Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau

CYFARFOD BLYNYDDOL

Gwahoddir chi i Gyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru
Ddydd Llun, 26 Gorffennaf am 12.00 o’r gloch ar Zoom
Sgwrs wadd gan yr Athro Charlotte Williams OBE ar y thema Harnessing ‘book power’ for race equality in Wales
Anfonwch ebost at castellbrychan@llyfrau.cymru i gael y ddolen ar gyfer y cyfarfod. 

Gwybodaeth bellach: Mae Charlotte Williams OBE, academydd ac awdur, yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac mae ganddi swyddi er anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru. Ochr yn ochr â’i gyrfa academaidd, mae Charlotte wedi dal nifer o apwyntiadau cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn fwyaf diweddar fel Cadeirydd y Gweithgor Gweinidogol ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’, 2020–2021. Fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Noddwr i gylchgrawn Planet ac yn aelod o’r Grŵp Llywio Prosiect ar gyfer Festival 2022 National Theatre Wales. Mae Charlotte yn gyd-olygydd y testun arloesol A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003 a 2015), a chafodd ei hunangofiant, Sugar and Slate (2002), ei ddyfarnu yn Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Mae hi ar banel beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2021, a bu’n feirniad cyn hynny yn 2005. Dyfarnwyd OBE i Charlotte yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines (2007) am wasanaethau i leiafrifoedd ethnig a chyfleoedd cyfartal yng Nghymru.

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2021

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2021

Cynhaliwyd cystadlaethau Darllen Dros Gymru eleni mewn ffordd dra wahanol i’r arfer. Yr un oedd y tasgau i’r darllenwyr; trafod llyfr oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad i ddenu eraill at ddarllen y llyfr. Llinos Penfold oedd yn beirniadu’r trafod a Mari Lovgreen yn beirniadu’r perfformiadau. Ond dan amgylchiadau gwahanol y cyfnod sydd ohoni, bu’n rhaid cynnal y gystadleuaeth ar-lein.

Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd y cyntaf i gystadlu. Ysgol y Felinheli ddaeth i’r brig trwy drafod Llyfr Adar Mawr y Plant gan Onwy Gower (Y Lolfa) a chyflwyno perfformiad yn seiliedig ar Cadi a’r Celtiaid gan Bethan Gwanas (Y Lolfa).  Daeth Ysgol y Gelli ac Ysgol Llanbrynmair yn gydradd ail ac Ysgol Penrhyn-coch ddaeth yn drydydd.

Yng nghystadleuaeth blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Eglwyswrw gipiodd y wobr gyntaf trwy drafod Asiant A: Her Ll gan Anni Llŷn (Y Lolfa) a chyflwyno perfformiad yn seiliedig ar Trio: Antur y Castell gan Manon Steffan Ros (Atebol).  Ysgol Gymraeg Rhydaman ddaeth yn ail ac Ysgol Y Wern oedd yn drydydd.

Dwedodd y beirniaid ei bod hi wedi bod yn fraint beirniadu’r gystadleuaeth a bod yn holl blant, athrawon a chynorthwywyr wedi gwneud ymdrech wych gyda’r gystadleuaeth.

Arwyr y Byd Gwyllt Sialens Ddarllen yr Haf 2021

Arwyr y Byd Gwyllt Sialens Ddarllen yr Haf 2021

Ewch yn ferw gwyllt dros ddarllen gydag Arwyr y Byd Gwyllt yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021 – ar-lein neu yn eich llyfrgell leol

  • Bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr ar 10 Gorffennaf 2021 (fe’i lansiwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 19 Mehefin)
  • Y thema yw ‘Arwyr y Byd Gwyllt’, mewn partneriaeth â WWF, gan annog plant ledled y wlad i gymryd rhan mewn gweithgaredd darllen hwyliog sy’n canolbwyntio ar faterion amgylcheddol
  • Mae platfform Sialens Ar-lein yn cynnig gwobrau digidol am ddarllen, gan gefnogi plant gyda’u darllen ar ôl blwyddyn anodd
  • Ceir cynnwys newydd, cyffrous gan awduron a darlunwyr o Gymru, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru
  • Bydd llyfrgelloedd yn cynllunio rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau
  • Noddir y Sialens gan Pearson ac OverDrive Education, dau sefydliad sydd wedi ymrwymo i gadw plant i ddarllen yr haf hwn
  • Bydd y WWF yn cynnal digwyddiadau rhithwir, gan gynnwys seminar ysgol a gwersi byw

#SialensDdarllenyrHaf #ArwyryBydGwyllt

 Mae’r Asiantaeth Ddarllen, mewn partneriaeth â WWF, yn falch o gyhoeddi bod y naturiaethwr ifanc a’r awdur Dara McAnulty, a’r anturiaethwr a’r cyflwynydd Steve Backshall, yn llysgenhadon ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2021, wrth i’r cynlluniau llawn ar gyfer yr ymgyrch gael eu datgelu.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, a gyflwynir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, yn annog plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen er mwyn pleser dros wyliau’r haf. Bydd y Sialens yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr ar 10 Gorffennaf 2021 (fe’i lansiwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 19 Mehefin). Gan ymuno â WWF ar gyfer 2021, thema eleni yw Arwyr y Byd Gwyllt sy’n ysbrydoli plant i archwilio ffyrdd o helpu i achub y blaned. Mae’r Sialens flynyddol yn cyrraedd dros 700,000 o blant ledled y DU bob blwyddyn, ac mae’r Asiantaeth Ddarllen yn anelu at gynyddu ei heffaith hyd yn oed ymhellach eleni trwy gyrraedd 1 miliwn o blant â’i llwyfan ddigidol newydd sy’n darparu gweithgareddau darllen hygyrch a hwyliog i bob plentyn.

Dywedodd Bethan Hughes ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Sialens Ddarllen yr Haf yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn ein llyfrgelloedd ledled Cymru, ac eleni yn arbennig rydym yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i blant a’u teuluoedd. Mae modd cymryd rhan trwy ymweld â’r llyfrgell, trwy gasglu pecyn, a thrwy’r wefan ddwyieithog gyffrous. Mae’r Sialens yn gyfle i blant ddewis beth maen nhw’n dymuno ei ddarllen, i ddarganfod llyfrau ac awduron newydd, ac i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder wrth ddarllen. Mae’r Sialens yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant a datblygiad pob plentyn sy’n cymryd rhan – ac yn bennaf oll mae’n hwyl. Rydym yn ddiolchgar i’r Asiantaeth Ddarllen, Llywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru am weithio mewn partneriaeth agos â ni er mwyn i ni gynnig y Sialens i blant Cymru.”

Gyda syniadau gan WWF, mae’r Sialens yn canolbwyntio ar weithredu dros natur a mynd i’r afael â materion amgylcheddol go iawn, o lygredd plastig a datgoedwigo i ddirywiad bywyd gwyllt a cholledion ym myd natur. Trwy gymryd rhan yn y Sialens, gyda phecynnau am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus neu ar-lein, bydd plant yn gallu ymuno â chwe chymeriad ffuglennol – ‘arwyr gwyllt’ – i helpu i ddatrys rhai o’r bygythiadau hyn, gan ddysgu am bwysigrwydd yr amgylchedd wrth helpu i adfer elfennau o fyd natur yng nghymdogaeth ‘Caerwyllt’.

Bydd ymgyrch ddigidol ‘Croeso i Gaerwyllt: Dewch i Gwrdd â’r Arwyr’ yn cael ei chynnal dros yr haf gyda thema wythnosol ar wahanol gynefinoedd, dan arweiniad Arwyr y Byd Gwyllt, gan gynnwys Coetir, Afon, Fferm, Tref, Cartref/Ysgol a’r Traeth. Mae’r cymeriadau a’r dirwedd yn cael eu darlunio gan yr awdur a’r darlunydd plant arobryn Heath McKenzie.

