Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant

Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant

Mae caniatâd hawlfraint ar ailddefnyddio deunydd wedi’i gyhoeddi wedi’i gynyddu dros dro ar gyfer ysgolion a cholegau, yn dilyn ymdrechion gan Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA, Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiant cyhoeddi.

Wedi trafodaethau gyda’u haelodau, cyhoeddodd y CLA ar 9 Chwefror 2021 bod uchafswm y deunydd y gellid ei gopïo o dan eu Trwydded Addysg yn cynyddu dros dro – o’r 5% presennol i 20% tan 31 Mawrth 2021.

Ac mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu caniatâd arbennig gyda rhai o brif gyhoeddwyr Cymru er mwyn eu gwneud yn haws i athrawon ddefnyddio eu deunydd ar gyfer dysgu o bell yn ystod cyfnod y pandemig.

Trwydded Addysg y CLA

O dan y newid dros dro i delerau’r drwydded, gall athrawon gopïo hyd at 20% o lyfr print sy’n eiddo i’r ysgol gan gynnwys cynnwys llyfrau wedi’i sganio sy’n cael eu cadw ar systemau dysgu rhithiol (VLE) yr ysgol.

Bydd y newid, sy’n berthnasol i ysgolion, colegau chweched dosbarth ac addysg bellach y DU,  yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon a myfyrwyr gael gafael ar adnoddau i gefnogi dysgu o bell tra bod ysgolion ynghau.

Gall defnyddwyr y Platfform Addysg hefyd gopïo hyd at 20% o lyfr digidol sydd ar gael ar y platfform yn ystod y cyfnod hwn.

Man amodau llawn y Drwydded Addysg i’w gweld ar wefan y CLA ac mae’r asiantaeth hefyd wedi paratoi canllawiau arbennig i ysgolion yn egluro’n syml beth yw eu hawliau o dan amodau arferol y drwydded.

Ar hyn o bryd, mae pob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru wedi cofrestru gyda’r CLA sy’n golygu bod telerau’r drwydded yn berthnasol i’w holl ysgolion.

Cyhoeddwyr Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi trefnu caniatâd dros dro arbennig gyda rhai o brif gyhoeddwyr Cymru o ran eu defnydd o lyfrau yn ystod y pandemig.

Y nod yw ei gwneud hi’n haws i athrawon ailddefnyddio deunydd sydd wedi’i gyhoeddi er mwyn cefnogi ymdrechion addysgu o bell.

Mae’r telerau’n amrywio o gyhoeddwr i gyhoeddwr ac yn cynnwys, er enghraifft, yr hawl i gopïo a recordio darlleniadau o lyfrau.

Mae manylion llawn y caniatâd dros dro sydd wedi ei gytuno gyda chyhoeddwyr Cymru i’w gweld ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb ac yn enwedig i ysgolion wrth iddyn nhw barhau i gynnig addysg o safon ar adeg pan fo’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu o gartref. Mewn amgylchiadau eithriadol, rydym yn croesawu cyhoeddiad y CLA am gynyddu caniatâd hawlfraint dros dro o dan amodau eu Trwydded Addysg. Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i gyhoeddwyr Cymru am eu cydweithrediad parod a’u cefnogaeth i addysg plant yn ystod cyfnod sydd hefyd yn anodd iddyn nhw fel busnesau masnachol.”

Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau

Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio platfform digidol newydd sbon ar gyfer e-lyfrau o Gymru.

ffolio.cymru fydd y platfform dwyieithog cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar werthu e-lyfrau o Gymru i’r byd ehangach.

Mae’r wefan ddielw yn cychwyn gyda dewis o dros 800 o deitlau ffuglen a ffeithiol ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal â llyfrau addysgol i blant yn Gymraeg a Saesneg.

Mae dros 500 o’r llyfrau Cymraeg ar y wefan ar gael fel e-lyfrau am y tro cyntaf erioed, a bydd y ffigwr hwn yn parhau i gynyddu.

