Rajvi Glasbrook Griffiths – Ymddiriedolwr

Yn Bennaeth Ysgol Gynradd High Cross yng Nghasnewydd sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru ers 2009, mae Rajvi Glasbrook Griffiths hefyd yn Gyfarwyddwr gŵyl Llenyddiaeth Caerllion ers 2014, yn Gyfarwyddwr Prosiect Porth Caerllion ers 2016, ac yn aelod o Fwrdd...

Rona Aldrich – Is-Gadeirydd

Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd. Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i...

Yr Athro Carwyn Jones – Ymddiriedolwr

Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999–2021. Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, aeth yn ei flaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr gan weithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr,...

Yr Athro Gerwyn Wiliams – Ymddiriedolwr

Mae Gerwyn Wiliams yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2005, a bu’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg ers 1989. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ers 2019 ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws ers 2018. Yn gyn-enillydd Coron...

Yr Athro Jane Aaron – Ysgrifennydd Mygedol

Mae’r Athro Jane Aaron yn addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac yn awdur o Gymru. Hyd nes ei hymddeoliad ym mis Rhagfyr 2013, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg yn ne Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o’r Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn...