
Cyfarchion y Nadolig
Bydd y Cyngor Llyfrau ar gau o nos Iau, 23 Rhagfyr 2021 ac yn dychwelyd wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 4 Ionawr 2022.
Bydd y Cyngor Llyfrau ar gau o nos Iau, 23 Rhagfyr 2021 ac yn dychwelyd wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 4 Ionawr 2022.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd ceisiadau gan awduron sydd â phrofiadau bywyd sy’n cael eu tangynrychioli, yn benodol o fewn y byd llenyddiaeth a chyhoeddi yn y Gymraeg, i ymgeisio am le ar gwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Hwylusydd: Elgan Rhys
Siaradwyr gwadd/tiwtoriaid
ar gyfer gweithdai unigol: Cyd-awduron Y Pump, Nia Morais, Megan Hunter, Ciaran Fitzgerald, a mwy.
Dyddiadau:
Y cwrs: Dydd Llun 25 Ebrill – dydd Gwener 29 Ebrill 2022
Agor i geisiadau: Dydd Llun, 13 Rhagfyr 2022
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 11 Chwefror 2022
Dan arweiniad yr awdur, artist theatr a hwylusydd celfyddydol Elgan Rhys a llu o awduron gwadd, bydd y cwrs yn cynnig gweithdai, sgyrsiau a thrafodaethau i ddatblygu eich crefft ysgrifennu creadigol i blant hŷn 8-12 oed a phobl ifanc 12+ oed. Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron newydd sbon, ag awduron â pheth profiad eisoes. Bydd 12 lle ar gael.
Mae Elgan Rhys yn awdur, artist theatr a hwylusydd celfyddydol sy’n dod o Bwllheli ac yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Elgan yw Rheolwr a Golygydd Creadigol cyfres Y Pump (Y Lolfa, 2021) ac awdur Tim (gyda Tomos Jones), nofel gyntaf y gyfres. Mae ei waith ar gyfer y theatr yn cynnwys Llyfr Glas Nebo (cyfarwyddwr, 2020), Woof (awdur, 2019), Chwarae (awdur a pherfformiwr, 2019-20) a Mags (awdur, 2018-9), ac mae wedi bod yn artist cyswllt gyda’r Frân Wen a Theatr Iolo. Mae hefyd yn un o Fodelau Rôl Stonewall Cymru, ac mae’n gweithio ar brosiectau newydd ar gyfer theatr, ffilm a theledu ar hyn o bryd.
Beth yw bwriad y cwrs?
Mae llyfrau yn llesol, yn enwedig i blant a phobl ifanc wrth iddynt geisio deall a dysgu am y byd o’u cwmpas. Gall llyfrau da fod yn gwbl hudolus gan gludo’r darllenydd i fydoedd gwahanol drwy rym geiriau a dychymyg yn unig. Daw cymeriadau ffuglennol yn ffrindiau da i’r darllenwyr am sbel, gan gynnig cysur, ysbrydoliaeth ac arweiniad mewn bywyd. Yn ôl adroddiad diweddar gan y National Literacy Trust, nododd 3 o bob 5 plentyn fod darllen yn gwneud iddynt deimlo yn hapusach, gyda hanner y plant yn nodi fod darllen yn eu galluogi i freuddwydio am y dyfodol. Ond beth all ddigwydd os nad yw plentyn yn adnabod eu hunain a’u teuluoedd yn y llyfrau sydd ar gael?
Bydd y cwrs hwn yn gam ymarferol er mwyn sicrhau fod llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yn berthnasol i pob plentyn yng Nghymru. Drwy gynnig hyfforddiant i awduron â phrofiadau byw perthnasol, y gobaith yw cyhoeddi mwy o lyfrau fydd yn cynnwys straeon ysbrydoledig am gymeriadau o amryw o gefndiroedd ethnig, cymeriadau sydd yn byw ag anableddau, a phortreadau o deuluoedd sydd yn cynnwys aelodau LHDTC+. Bydd llyfrau amrywiol hefyd yn sicrhau fod plant Cymru gyfan yn cael eu cyflwyno i’r amrywiaeth bendigedig o gymunedau a chefndiroedd teuluoedd sydd yn bodoli, gan anelu i greu cenedlaethau mwy caredig ac eangfrydig i’r dyfodol.
Bydd y cwrs yma yn dwyn ynghyd unigolion o liw (o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall); unigolion sydd yn byw ag anableddau neu salwch (meddyliol neu gorfforol); unigolion sy’n uniaethu fel LHDTC+; neu unigolion fydd yn gallu esbonio yn eu geiriau eu hunain sut all eu profiadau bywyd unigryw gyfrannu tuag at ein hamcan o greu diwylliant llenyddol mwy cynhwysol ac amrywiol er budd ein darllenwyr ifanc. Nid oes angen profiad blaenorol o ysgrifennu cyn ymgeisio am le ar y cwrs hwn, na Chymraeg perffaith! – dim ond yr awydd i greu straeon ardderchog a’r potensial i greu gwaith o safon fydd yn cyfareddu plant a phobl ifanc.
Beth fydd yn digwydd ar y cwrs?
Gan gychwyn ar y prynhawn dydd Llun, bydd y criw o awduron a’r tiwtor yn cychwyn y cwrs drwy drafod eu hoff lyfrau amrywiol i blant hŷn a phobl ifanc. Gan archwilio’r elfennau gorau o’r llyfrau dan sylw, byddwn yn gosod seiliau ar gyfer datblygu gwaith gwych ein hunain yn ystod yr wythnos.
