Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru a’r cyflwynydd, y dylanwadwr a’r llyfrbryf Ellis Lloyd Jones y teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og ddydd Gwener, 15 Mawrth am 12pm ar eu cyfrifon Instagram a TikTok. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o...
Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher, 13 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023. Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau...
Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Prosiectau sydd wedi derbyn arian Grant Cynulleidfaoedd Newydd 2

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi manylion y prosiectau a ariennir yn ail flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, gyda phrosiectau ar hyd a lled Cymru yn rhannu cronfa o £400,000 yn ystod 2023/24.

Ariennir Grant Cynulleidfaoedd Newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Pwrpas y grant yw cryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Roedd grantiau o hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau a mentrau newydd yng Nghymru ar gyfer:

  • datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o gefndiroedd diwylliannol amrywiol, neu grwpiau a dangynrychiolir yng Nghymru, gan roi’r cymorth a’r cyfleoedd y gallai fod eu hangen arnynt i gael eu cyhoeddi yng Nghymru;
  • targedu cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru drwy ddatblygu deunydd gwreiddiol a/neu ddefnyddio cyfryngau neu fformatau nad ydynt yn cael eu hariannu ar hyn o bryd;
  • sefydlu busnes cyhoeddi neu gyhoeddiad a fydd yn cryfhau ac yn sicrhau amrywiaeth i’r hyn a gynigir yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dyma rai prosiectau sydd wedi derbyn arian:

Afterlight Comics
Mae Afterlight Comics yn cydweithio â chreadigwyr Cymreig lleol i drawsnewid chwedlau o lên gwerin Cymru yn nofel graffig. Drwy gydweithio ag artistiaid ac awduron o Gymru, y nod yw rhoi bywyd newydd i’r straeon traddodiadol hyn, gan eu haddasu i fformat sy’n ddeniadol i’r llygaid. Nod y fenter hon yw rhoi sylw i ddiwylliant a threftadaeth Cymru, gan wneud llên gwerin oesol yn hygyrch ac yn ddiddorol i ddarllenwyr modern.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
Bydd hyd at 15 o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn cydweithio â mentoriaid i ddatblygu eu sgiliau ysgrifenedig a fydd, maes o law, yn arwain at gyhoeddi eu gwaith. Gyda chymorth a chefnogaeth dau fentor profiadol, bydd amrywiaeth o ffurfiau ysgrifenedig (yn dibynnu ar yr unigolyn) yn cael eu creu a’u datblygu gan bobl ifanc rhwng 10 a 28 mlwydd oed; boed yn adroddiadau digri, yn gerddi neu’n straeon byrion, i sicrhau bod lleisiau ieuenctid cefn gwlad Cymru i’w clywed mewn cyfrol wedi ei chyhoeddi.

Prosiect ‘Gypsy Writers’: Ehangu Dealltwriaeth Ddiwylliannol, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani
Mae prosiect ysgrifennu creadigol arloesol newydd y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, ‘Gypsy Writers’, wedi gwahodd ceisiadau gan awduron newydd o Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan ymestyn y rhaglen hynod lwyddiannus Gypsy Maker, bydd pedwar awdur newydd yn cael eu comisiynu, sydd ddim wedi cyhoeddi (ar-lein nac mewn print) o’r blaen. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu awdur blaenllaw o Sipsiwn, Roma a Theithwyr i lywio datblygiad ysgrifennu newydd drwy gynnig mentora un-i-un wedi’i deilwra, gweithdai rhyddiaith a barddoniaeth, a hyfforddiant diwydiant-benodol.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i Cymru Greadigol, unwaith eto rydyn ni wedi gallu ariannu rhai prosiectau cyffrous trwy’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd. Rydym yn falch o allu adeiladu ar lwyddiannau blwyddyn gyntaf y grant a gweld prosiectau’n datblygu am yr ail flwyddyn. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi medru gweithio gyda phartneriaid newydd sbon y tro hwn, a fydd yn dod â thalent a syniadau newydd i’r byd cyhoeddi yng Nghymru, yn apelio at gynulleidfaoedd newydd ac yn creu newid parhaol yn ein sector.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu parhau i gefnogi’r cynllun hwn. Mae’r cyllid hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad drwy’r grant i dros £1 miliwn a bron i 70 o brosiectau gwahanol ledled Cymru.

“Mae blwyddyn gyntaf y Grant Cynulleidfaoedd Newydd wedi creu cyfleoedd cyffrous ar gyfer cydweithrediadau a phartneriaethau newydd. Rydw i’n dymuno’r gorau i’r holl brosiectau newydd ac yn edrych ymlaen at weld eu cyflawniadau.”

Mae manylion y prosiectau sydd wedi derbyn y grant ar wefan y Cyngor Llyfrau: Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024 Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ar ddydd Iau 7 Mawrth, ac yn annog plant ledled y wlad i fwynhau darllen, gan dderbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am un o’r llyfrau £1 a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer...
Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Cyfle tendro ar gyfer cylchgrawn newydd sbon yng Nghymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau am gytundeb pedair blynedd (2024–28) ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd sbon, wrth iddo agor y broses dendro heddiw, 4 Mawrth 2024. Mae £80,000 y flwyddyn ar gael i ddatblygu a sefydlu un cylchgrawn newydd. Cylch...