Dros dymor yr haf, bydd WWF yn cynnig cyfleoedd ac adnoddau i lyfrgelloedd cyhoeddus ac ysgolion cynradd y DU i ymgysylltu â thema natur y Sialens Ddarllen ac i archwilio rhai o faterion pwysicaf ein cyfnod trwy bŵer darllen. Bydd WWF hefyd yn cynnal seminarau ysgol a gwersi byw, a bydd diweddariadau yn cael eu postio ar eu tudalen we bwrpasol Sialens Darllen yr Haf.

Ar 15 Gorffennaf 2021 mae WWF Cymru wedi trefnu gweithdai gyda’r storïwr Tamar Eluned Williams yn archwilio sut y gall darllen, ysgrifennu ac adrodd straeon am fyd natur fod yn ysbrydoledig ac yn hwyl. Bydd Tamar yn cyflwyno ei llyfr diweddaraf The Library of Life/Llyfrgell Bywyd, a gyhoeddwyd gan sefydliad Celf ar y Blaen/Head4Arts a Petra Publishing. Bydd gweithdai yn Gymraeg a Saesneg, a gellir dod o hyd i wybodaeth am archebu tocyn yma: Sialens Darllen yr Haf | WWF.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth ychwanegol eleni, trwy Gyngor Llyfrau Cymru, i ddatblygu’r cynnig digidol, a chomisiynwyd rhaglen gyffrous o gynnwys newydd o Gymru a fydd yn cael ei uwchlwytho i wefan Sialens Ddarllen yr Haf yn ystod yr wythnosau nesaf.

 Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, Llywodraeth Cymru:“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter bwysig a gwerth chweil ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth ariannol. Mae’n hyfryd bod llyfrgelloedd ledled Cymru wedi ymrwymo i gynnig y Sialens yr haf hwn ac mae’n bwysig bod yr elfen ddigidol hefyd yn cael ei chefnogi i sicrhau cynnig teg i blant a theuluoedd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o blant yn ymuno ag Arwyr y Byd Gwyllt yr haf hwn – i gael hwyl gyda’u darllen a dysgu mwy am faterion amgylcheddol.” 

Dywedodd Dara McAnulty, llysgennad: “Rwyf mor gyffrous i hyrwyddo Sialens Ddarllen yr Haf yr Asiantaeth Ddarllen, er mwyn annog plant i fwynhau buddion darllen er mwyn pleser dros wyliau’r haf. A minnau’n 17 mlwydd oed, tan yn ddiweddar, roedd y Sialens Ddarllen yn rhywbeth roeddwn i a fy mrodyr a chwiorydd yn ei chwblhau bob haf. Mae’n gymaint o bleser cael bod yn llysgennad eleni ac annog plant eraill i gymryd rhan yn y cynllun gwych hwn. Rwy’n falch iawn bod yr Asiantaeth Ddarllen yn ymuno â WWF ar gyfer ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ gyda’r thema natur arbennig eleni, i helpu plant i archwilio ffyrdd o helpu ein Daear odidog. Mae’r Sialens yn teimlo’n fwy hanfodol nag erioed ar ôl blwyddyn mor heriol i blant ysgol, felly mae’n wych gweld y gweithgareddau darllen hwyliog a gafaelgar y gall pawb gymryd rhan ynddynt, mewn llyfrgelloedd ac ar-lein – gan eu hysbrydoli i wneud gwahaniaeth i fyd natur. Edrychaf ymlaen at ddathlu dau o fy hoff bethau yr haf hwn … darllen a helpu’r blaned!”