Bydd siopau llyfrau annibynnol yng Nghymru yn elwa o bob pryniant, gyda chanran o werthiant pob e-lyfr yn mynd yn uniongyrchol i helpu i gefnogi’r busnesau bach hyn sydd mor bwysig i’n stryd fawr a’n cymunedau.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Wrth lansio ffolio, rydym yn darparu platfform digidol dielw ac iddo gynnig unigryw – platfform sy’n cael ei gynnal a’i gadw yng Nghymru, lle mae bron pob un e-lyfr yn dod gan gyhoeddwr o Gymru. Bydd yn helpu i gynnal swyddi yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi siopau llyfrau annibynnol sy’n gwneud cyfraniad mor bwysig i’n cymunedau ac a fydd yn derbyn comisiwn ar bob gwerthiant.

“Fel elusen genedlaethol sy’n ymroddedig i gefnogi cyhoeddi a hyrwyddo darllen, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod darllenwyr o bob oed a diddordeb yn gallu dewis llyfrau o Gymru mewn amrywiaeth o fformatau. Mae ffolio yn cadarnhau ac yn ehangu’r dewis yma, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu’r datblygiad sylweddol hwn.”

Mae datblygu ffolio yn rhan o fuddsoddiad dros ddwy flynedd a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol ym mis Mawrth 2020 i alluogi’r Cyngor Llyfrau i uwchraddio ei systemau digidol a chyflwyno system TG integredig newydd ar gyfer gwerthu, cyflenwi a dosbarthu llyfrau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae ffolio yn blatfform newydd cyffrous a fydd yn amlygu cyfoeth o dalent greadigol, yn hwyluso mynediad at waith awduron o Gymru, tra hefyd yn dod â budd i’r diwydiant cyhoeddi a’n siopau llyfrau Cymreig. Mae’n hynod o bwysig bod pobl yn gallu troi at lyfrau yn y fformat o’u dewis – yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol.”

Mae ffolio yn cynnwys detholiad eang o e-lyfrau sy’n addas ar gyfer plant ysgol, gan eu cefnogi wrth iddynt ddarllen er pleser a’u helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd.

Diolch i gydweithrediad cyhoeddwyr yng Nghymru, bydd mwy o e-lyfrau hefyd ar gael i ysgolion drwy Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA a gellir defnyddio’r adnoddau yma i gefnogi gwersi.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Cyngor Llyfrau ffolio@llyfrau.cymru.

DIWEDDARIAD – Sefyllfa’r siopau llyfrau – Ionawr 2021

DIWEDDARIAD – Sefyllfa’r siopau llyfrau – Ionawr 2021

Mae llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru hefyd yn parhau i gymryd archebion ar-lein, dros y ffôn neu clicio-a-chasglu lle bo hynny’n bosibl.

Mae llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru hefyd yn parhau i gymryd archebion ar-lein, dros y ffôn neu clicio-a-chasglu.

Os ydych chi am ddianc i fyd arall drwy gloriau llyfr da, mae gan y llyfrwerthwyr wledd o ddewis darllen ar eich cyfer. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth personol unigryw a chyngor gwych ar beth i’w brynu.

Mae manylion cyswllt ar gyfer siopau llyfrau annibynnol ar hyd a lled Cymru i’w cael isod, neu defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ganfod eich siop lyfrau lleol.

Os ydych chi’n llyfrwerthwr yng Nghymru sydd am ychwanegu neu ddiweddaru eich manylion, ebostiwch post@llyfrau.cymru

Awen Meirion, Y Bala – www.awenmeirion.com / @AwenMeirion / www.facebook.com/awenmeirion / siop@awenmeirion.com / 01678 520658

Awen Menai, Porthaethwy –  www.facebook.com/awen.menai   https://arystrydfawr.co.uk /  awenmenai@gmail.com  / 01248 715532

Awen Teifi, Aberteifi  –  www.awenteifi.comwww.facebook.com/Awen-Teifiarcheb@awenteifi.com   /  awen.teifi@btconnect.com / 01269 621370

Book-ish, Crughywel  –  www.bookish.co.uk /  @Bookishcrick / 01873 811256 /  info@book-ish.co.uk

Booka Books, Croesoswallt  – Gwasanaeth Clicio-a-chasglu a Gwasanaeth postio ar gael /  www.bookabookshop.co.uk

Browsers Bookshop, Porthmadog  –  https://www.browsersbook.shop  / 01766 512066 / 07919 410678 /  ben.cowper@btconnect.com  / Facebook: Browsers Bookshop / Instragram: @browsersbookshopporthmadog

