Medi 18, 2019
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai’r awdur plant poblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams, yw’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed. Nod y rôl lysgenhadol newydd hon yw ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain.
Cyhoeddwyd y newyddion ddydd Mercher 18 Medi o flaen 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd. Eloise yw Llysgennad Darllen yr ysgol ac yn dilyn y cyhoeddiad, bu’n rhan o agoriad swyddogol llyfrgell newydd yr ysgol. Mewn llythyr agored i blant Cymru, pwysleisiodd Eloise cymaint o anrhydedd oedd ymgymryd â’r rôl hon; sut y bydd yn gwneud ei gorau glas i helpu plant Cymru i ddod o hyd i’r straeon sy’n bwysig iddyn nhw; yn ymgyrchu fel eu bod nhw’n gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli’n dda mewn llenyddiaeth; ac yn bwysicaf oll, bod eu lleisiau yn bwysig. Gallwch ddarllen ei llythyr yn llawn ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Bu Eloise Williams yn gweithio fel actor ac ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn symud ymlaen i fod yn awdur plant. Enillodd ei nofel, Gaslight (Firefly Press, 2017) – a ysgrifennwyd gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru – wobr Llyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Wales Arts Review 2017, Gwobrau Llyfrau YBB 2018, a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tir na nOg 2018. Cyrhaeddodd Seaglass (Firefly Press, 2018), ei nofel diweddaraf i bobl ifanc, restr fer Gwobrau Tir na nOg 2019, a’r North East Book Awards 2019.
Yn siaradwr rheolaidd mewn gwyliau a digwyddiadau, mae hi’n defnyddio ei sgiliau drama i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn llenyddiaeth ac erbyn hyn mae hi ar lwyfan llawer yn fwy nag y buodd hi erioed tra’n actor proffesiynol!
Dywedodd Eloise: “Dwi wedi bod wrth fy modd â straeon erioed. Mae’r profiad o ymgolli’ch hun mewn stori dda yn hudol. Mae straeon yn ein cysylltu, yn rhoi empathi a dealltwriaeth inni, yn ymestyn ein hymennydd a’n dychymyg, yn gadael inni deithio’r byd a phrofi’r rhyfeddodau mwyaf.
“Mae llenyddiaeth plant yn ffynnu ac ni allai fod amser mwy cyffrous i fod yn rhan o’i dwf yma yng Nghymru. Dwi’n teimlo’n gryf bod cysylltiad rhwng llyfrau plant a’r gobaith dwi’n ei deimlo bob tro dwi’n cerdded i mewn i ystafell ddosbarth. Dwi’n grediniol y bydd darllenwyr ifanc yn gwneud ein dyfodol yn ddisglair ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hynny.”
Cyhoeddwyd y fenter newydd ym mis Mai 2019 fel rhan o Gynllun Strategol newydd Llenyddiaeth Cymru (2019-22). Bydd y Children’s Laureate Wales yn gweithio ochr yn ochr â’r cynllun Cymraeg Bardd Plant Cymru, gan weithio’n bennaf gyda phlant rhwng 5-13 oed. Penodwyd Eloise yn dilyn galwad gyhoeddus i awduron fynegi eu diddordeb yn y rôl.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, am y cyhoeddiad: “Rydym wrth ein bodd nid yn unig i lansio’r fenter newydd hon, ond i gyhoeddi rhywun mor angerddol, poblogaidd a hawddgar i rôl Children’s Laureate Wales. Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau. Bydd y rôl hon yn darparu rhagor o gyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu llesiant. “
“Bydd Eloise yn bencampwr gwych dros ddarllen ac ysgrifennu creadigol er pleser, a thros gynrychiolaeth o fewn llenyddiaeth plant; edrychaf ymlaen yn arw at ddilyn ei thaith dros y ddwy flynedd nesaf.”
Bydd y Children’s Laureate Wales yn ymweld â nifer o ysgolion, clybiau, gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â dyfeisio a datblygu prosiectau arbennig a phwrpasol gyda’r cleientiaid y mae Llenyddiaeth Cymru yn eu targedu.