 Dywedodd Steve Backshall, llysgennad: “Rwy’n falch iawn o fod yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf 2021. Mae’r Asiantaeth Ddarllen wedi ymuno â WWF ar gyfer ‘Arwyr y Byd Gwyllt’, her ddarllen gyffrous ar thema natur a fydd yn ysbrydoli plant i weithredu dros yr amgylchedd. Bydd ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ yn tanio sgyrsiau am y materion sy’n wynebu ein planed, o lygredd plastig i ddirywiad bywyd gwyllt, a byddant yn dangos sut y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ofalu am ein byd. Trwy gymryd rhan yn y Sialens, bydd plant yn datgloi buddion darllen er mwyn pleser – mae’n bwysicach nag erioed bod pobl ifanc yn cynnal eu sgiliau a’u hyder wrth ddarllen dros wyliau’r haf. Mae ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ yn ffordd wych o gael plant i ddarllen a siarad am faterion mawr – Haf Hapus o Ddarllen!”

 Yng Nghymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n elusen gofrestredig, yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf trwy nawdd uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

 Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Ni allai fod amser pwysicach i annog plant a phobl ifanc i ymgysylltu â natur a meddwl sut y gallant gymryd cam cadarnhaol tuag at helpu’r blaned. Rydym yn credu mewn darllen fel arf pwerus i ysbrydoli gweithredu a thanio’r dychymyg, ac mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gefnogi Sialens Ddarllen yr Haf eto eleni, yn benodol, gyda chynnwys digidol newydd gan awduron a darlunwyr o Gymru.”

Dywedodd Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu, WWF Cymru: “Pobl ifanc yw’r eiriolwyr mwyaf dros yr hinsawdd a  byd natur, ac maen nhw’n ein hysbrydoli bob dydd yn WWF Cymru. Mae gweithio gydag ysgolion ar brosiectau llenyddiaeth a barddoniaeth yn ddiweddar yma yng Nghymru wedi dangos angerdd, creadigrwydd a brwdfrydedd cenedlaethau’r dyfodol, a dyna pam rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid yn Sialens Ddarllen yr Haf yn y flwyddyn allweddol hon o ran gweithredu amgylcheddol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd plant ledled Cymru yn cael eu hannog i ddarllen, archwilio a chymryd camau cadarnhaol dros ein byd – y cartref rydyn ni i gyd yn ei rannu.”

 Ewch i https://cymru.summerreadingchallenge.org.uk/ i gael mwy o wybodaeth.

Darganfyddwch fwy am Gasgliad Llyfrau Arwyr y Byd Gwyllt yma.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol:

@ReadingAgency / @WWF @WWFCymru

#SialensDdarllenyrHaf #ArwyryBydGwyllt

 Cyngor Llyfrau Cymru

Facebook: @llyfrau.books Twitter: @Books_Wales @LlyfrauCymru   Instagram: @llyfrau.cymru

