr y Flwyddyn, sef categori  Plant a Phobl Ifanc.  Bydd y categori ychwanegol hwn yn ehangu cyrhaeddiad ac effaith y wobr drwy gynyddu cyfleoedd a chodi proffil awduron talentog Cymru.

Mae’r datblygiad yma’n cefnogi gweledigaeth  Cynllun Strategol 2019-22  Llenyddiaeth Cymru, i ysbrydoli ac annog cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol ledled Cymru. Bydd y sefydliad yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Cymru i sicrhau bod eu lleisiau a’u barn yn cael eu clywed, ac fe fydd cyfle iddynt bleidleisio yng Ngwobr Barn y Plant a Phobl Ifanc.

Dywedodd  Lleucu Siencyn,  Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru “Mae’n hynod bwysig rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn llenyddiaeth, i uniaethu a chwympo mewn cariad â geiriau. Gall y cariad hwn gael effaith gadarnhaol, barhaol wrth iddynt dyfu’n oedolion. Drwy ymgynghori â’r sector, a’n partneriaid wrth ddatblygu’r Cynllun Strategol newydd, daeth yn amlwg bod awydd cryf i weld ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael ei gynrychioli ar lwyfan llenyddol mwyaf Cymru. Cytunwn yn llwyr, ac mae’r datblygiad pwysig hwn yn sefydlu’n glir bod llenyddiaeth i blant llawn werth a’r hyn a fwriadir ar gyfer oedolion.”

Bydd y categori Plant a Phobl Ifanc yn ymuno â’r tri chategori sy’n bodoli eisoes – Barddoniaeth, Ffuglen, a Ffeithiol Greadigol – yn Gymraeg ac yn Saesneg, gydag un o’r pedwar enillydd categori yn cael eu henwi yn Brif Enillydd Llyfr y Flwyddyn mewn seremoni fawreddog yn yr haf. Bydd ceisiadau i’r categori Plant a Phobl Ifanc wedi’u bwriadu ar gyfer darllenwyr hyd at 16 oed, ac mae ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol oll yn gymwys.

Yn dilyn seremoni hynod lwyddiannus yng  Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth  yn 2019, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gadarnhau y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2020 yn dychwelyd i  Theatr y Werin  ar  nos Iau 25 Mehefin 2020.

Dywedodd  Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau am yr ail flwyddyn yn olynol. Edrychwn ymlaen at ddathlu’r gorau o lenyddiaeth Gymreig yn Aberystwyth, cartref answyddogol llenyddiaeth yng Nghymru.”

Dyddiadau Allweddol 2020

Cyhoeddir Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar ddydd Mawrth 12 Mai 2020, ac fe gynhelir y Seremoni Wobrwyo ar nos Iau 25 Mehefin 2020. Bydd enwau’r panel beirniadu yn cael eu rhyddhau ym mis Mawrth 2020.