I drefnu ymweliad ysgol, neu i drafod prosiectau eraill, ebostiwch Llenyddiaeth Cymru ar: childrenslaureate@literaturewales.org.
Medi 13, 2019
Rygbi – y llyfr sy’n cynnwys popeth sydd angen ei wybod am fyd rygbi, o sut i chwarae, i chwaraewyr eiconig, Cwpan y Byd, timau arwrol, yn ogystal â ffeithiau a ffigyrau i’n cyffroi ni i gyd wrth sôn am y gêm anhygoel hon – ein gêm genedlaethol ni fel Cymry!
Cyhoeddir y llyfr clawr caled arbennig hwn gan Rily Publications mewn da bryd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan. Mae’n cynnwys cyfoeth o ffeithiau, ystadegau a gwybodaeth, lluniau a ffotograffau’n ymwneud â phob agwedd ar y gêm o’r cychwyn cyntaf tan heddiw. Ceir adrannau cynhwysfawr hefyd yn sôn am sut yn union i chwarae’r gêm, safleoedd chwaraewyr, symudiadau a’r system sgorio, gan olygu ei fod yn llyfr apelgar ac addas ar gyfer darllenwyr o bob oed.
Addaswyd y llyfr 64 tudalen, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Dorling Kindersley, gan Sioned Lleinau, sy’n gefnogwraig rygbi frwd iawn ei hunan, a cheir cyfeiriadau arbennig at chwaraewyr a gemau tîm Cymru, yn ogystal â thimau rhyngwladol eraill fel Crysau Duon a Rhedyn Arian Seland Newydd, a chwaraewyr byd-enwog megis Jonathan Davies, Jonah Lomu a Francois Pienaar, ymysg eraill.
“Does dim rhaid i chi wybod unrhyw beth am fyd rygbi i allu mwynhau’r gyfrol gyfoethog hon sy’n cyflwyno’r gêm yn ei llawn ogoniant,” eglura Sioned Lleinau. “Gyda chymaint o amrywiaeth o ffeithiau a gwybodaeth am y gêm, o’i dechreuadau yn 1823 hyd at heddiw, heb sôn am Gwpan Rygbi’r Byd yn Japan, allwch chi ddim peidio â chael eich denu’n ddyfnach i mewn i ganol byd lliwgar a chyffrous rygbi.”
Cyfoeth o ffeithiau rygbi, a phopeth sydd angen i chi wybod am sut i chwarae’r gêm, heb sôn am chwaraewyr arwrol ddoe a heddiw.
Y llyfr perffaith ar gyfer dathlu Cwpan Rygbi’r Byd! Cyflwyniad cyffrous i’r gêm er mwyn helpu plant i ddeall rheolau, dysgu sgiliau rygbi a dysgu am recordiau byd yn y maes. Edrychir ar hanes y gêm, gan fanylu ar fathau gwahanol o rygbi, yn cynnwys Rygbi’r Undeb, Rygbi’r Gynghrair, Rygbi Saith-bob-ochr a Rygbi Tag.
Medi 11, 2019
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ymwybodol o benderfyniad Gwasg Gomer i roi’r gorau i gomisiynu teitlau newydd.
Gwnaeth Gomer gyfraniad aruthrol i gyhoeddi yng Nghymru. Mae’n gartref i rai o’n prif awduron a’n llyfrau mwyaf nodedig. A thra’n bod ni’n siomedig iawn gyda’r datblygiad hwn rydym yn falch bod Gomer yn parhau i ofalu am y miloedd o deitlau ac awduron pwysig sydd yn eu ôl-restr a sicrhau y bydd teitlau poblogaidd yn aros mewn print. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Gwasg Gomer dros y misoedd nesaf i sicrhau bod llyfrau a dderbyniodd grant yn cael eu cyhoeddi neu’n dod o hyd i gartref newydd. Yn y cyfamser fe fydd y Ganolfan Ddosbarthu yn parhau i weithredu ar ran Gomer i ddosbarthu llyfrau a chyflenwi archebion fel arfer.
Mae’r sector cyhoeddi yng Nghymru yn esblygu’n gyson ac mae gennym bob hyder yn y dalent a’r weledigaeth mae’r cyhoeddwyr yn ei chynnig; mae’r datblygiadau cyffrous ym maes cylchgronau, dysgwyr (Dysgwyr), plant a phobl ifanc a llyfrau lles (Darllen yn Well) yn tystio i hynny.
Byddwn yn edrych ar y cyfleoedd mae’r datblygiad hwn yn gynnig i gyhoeddwyr eraill, hen a newydd, ac yn parhau i weithio gyda’r holl randdeiliaid i sicrhau bod y sector gyhoeddi yng Nghymru yn parhau i fod yr un mor fywiog ag a fu dros y blynyddoedd diwethaf.
Medi 10, 2019
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.
Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros.
Meddai Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant y Cyngor, ‘Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd geiriau Manon yn un rhan o’r stori, ond gall y delweddau adrodd yr hyn sydd rhwng y bylchau, ac ychwanegu ati.’
Ychwanegodd, ‘Yn naturiol, byddwn yn chwilio am dalent weledol a chreadigol fydd yn apelio at gynulleidfa ifanc yn ogystal â’r oedolyn fydd yn rhannu’r stori. Byddwn hefyd yn asesu dawn yr ymgeiswyr i briodi testun a darluniau, a’u dealltwriaeth o naratif, rhediad y stori a’r cymeriadu.’
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau’r Cyngor, ‘Mae rhai o lyfrau plant mwyaf eiconig Cymru yn llyfrau stori-a-llun, o gyfrolau Sali Mali i Rala Rwdins, ac mae datblygu darlunwyr sy’n gallu dweud stori wreiddiol ar gyfer y plant lleiaf yr un mor bwysig â datblygu awduron. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y gystadleuaeth hon yn help i feithrin to newydd o dalent yn y maes.’
Darperir testun y stori gan Swyddfa’r Eisteddfod a’r Cyngor Llyfrau. Ewch i dudalen 57 o’r Rhestr Testunau ar wefan yr Urdd am fanylion y gystadleuaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2020.
Am ragor o wybodaeth am y daith, cysylltwch â Helen Jones, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB 01970 624151 helen.jones@llyfrau.cymru (Llun gan Keith Morris)
Awst 7, 2019
Enillydd y Fedal Ryddiaith 2019 yw Rhiannon Ifans am ei nofel, Ingrid.
Rhiannon Ifans yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy 2019, gyda’i nofel ‘Ingrid’.
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema ‘Cylchoedd’. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Mererid Hopwood, Alun Cob ac Aled Islwyn.
‘Gwaith llenor arbennig iawn, un crefftus a gwreiddiol’. Mererid Hopwood
‘Awdur [sy’n] feistr ar ei grefft… Campus!’ Alun Cob
‘Mae gan Ingrid y gallu i gyfareddu o’r eiliad y cyfarfyddwn â hi gyntaf’. Aled Islwyn
Awst 6, 2019
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2019 yw Guto Dafydd am ei nofel, Carafanio.
Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 2019, a hynny am nofel o’r enw Carafanio.
Gofynion y gystadleuaeth oedd nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen.
‘Dyma nofel wirioneddol wych ‘ Llwyd Owen
‘Stori syml ar yr wyneb am deulu cyffredin yn mynd ar wyliau carafanio. Ond mae yma stori fawr am fywyd a marwolaeth, am ddynoliaeth, am wrywdod, am yr hil. Nofel heriol, arbrofol, ddoniol, emosiynol, hawdd i’w darllen, ac anesmwyth.’ Dyfed Edwards
‘Hanes teulu sydd yma. Nid oes stori fawr i’w dweud, does dim digwyddiadau ysgytwol, newid-bywyd. A dyna fawredd y nofel: sylwadau craff sydd yma am y natur ddynol, am ddyheadau, disgwyliadau, ofnau, am ein stad fydol, fregus. Mae’n nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol – weithiau’n hiraethus – ac yn ei chwmni, cefais blyciau o chwerthin yn uchel, o nodio a phorthi, o dristáu, ac anobeithio, ond yn ei chwmni hefyd cefais brofi rhyddiaith ar ei gorau.’ Haf Llewelyn
Yn wreiddiol o Drefor, mae Guto’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig, Lisa, a’u plant, Casi a Nedw, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016. Fe gipiodd y Goron ddoe hefyd ym mhrif seremoni’r dydd yn Eisteddfod Llanrwst.
Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor ac mae bellach yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg.
Gorff 15, 2019
Paratowch i ddathlu ugeinfed pen-blwydd Sialens Ddarllen yr Haf a mynd ar Ras Ofod.
Cafodd y sialens ei lansio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Llyfrgell y Drenewydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019, yng nghwmni’r awdur a’r darlunydd poblogaidd Max Low.
Teitl Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw Ras Ofod, sy’n cyd-fynd â dathlu 50 mlynedd ers y glaniad ar y lleuad. Wedi’i chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cyrraedd plant a phobl ifanc o bob oed, gyda thros 40,000 o blant Cymru yn cymryd rhan y llynedd.
Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter bwysig a chyffrous sy’n annog plant i neilltuo amser yn ystod gwyliau haf yr ysgol i ddarllen eu hoff lyfrau. Yr hyn sy’n wych yw eich bod yn gallu cymryd rhan yn y sialens lle bynnag y byddwch chi dros yr haf – yn hamddena ger y pwll nofio, yn eich ystafell wely neu’n eistedd yn eich gardd. Rwy’n ysu am glywed am y llyfrau y byddwch chi’n dewis eu darllen yn ystod y gwyliau, a gallwch osod eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #SialensDdarllenYrHaf.”
I gymryd rhan yn y sialens, gall plant gofrestru am ddim yn eu llyfrgell leol, lle byddan nhw’n cael ffolder Ras Ofod arbennig er mwyn cychwyn ar y darllen. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan ddarllen o leiaf chwe llyfr o’r llyfrgell dros wyliau’r haf a chasglu sticeri a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd i estroniaid arallfydol a chwblhau’r sialens.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ddigwyddiad mawr ar gyfer gwyliau’r haf ac rwy’n gwybod bod llyfrgelloedd, ysgolion a phlant o bob cwr o Gymru’n disgwyl ymlaen ati bob blwyddyn gan ein bod ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw cadw plant i ddarllen dros wyliau’r haf. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi llyfrgelloedd i gynnal y Sialens ac mae’r thema eleni ‘Y Ras Ofod’ yn siŵr o ysbrydoli miloedd o blant o bob rhan o’r wlad i ymuno â ni mewn antur arallfydol.”
Mae plant yn cael eu hannog i ddefnyddio gwefan Sialens Ddarllen yr Haf i greu proffil, i sgwrsio am lyfrau, a chael gwybodaeth am ba lyfrau i’w darllen nesaf drwy’r adnodd digidol Book Sorter sy’n cynnig dros 600,000 o argymhellion am lyfrau gan ddarllenwyr o’r un oed, mewn categorïau sy’n addas i blant.
Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, a chyn-athrawes gynradd: “Pan fydd plant yn ailddechrau yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r haf, rydyn ni’n gweld dirywiad yn sgiliau darllen rhai ohonynt, gyda nifer heb ddod i gysylltiad â llyfrau am chwe wythnos – gall hyn gael effaith andwyol iawn ar eu datblygiad. Mae darllen yn gallu effeithio ar sut mae plentyn yn trafod ei emosiynau, ac ar ei allu i rannu syniadau a deall y byd o’i amgylch. Fy nghyngor i fyddai neilltuo amser, boed hynny’n bum munud neu’n awr bob dydd, i ddarllen gyda’ch plentyn, a gwnewch hyn yn rhan o’r drefn ddyddiol. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol gyffredinol ar blant, ac rwy’n annog teuluoedd ledled Cymru i gymryd rhan yn hwyl Sialens Ddarllen yr Haf.”