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gydag Urdd Gobaith Cymru i ganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant. Dyfarnwyd y wobr i Lily Mŷrennyn, 24 oed o’r Rhondda, am ei gwaith celf ‘neilltuol o gain’ a’i ‘meistrolaeth ar y grefft o gyfleu naratif drwy lun’. Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer i blant gan un o brif awduron Cymru, Manon Steffan Ros. Creadur mawr dychmygol, llwglyd o’r enw’r Soddgarŵ yw testun y naratif ac, fel rhan o’r wobr, mae’r llyfr stori-a-llun yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Atebol yr wythnos hon. Bydd Y Soddgarŵ ar gael mewn siopau llyfrau a llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru, yn ogystal ag ar ffurf e-lyfr drwy wefan ffolio.cymru y Cyngor Llyfrau. Dywedodd Lily Mŷrennyn, a raddiodd o gwrs Darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn 2020: “Mae wedi bod mor gyffrous i gael fy newis i weithio ar y prosiect hwn, yn enwedig yn ystod amser mor ansicr i raddedigion newydd. Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael cyfle i ddechrau fy ngyrfa greadigol gyda llyfr mewn print.” Dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Derek Bainton, artist graffeg proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd: “Dyma artist sy’n dangos dealltwriaeth, hyder a meistrolaeth ar y grefft o greu naratif drwy lun. Mae’r gwaith celf yn neilltuol o gain, ac yn cyfuno nifer o sgiliau medrus fel technegau traddodiadol a digidol. Mae naws bersonol a chynnes i’r palet lliw, sy’n clymu’r cyflwyniad at ei gilydd yn hyfryd mewn modd cydlynus, proffesiynol a gwreiddiol.” Dywedodd Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, Helen Jones: “Llongyfarchiadau gwresog i Lily Mŷrennyn a diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig hon. Mae darluniadau yn gallu gwneud cyfraniad anfesuradwy at y grefft o adrodd stori gan ehangu apêl llyfrau, yn enwedig felly llyfrau plant. Mae’n hollbwysig ein bod yn meithrin a hybu safon a thalent newydd yn y maes yma yng Nghymru.” Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru ar y gystadleuaeth yma a’i chynnwys yn ein Rhestr Testunau, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020 yn wreiddiol. Prif bwrpas Eisteddfod yr Urdd yw rhoi cyfleoedd celfyddydol newydd i bobl ifanc, ac felly rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi enw’r enillydd, Lily Mŷrennyn, a dathlu cyhoeddi’r llyfr Y Soddgarŵ yn ystod Eisteddfod T eleni.” Dywedodd Rachel Lloyd, Golygydd Creadigol a Phennaeth Cyhoeddi Atebol: “Mae wedi bod yn fraint cael arwain ar y prosiect hwn. Mae’r llyfr yn ychwanegiad gwerthfawr i’n rhaglen o gyhoeddiadau fel gwasg. Fel rhan o’n meddylfryd i hyrwyddo a meithrin awduron a darlunwyr newydd, mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i fuddsoddi mewn talent ifanc, newydd. Bu cydweithio â Lily yn bleser llwyr.” Bydd y Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda’r Urdd i gynnal ail gystadleuaeth i ddarlunwyr ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022. Caiff y manylion eu cyhoeddi yn y Rhestr Testunau ym mis Medi 2021.
Nofel hanesyddol i bobl ifanc am iaith a hunaniaeth Gymreig yn cipio Gwobr Tir na n-Og 2021

Nofel hanesyddol i bobl ifanc am iaith a hunaniaeth Gymreig yn cipio Gwobr Tir na n-Og 2021

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – sydd wedi dod i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

Ysgrifennwyd The Short Knife fel rhan o ddoethuriaeth yr awdur mewn Ysgrifennu Creadigol lle bu’n edrych ar y cyfleoedd creadigol y mae ysgrifennu dwyieithog yn eu cynnig. Dyma’r tro cyntaf i Elen ennill Gwobr Tir na n-Og.

Datgelwyd enw’r llyfr buddugol ar raglen y Radio Wales Arts Show nos Wener, 21 Mai, gyda’r awdur yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yn ogystal â cherdd a gomisiynwyd yn arbennig gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, sydd wedi’u dyfarnu ers 46 o flynyddoedd bellach, eleni’n dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Fe’u trefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Nofel ar gyfer yr oedran 12+ yw The Short Knife gan Elen Caldecott. Mae’r stori wedi’i gosod ganrifoedd maith yn ôl, yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn 454, ar adeg pan oedd hunaniaeth Gymreig newydd yn dod i’r amlwg, pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael, a’r Brythoniaid a’r Sacsoniaid yn brwydro i feddiannu tiriogaethau gwahanol.

Y prif gymeriad, Mai, sy’n adrodd y stori. Mae’n ferch ifanc a hyd yma mae eu tad wedi llwyddo i’w chadw hi a’i chwaer Haf yn ddiogel. Mae’r stori’n dechrau wrth i ymladdwyr Sacsonaidd gyrraedd eu fferm, gan orfodi’r teulu i ffoi i’r bryniau lle mae rhyfelwyr Brythonaidd yn cuddio. Dilynwn ymdrechion Mai i oroesi mewn byd peryglus lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth, a lle mae’n dod i ddrwgdybio hyd yn oed y bobl hynny mae hi’n eu caru fwyaf.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Jo Bowers: “Llongyfarchiadau i The Short Knife gan Elen Caldecott, stori ragorol a gwreiddiol ac iddi naratif a llais benywaidd cryf a thro annisgwyl, sy’n gafael o’r cychwyn cyntaf. Dyma nofel sydd wedi’i hysgrifennu’n huawdl gydag iaith delynegol drwyddi draw, wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar ar adeg bwysig yn hanes Cymru.”

Dywedodd Elen Caldecott: “Dwi wrth fy modd bod The Short Knife wedi ennill y wobr hon. Pan mae rhywun yn ysgrifennu am ei gartref, mae’r derbyniad mae’r nofel yn ei gael gan bobl sy’n byw yno yn hynod o bwysig. Mae’n meddwl y byd i mi fod y llyfr yn cael ei hyrwyddo a’i gefnogi. Diolch yn fawr i bawb sydd ynghlwm â Gwobrau Tir na n-Og!”

Y ddau lyfr arall ar y rhestr fer Saesneg oedd The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa), am deulu yn ymfudo o Gymru i America ar droad yr ugeinfed ganrif, a Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion), stori gyfoes sydd wedi’i gosod mewn fforest law Geltaidd yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae’r categori yma yn dathlu ac yn gwobrwyo’r nofel Saesneg orau ac iddi gefndir Cymreig dilys a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Mae’n hynod o bwysig i ni yn y Cyngor Llyfrau bod deunydd darllen safonol a chyffrous sy’n adlewyrchu agweddau ar fywyd yng Nghymru ar gael i’n plant a’n pobl ifanc. Llongyfarchiadau gwresog i Elen ac i bawb fu’n rhan o’r gwobrau eleni.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn noddi gwobrau uchel eu bri Tir na n-Og unwaith eto eleni, gan helpu plant a phobl ifanc i ganfod profiadau darllen newydd sy’n dangos bywyd drwy lens Gymreig. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr ar eu llwyddiant arbennig ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddod â’r llyfrau gwych yma i’n silffoedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause: “Mae Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers bron i hanner canrif bellach, gan gynnig platfform i ddathlu a hyrwyddo doniau awduron a darlunwyr. Diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni ac i bawb sy’n creu cynnwys rhagorol i’n hysbrydoli, ein haddysgu a’n swyno ni fel darllenwyr yn ystod blwyddyn hynod heriol.”

Datgelwyd enillwyr y categorïau Cymraeg ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 20 Mai. Casia Wiliam oedd yn fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa), gyda #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) yn cipio’r brif wobr yn y categori uwchradd. Dyma’r tro cyntaf i’r naill a’r llall ennill Gwobr Tir na n-Og.

Mae holl lyfrau Gwobrau Tir na n-Og ar gael yn eich siop lyfrau neu eich llyfrgell leol.

Cefndir Elen Caldecott:

Cafodd Elen ei geni a’i magu ger Llangollen, lle mae ei theulu’n dal i fyw. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant yn ystod y degawd diwethaf. Ysgrifennodd ei nofel ddiweddaraf, The Short Knife, fel rhan o’i PhD mewn Ysgrifennu Creadigol lle bu’n archwilio’r cyfleoedd creadigol y mae ysgrifennu dwyieithog yn eu cynnig. Cyn dod yn awdur, fe hyfforddodd i fod yn archeolegydd ac mae ganddi gariad at hanes, sydd yn ddylanwad pwysig arall ar ei gwaith. Ar hyn o bryd mae’n dysgu’n rhan-amser ym Mhrifysgol Caerhirfryn. @ElenCaldecott

Ynghylch y gwobrau

  • Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc, a thrwy hynny hybu prynu a darllen llyfrau da. Cyngor Llyfrau Cymru sy’n eu trefnu.
  • Ers 1976, mae rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru wedi ennill y wobr gan gynnwys Emily Huws, T Llew Jones, Caryl Lewis, Gareth F Williams, Manon Steffan Ros ac Angharad Tomos (a’r ddwy olaf ar restr fer Tir na n-Og 2021).
  • Cyflwynir tair gwobr o £1,000 i enillwyr y tri chategori.
  • Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan CILIP Cymru, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.
  • Panel beirniaid ar gyfer y gwobrau Saesneg: Jo Bowers (Cadeirydd y panel a Deon Cysylltiol Partneriaethau yn Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd), Jannat Ahmed (Swyddog Marchnata a Thanysgrifiadau Poetry Wales), Pooja Antony (athrawes ysgol gynradd) ac Alex Ball (Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili).

