Lola

Dwi’n astudio Saesneg a dwi’n angerddol am y pwnc. Dwi’n ymroddedig i roi mynediad i ddarllen i blant mewn ysgolion cynradd a phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd. Darllen er pleser sy’n bennaf gyfrifol am fy mrwdfrydedd i astudio Saesneg. Darllen, ar ba ffurf bynnag,...

Gruffudd

Gruffudd ab Owain ydw i, ac rwy’n ddisgybl Lefel A yn Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala, yn astudio Cymraeg, Mathemateg, Ffrangeg a Sbaeneg. Y tu hwnt i hynny, mae fy niddordebau’n cwmpasu seiclo a’r celfyddydau yn bennaf, ac ysgrifennu amdanynt. Rwy’n gyfrifol am flog Y...

Anna

Fy enw yw Anna Nijo a dwi’n dod o Aberystwyth. Dwi’n mwynhau darllen yn fy amser hamdden, yn enwedig llyfrau ar gyfer oedolion ifanc a llyfrau trosedd. O’r herwydd, dwi’n ymwelydd cyson â‘r llyfrgell leol. Trwy ymuno â‘r panel hwn, dwi’n gobeithio cynyddu nifer y bobl...

Charlie

Helȏ. Fy enw i yw Charlie Evans ac rwy’n byw yn Ynys Môn. Rwy’n 17 mlwydd oed ac yn astudio Lefel A Cymraeg, Hanes, a Ffrangeg. O fis Hydref ymlaen, byddaf yn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Rhydychen, gan ymddiddori, gobeithio, mewn llenyddiaeth sy’n...

Molly

Shwmae! Molly ydw i, a dwi’n 17 mlwydd oed ac yn dod o Gaerfffili. Dwi mor falch i gael bob yn aelod o Banel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru 2023! Ar hyn o bryd dwi’n astudio Saesneg, Ffrangeg, Hanes a Seicoleg UG, ond yn fy amser hamdden dwi’n dwlu ar ddarllen. Dwi’n...