Mae’r sialens hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli yn eu llyfrgelloedd lleol; gall hyn eu hysbrydoli i feddwl am eu dyfodol ac i ddysgu sgiliau bywyd defnyddiol. Y llynedd, dewisodd 134 o bobl ifanc rhwng 12 a 24 oed gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli.
Sialens Ddarllen yr Haf yw’r ymgyrch flynyddol fwyaf yng ngwledydd Prydain i annog plant 4–11 oed i ddarllen. Ei nod yw annog plant i ymweld â’u llyfrgelloedd lleol a’u hysbrydoli i ddarllen am hwyl. Yn ystod y sialens y llynedd, benthycwyd 663,851 o lyfrau plant mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac ymunodd dros 3,000 o blant â’r llyfrgell fel aelodau newydd.
Gorff 1, 2019
Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 25 a 26 Mehefin pan ddaethant yn eu cannoedd i ddathlu darllen yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru, cystadlaethau a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant oedran cynradd.
Roedd 34 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn ymgiprys am y teitl Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019.
Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu siroedd yn Aberystwyth.
Trafod llyfr oddi ar rhestr ddarllen a chyflwyno perfformiad fydd yn denu eraill at ddarllen y llyfr oedd yr her a osodwyd i’r disgyblion gyda Mair Heulyn Rees a Rhian Cadwaladr yn feirniaid.
Fel rhan o raglen y dydd, cafodd y plant a’r athrawon gyfle i fwynhau sesiynau hwyliog dros ben yng nghwmni’r awdur a’r actor Meilyr Siôn. Bu’n sbarduno’r darllenwyr brwd gyda chyflwyniad o’i lyfr diweddaraf ‘Hufen Afiach’ (Atebol).
Dywedodd Rob Kenyon, athro o Ysgol Sant Baruc, Bro Morgannwg, “Mae’r plant wrth ei boddau yn cael cyfle i drafod y llyfrau ac i gyflwyno’r stori. Mae’n rhoi cyd-destun go iawn i waith datblygu llythrennedd a hynny mewn ffordd hwyliog dros ben. Mae cael y cyfle i gyfarfod ag awdur go iawn yn goron ar y cwbl.”
Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cystadlu ddydd Mawrth, 25 Mehefin. Ysgol Llannon, Sir Gaerfyrddin gipiodd y brif wobr am gyfuniad o’r cyflwyniad gorau a’r trafod gorau. Yr ysgol yma hefyd oedd enillwyr Tlws Coffa Anwen Tydu am y cyflwyniad dramatig gorau, gan seilio’u perfformiad ar Llanast gan Mari Lovgreen (Gomer).
Ysgol y Garnedd, Gwynedd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a nhw hefyd enillodd y tlws am y grŵp trafod orau. Aeth y drydedd wobr i Ysgol Y Wern, Caerdydd.
Tro disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 oedd hi ddydd Mercher, 26 Mehefin, a bu cystadlu brwd am y Bencampwriaeth. Fe’i henillwyd eleni gan Ysgol Gymraeg Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gydag Ysgol Pen Barras, Sir Ddinbych, yn ail ac Ysgol Sant Baruc, Bro Morgannwg yn drydydd.
Ysgol Pen Barras gipiodd Dlws Coffa Anwen Tydu, gyda’u cyflwyniad yn seiliedig ar y gyfrol Pren a Chansen (Gwasg Carreg Gwalch) gydag Ysgol Gymraeg Rhydaman yn derbyn y tlws am y grŵp trafod gorau.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae cystadleuaeth Darllen Dros Gymru yn gyfle arbennig i blant afael mewn copi o lyfr, ei ddarllen a gwir fwynhau’r cynnwys. Gall y plant ddefnyddio eu dychymyg, dadansoddi’r cynnwys a thrafod yr hyn sydd yn digwydd. Diolch i’r trefnwyr ymroddedig am eu gwaith caled yn y rowndiau sirol, ac i’r athrawon a’r cefnogwyr eraill sy’n sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn bob blwyddyn.”
O ganlyniad i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr – Gomer, Carreg Gwalch, Y Lolfa a Chyhoeddiadau Rily – cafodd pob plentyn a gymerodd ran yn y rowndiau cenedlaethol ddewis llyfr yn rhad ac am ddim.
Meh 27, 2019
O’r 26ain Mehefin ymlaen, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn gallu rhoi llyfrau llyfrgell am ddim ar bresgripsiwn i gynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd yn yr hyn y mae’r arbenigwyr sydd y tu ôl i’r cynllun yn ei alw’n ‘fibliotherapi’.
Datblygwyd cynllun Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Iechyd Meddwl gan The Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Mind, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Cymdeithas Seicolegol Prydain a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn ogystal ag unigolion sydd â phrofiad personol o anghenion iechyd meddwl a’u perthnasau a’u gofalwyr.
Mae’r cynllun yn cael ei lansio yng Nghymru yn dilyn ei lwyddiant yn Lloegr, lle mae 931,000 o bobl wedi benthyca dros 2 filiwn o lyfrau Darllen yn Well o lyfrgelloedd cyhoeddus.
Dywedodd Debbie Hicks, Cyfarwyddwr Creadigol The Reading Agency: “Bydd un o bob pedwar ohonom yn wynebu mater yn ymwneud ag iechyd meddwl rywbryd yn ein bywydau. Mae tystiolaeth yn dangos bod darllen yn cynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain. Rydym wrth ein boddau yn lansio’r rhaglen hon yng Nghymru – rhaglen sydd â’r potensial i newid bywydau er gwell. Mae’r llyfrau ar gael yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed, gan alluogi’r cynllun i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl.”
Bydd copïau am ddim o’r llyfrau ar gael i’r cyhoedd i’w benthyg ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru o 26 Mehefin ymlaen, yn ogystal â deunydd hyrwyddo ategol gan gynnwys taflenni sy’n cynnwys y rhestr lyfrau. Mae The Reading Agency yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfieithu’r rhan fwyaf o’r llyfrau i’r Gymraeg ac mae holl ddeunyddiau’r rhaglen yn ddwyieithog. Gellir argymell y llyfrau gan weithiwr iechyd proffesiynol a’u benthyg yn rhad ac am ddim o lyfrgell leol, neu gall defnyddwyr gyfeirio eu hunain a benthyg y llyfrau fel y byddent yn archebu unrhyw lyfr llyfrgell arall.
Dywedodd yr Athro Neil Frude, seicolegydd clinigol ymgynghorol a sylfaenydd menter wreiddiol Llyfrau ar Bresgripsiwn Cymru: “Mae Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Iechyd Meddwl yng Nghymru yn adnodd ychwanegol defnyddiol a chost-effeithiol iawn ar gyfer darparu cymorth seicolegol i lawer o bobl ar draws y wlad. Amcangyfrifir bod dros 400,000 o oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd â chyflwr meddyliol y gellir ei ddiagnosio. Yn ffodus, mae sawl ffordd hynod effeithiol o ddarparu cymorth seicolegol, gan gynnwys defnyddio llyfrau hunangymorth a ysgrifennwyd gan glinigwyr arbenigol, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘bibliotherapi’.
“Yr hyn sy’n wych am y cynllun hwn yw ei fod yn argymell y llyfrau gorau ac yn eu darparu am ddim drwy’r gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus. Yn y ffordd yma, mae gan y cynllun y fantais ychwanegol o ddod â mwy o bobl i mewn i’r llyfrgell, yr ased cymunedol gwerthfawr hwnnw, lle byddan nhw wedyn yn dod o hyd i lawer o adnoddau eraill a all helpu i hybu eu lles, i feithrin gwytnwch ac i ffynnu.”