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2021

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2021

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch mewn sefyllfaoedd heriol ond gwahanol iawn sydd wedi cipio’r prif wobrau ar gyfer llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021.

Casia Wiliam sy’n fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa), gyda #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) yn dod i’r brig yn y categori uwchradd. Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill Gwobr Tir na n-Og.

Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr ar raglen Heno ar S4C am 19:00 nos Iau, 20 Mai, ac mae’r awduron yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un yn ogystal â cherdd gomisiwn gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu’r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Fe’u trefnir yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Enillydd y categori cynradd

Stori gyfoes yw Sw Sara Mai am ferch tua naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol.

Wrth drafod y llyfr, dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James: “Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras wahanol. Mae’n gyfrol sydd yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer yr oedran ac yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu yn well y Gymru amrywiol a chynhwysol o’n cwmpas.”

Dywedodd Casia Wiliam, sy’n byw yng Nghaernarfon: “Dwi wedi gwirioni! Dwi’n darllen gwaith gan awduron sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ers ’mod i’n ddim o beth, a dwi’n methu coelio ’mod i yn yr un cae â nhw! Rydw i hefyd yn hynod o falch o Sara Mai – hi ydi’r enillydd go iawn. Mae mor bwysig bod Cymry bach sydd yn ddu neu’n hil-gymysg yn gweld eu hunain yn brif gymeriadau mewn llyfrau Cymraeg, felly mae’n golygu cymaint i mi fod y llyfr wedi derbyn y gydnabyddiaeth arbennig yma.”

Cafodd y ddau lyfr arall ar y rhestr fer Gymraeg yn y categori cynradd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, sef Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlaugan Huw Aaron (Y Lolfa) lle mae angen dod o hyd i’r ddraig fach, Boc, sy’n cuddio ar bob tudalen, a Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) lle caiff plentyn ei gyflwyno i ryfeddodau byd natur.

Enillydd y categori uwchradd

Nofel ar gyfer plant yn eu harddegau hŷn a enillodd y categori uwchradd. Mae #helynt gan Rebecca Roberts yn adrodd stori merch yn ei harddegau a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James: “Dyma stori sydd yn cydio o’r dechrau i’r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru cyfoes. Mae portread sensitif a chynnil iawn o brif gymeriad gydag anabledd wedi ei gynnwys yn grefftus iawn yn y stori – ond merch ddewr, nid ei hanabledd, yw ffocws y dweud. Fel panel credwn fod y nofel hon yn esiampl ardderchog, ‘clasurol’ hyd yn oed, o genrellenyddiaeth i’r arddegau – ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny.”

Dywedodd Rebecca Roberts, sy’n byw ym Mhrestatyn: “Mae #helynt yn stori am garu dy hun, am fod yn wahanol ac yn falch o’r ffaith – neges dwi’n meddwl mae angen i bobl ifanc ei chlywed yn aml. Mae Rachel mor agos at fy nghalon, felly roeddwn i wrth fy modd o glywed bod y beirniaid yn teimlo’r un fath â minnau. Mae wir yn anrhydedd ac yn uchafbwynt anhygoel. Mawr yw fy niolch i bawb a helpodd i ddwyn #helynt i’r byd.”