Drwy weithdai grŵp, sgyrsiau un-i-un, darlleniadau a sgyrsiau gan awduron gwadd ac unigolion o’r diwydiannau creadigol, bydd y cwrs yn rhoi arweiniad ar sut i adeiladu ar eich crefft ysgrifennu creadigol er mwyn creu straeon i blant hŷn (8-12) a phobl ifanc (12+).
Ar ôl y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru yn annog y rhwydwaith newydd o awduron i gadw mewn cysylltiad drwy gyfarfodydd digidol i drafod syniadau, heriau ac i rannu gwaith ar y gweill. Bydd cyfleoedd pellach i ddatblygu yn cael eu rhannu yn gyson er mwyn sicrhau fod yr awduron yn parhau i ysgrifennu yn yr hir dymor, a hyd yn oed mynd ymlaen i gyhoeddi eu gwaith.
Cewch ragor o wybodaeth a ffurflen ymgeisio ar wefan Llenyddiaeth Cymru
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 5.00pm, dydd Gwener, 11 Chwerfror 2022
Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol sylweddol er mwyn cefnogi’r ymgyrch rhoi llyfr yn anrheg #CaruDarllenYsgolion o wanwyn 2022 ymlaen. Fel rhan o’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer ymgysylltu â darllen, bydd detholiad o 50 o lyfrau’n cael ei anfon i bob ysgol wladol yng Nghymru, yn ogystal â llyfr unigol i bob disgybl ei gadw. Bydd y cynllun yn golygu bod gan ddysgwyr ledled Cymru fynediad cyfartal i ystod amrywiol o lenyddiaeth apelgar o safon, yn Gymraeg a Saesneg, sydd wedi’i dewis yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd ymgysylltu â darllen yn ystod plentyndod, a gwyddom fod yr arfer o ddarllen ymhlith y ffactorau sy’n cael yr effaith fwyaf ar gyrhaeddiad addysgol. Rydym yn falch iawn o gefnogi ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru i roi llyfr yn anrheg gan eu bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ysgolion a disgyblion ledled Cymru, ac mae’r cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddosbarthu mwy o lyfrau i fwy o ddisgyblion i danio cariad at ddarllen y byddant yn elwa ohono drwy gydol eu hoes.
Mae ein strategaeth 5 mlynedd sydd newydd ei chyhoeddi yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor Llyfrau ar gyfer Cymru fel Cenedl o Ddarllenwyr ac yn tanlinellu ein hymrwymiad ni ein hunain i gynyddu ymgysylltu â darllen ac ehangu’r rhaglenni rhoi llyfr yn anrheg. Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyndabod pwysigrwydd y cylch gwaith yma ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw i gefnogi’r rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol hon.”
Wrth gyhoeddi’r cyllid newydd, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn chwarae rôl hanfodol yn ein bywydau bob dydd. Os ydyn ni am gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’u cyfoedion, mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol.
“Rhaid inni ysgogi cariad at ddarllen ymhlith plant ifanc er mwyn inni allu sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r arferion y bydd eu hangen arnyn nhw yn nes ymlaen mewn bywyd.
“Mae darllen yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i fanteisio ar ehangder y Cwricwlwm newydd i Gymru. Ac mae nodau’r cwricwlwm yn seiliedig ar wella llythrennedd a llafaredd ein dysgwyr iau.”
Ychwanegodd y Gweinidog: “Rwy’n hynod falch fy mod i’n gallu dangos yr effaith bwysig y gall llyfrau, darllen a llafaredd ei chael ar wireddu potensial plant drwy roi llyfr i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru: yn ogystal â chyllid ar gyfer mwy o lyfrau mewn ysgolion ac i deuluoedd.”
Ein Stori –lleisiau cyhoeddi heddiw
I nodi’n pen-blwydd yn 60, comisiynwyd dwy ffilm fer, Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw ac Our Story – publishing voices today.
Mae Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw yn ffilm fer sy’n dathlu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Trwy leisiau Manon Steffan Ros, Jon Gower, Myrddin ap Dafydd ac eraill, mae’n archwilio cyfraniad y Cyngor Llyfrau dros y 60 mlynedd diwethaf, ac yn edrych ymlaen tuag at heriau a chyfleoedd y dyfodol.
Gellir gwylio Our Story – publishing voices today, ein ffilm Saesneg, yma
Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr – Lawnsio strategaeth bum mlynedd Cyngor Llyfrau Cymru
Am 60 mlynedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymroi i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hybu darllen er pleser.
A ninnau’n nodi’n pen-blwydd, rydym yn falch iawn o rannu’n strategaeth newydd sy’n datgan ein huchelgeisiau a’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y byddwn yn parhau â’n cenhadaeth o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yng nghyd-destun yr adferiad yn dilyn Covid, gan gyfrannu i raglen lywodraethu a Datganiad Llesiant Llywodraeth Cymru a chefnogi’r diwydiant wrth iddo ymateb i gyfleoedd a heriau’r dyfodol.
Darllenwch y strategaeth YMA
Cyhoeddi O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60
Cyhoeddir O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 heddiw i nodi pen-blwydd y sefydliad.
Mae’r gyfrol hardd hon yn adrodd stori’r Cyngor Llyfrau dros 60 mlynedd, o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw.
Golygwyd y gyfrol gan Gwen Davies, gyda thorluniau leino gwreiddiol gan yr artist Molly Brown. Fe’i cyflwynir er cof am Alun Creunant, Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru.
Ceir yma gyfraniadau gan amrywiaeth o leisiau o fewn y diwydiant cyhoeddi, yn cynnwys yr Athro M. Wynn Thomas, Gwerfyl Pierce Jones, y llyfrgellydd Bethan Hughes, y llyfrwerthwr Eirian James, y golygydd Alun Jones a’r awdur Elgan Rhys.
Mae’r gyfrol glawr caled hardd ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.