Mae’r casgliad o 37 o lyfrau yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd, hunangymorth a straeon personol ysbrydoledig fel Reasons to Stay Alive gan yr awdur arobryn Matt Haig, sy’n archwilio ei brofiad personol o ddod yn agos at gyflawni hunanladdiad yn 24 oed, a The Recovery Letters, casgliad o lythyrau didwyll a ysgrifennwyd gan bobl sydd wedi gwella neu sydd wrthi’n gwella o iselder.
Dywedodd yr awdur Malan Wilkinson o Gaernarfon, llysgennad Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Iechyd Meddwl: “Mae’n flwyddyn bellach ers i mi ysgrifennu fy llyfr am fyw gyda chyflwr iechyd meddwl, ac mae’n wir dweud bod darllen ac ysgrifennu am fy mhrofiadau wedi bod yn hynod werthfawr i fy iechyd fy hun. Ar ôl chwe blynedd o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl, mae’n wych gweld y cynllun hwn yn cael ei lansio yng Nghymru. Bydd cael y casgliad yma o 37 o lyfrau hunangymorth o help mawr i bobl ym mhob rhan o’r wlad.”
Dywedodd Ainsley Bladon, Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru: “Mae’r cynllun Darllen yn Well, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gyfle gwych i barhau ag etifeddiaeth ein cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn Cymru, er mwyn grymuso unigolion i reoli eu lles eu hunain drwy ddefnyddio dulliau sy’n ymwneud â hyrwyddo iechyd y cyhoedd, ac i gynnig am y tro cyntaf ystod lawn o deitlau Cymraeg yn ein llyfrgelloedd, sef un o’r prosiectau cyfieithu mwyaf erioed yng Nghymru.”
Dywedodd Nic Pitman o Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn ganolfannau cymunedol hanfodol ar gyfer cymorth iechyd a lles, ac mae’r rhestr hon o deitlau arbenigol yn ffordd arall y gallwn gefnogi iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru yn gyffrous iawn i weithio gyda The Reading Agency i gyflwyno’r rhaglen hon, sydd wedi derbyn cymeradwyaeth eang gan weithwyr iechyd proffesiynol, fel rhan o’n hymgyrch i hyrwyddo iechyd meddwl gwell.”
Nod y cynllun yw sicrhau bod cyhoeddiadau sy’n cynnig gwybodaeth ym maes iechyd ar gael yn haws i aelodau’r cyhoedd. Mae Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru wedi’i lansio gan The Reading Agency a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Iechyd Meddwl, ewch i: reading-well.org.uk/cymru>
Meh 27, 2019
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ymfalchïo yn y newyddion fod yr addasiadau Cymraeg cyntaf ar iechyd meddwl yn y cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn wedi’u cyhoeddi.
Drwy gydweithio â chwmni cyfieithu Testun, llwyddwyd i gyfieithu’r pedwar teitl cyntaf o blith ugain o lyfrau i’r Gymraeg, yn barod ar gyfer eu lansio gan The Reading Agency yng Nghaerdydd ar 26 Mehefin.
Y llyfrau, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yw:
Cyflwyniad i Ymdopi â Gorbryder
Cyflwyniad i Ymdopi â Galar
Cyflwyniad i Ymdopi ag Iselder
Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, “Mae cael llyfrau o’r math yma yn y Gymraeg yn hollbwysig. Mae’n brosiect mawr, un sy’n gofyn am gryn ymroddiad gan nifer fawr o bobl er mwyn ei wireddu – cyfieithwyr, golygyddion, dylunwyr a chyhoeddwyr. Rydym wrth ein bodd bod y pedwar llyfr cyntaf hyn ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau llyfrau ledled Cymru er mwyn cynnig cymorth a chefnogaeth i ddarllenwyr. Gobeithir y bydd y llyfrau hyn yn ysbrydoli gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i’r rhai sydd am eu defnyddio fel darllen hunangymorth i ddeall amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.”
I gael mwy o wybodaeth am y teitlau hyn, ewch i http://www.gwales.com/home/?lang=CY&tsid=2