Roedd canmol hefyd ar y ddwy nofel arall ar y rhestr fer uwchradd Gymraeg, sef Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa), am lofruddiaeth Gwenno berffaith, brydferth, glyfar ym Methesda, ac Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), am brofiadau dirdynnol caethferch ifanc ar blanhigfa teulu’r Penrhyn yn Jamaica a morwyn sy’n gweithio yng Nghastell Penrhyn yng Ngwynedd.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Llongyfarchiadau gwresog i awduron a chyhoeddwyr y llyfrau buddugol, a’r holl deitlau gwych eraill a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Nid tasg hawdd oedd i’r beirniaid ddewis dau enillydd o blith y cyfrolau rhagorol a ddaeth i law yn y categorïau cynradd ac uwchradd Cymraeg, ac mae hynny’n dyst i’r cyfoeth o dalent sydd gennym ar draws pob agwedd o’r sector llyfrau yng Nghymru.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn noddi gwobrau uchel eu bri Tir na n-Og unwaith eto eleni, gan helpu plant a phobl ifanc i ganfod profiadau darllen newydd sy’n adlewyrchu bywyd drwy lens Gymreig. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr ar eu llwyddiant arbennig ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddod â’r llyfrau gwych yma i’n silffoedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause: “Mae Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers bron i hanner canrif bellach, gan gynnig llwyfan i ddathlu a hyrwyddo doniau awduron a darlunwyr sy’n creu deunydd unigryw yn Gymraeg. Diolch o galon i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni ac i bawb sy’n creu cynnwys rhagorol i’n hysbrydoli, ein haddysgu a’n diddanu fel darllenwyr yn ystod blwyddyn eithriadol o heriol.”

Caiff enillydd rhestr fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ei ddatgelu ar raglen y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 21 Mai 2021. Mae tri theitl ar y rhestr fer sef Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion), The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press), a The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa).

Mae holl lyfrau Gwobrau Tir na n-Og ar gael yn eich siop lyfrau neu eich llyfrgell leol.

Rhagor o wybodaeth am yr awduron buddugol

Rebecca Roberts: Mae Rebecca yn byw ym Mhrestatyn gyda’i gŵr a’i phlant. Mynychodd Ysgol Glan Clwyd ac yna Brifysgol Bangor, lle graddiodd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn 2006. Mae hi’n gyfieithydd i’r Mudiad Meithrin, a hefyd yn cynnal seremonïau dyneiddiol, digrefydd. Cyhoeddwyd Mudferwi, ei nofel gyntaf i oedolion, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2019, ac fe’i dilynwyd ar gychwyn 2020 gan nofel Saesneg, Eat. Sleep. Rage. Repeat.(Gwasg Gomer). #helynt yw ei nofel gyntaf i bobl ifanc. Yn ei hamser rhydd mae hi’n hoffi cerdded, darllen ffuglen, ac yn debyg i Rachel (prif gymeriad #helynt) mae hi wrth ei bodd yn gwrando ar gerddoriaeth roc.

Casia Wiliam: Mae Casia yn fardd ac yn awdur sydd hefyd wedi addasu nifer o gyfrolau i’r Gymraeg. Mynychodd Ysgol Botwnnog ac yna Prifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Casia oedd Bardd Plant Cymru 2017–19, a Sw Sara Mai yw ei hail nofel wreiddiol i blant. Pan nad yw’n sgwennu, mae’n gweithio i’r elusen Disasters Emergency Committee sy’n codi arian i helpu pobl pan mae trychinebau’n digwydd yn rhai o wledydd tlota’r byd.

Ynghylch y gwobrau

  • Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc, a thrwy hynny hybu prynu a darllen llyfrau da. Cyngor Llyfrau Cymru sy’n eu trefnu.
  • Ers 1976, mae rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru wedi ennill y wobr gan gynnwys Emily Huws, T Llew Jones, Caryl Lewis, Gareth F Williams, Manon Steffan Ros ac Angharad Tomos.
  • Cyflwynir tair gwobr o £1,000 i enillwyr y tri chategori.
  • Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan CILIP Cymru, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.
  • Y panel beirniaid ar gyfer y gwobrau Cymraeg: Hywel James (Cadeirydd y panel a chyn-Brif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd), Morgan Dafydd (sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra), Alun Horan (cynhyrchydd teledu, Tinopolis) a Nia Morais (awdur a chynorthwyydd dysgu).