Burway Books, Church Stretton  – Gwasanaeth Clicio-a-chasglu / Cludo i’r Cartref a Gwasanaeth postio ar gael  www.burwaybooks.co.uk  / Twitter – @BurwayBooks / Instagram – burwaybooks / 01694 723388 /  ros.burwaybooks@btconnect.com

Bys a Bawd, Llanrwst  –  https://www.bysabawd.cymru /  berry@bysabawd.cymru / 01492 641329  / Facebook: Siop Bys a Bawd Llanrwst  Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael a gall cwsmeriaid ebostio, ffonio neu roi archeb drwy’r drws.

Caban, Caerdydd  –  https://www.facebook.com/CabanPontcanna  /  siopcabancanna@gmail.com / 02920 342223

Cant a Mil, Caerdydd  –  www.cantamil.com  / @siopcantamil ar Instagram, Trydar a Facebook /  jo@cantamil.com  / 02920 212474  Mae modd archebu drwy’r wefan ac mae archebion yn cael eu postio bob dydd.  Gellir hefyd gasglu archebion trwy drefniant. Cofiwch ymweld â’u gwefan – ar agor 24/7 ar gyfer archebu.

Castle Bookshop, Llwydlo – Gwasanaeth Clicio-a-chasglu / Postio ar gael / www.castlebookshopludlow.co.uk / 01584 872 562

Chepstow Books, Chepstow  –  www.chesptowbooks.co.uk  / 01291 625011 /  shop@chepstowbooks.co.uk  / 01291 625011  / Facebook: Chepstow Books & Gifts / Twitter @chepstowbooks / Gwasanaeth Clicio-a-chasglu ar gael o ddydd Llun-Sadwrn rhwng 10.00am-2.00pm / Gwasanaeth postio ar gael hefyd.

Cofion Cynnes, Ystradgynlais  –  Cynthia.davis@talktalk.net  / 01639 849581

College Street Books, Rhydaman  –  07434 975578 /  www.facebook.com/CollegeStreetBooks  /  collegestreetbooks@btconnect.com / 01269 592140

Courtyard Books, Llangollen  –  courtyardbooksllangollen@gmail.com  / 07966 250275  / Facebook: courtyardbooksllangollen

Cover to Cover, Mwmbwls  –  www.cover-to-cover.co.uk  /  https://twitter.com/CovertoCoverUK   / 01792 366363 /  sales@cover-to-cover.co.uk

Cowbridge Books, Y Bontfaen  –  cowbridgebookshop@btconnect.co.uk  /  https://www.facebook.com/thecowbridgebookshop  / 01446 775105

Croeso Cynnes (T-Hwnt), Caerfyrddin –  croesocynnes@outlook.com / 01267 231133 / 07976 234176 / www.facebook.com/CroesoCynnes  / Instagram @CofionCynnes

Cwpwrdd Cornel, Llangefni  –  dylanmorgan28@gmail.com / 01248 750218

Cwtsh, Pontyberem  –  www.facebook.com/YCwtsh /  post@y-cwtsh.co.uk / 01269 871600

Cyfoes, Rhydaman  –  www.facebook.com/Cyfoes  /  eleribowen@cyfoes.cymru / 01269 595777

Elfair, Rhuthun  –  07976 981490 / 01824 702575 / 01824 707214 / elfair@boyns.cymru  / Facebook: Siop Elfair / Instagram: @siopelfair  Gwasanaeth Clicio a chasglu ar ddydd Gwener a Sadwrn rhwng 11.00-2.30pm.  Gellir cysylltu drwy Facebook, Instagram, ebost neu ar y ffôn.

Ffab, Llandysul  –  www.ffabcymru.co.uk  /  post@ffabcymru.co.uk / 01559 362060

Giggles, Y Bari  –  www.facebook.com/Giggles-Barry-479792188748220  /  jillmathews56@gmail.com / 01446 734866

Great Oak Bookshop, Llanidloes  –  https://greatoakbooks.co.uk  /  https://www.facebook.com/TheGreatOakBookshop  / 01686 412959 /  greatoak@pc-q.net  Gwasanaeth Clicio a Chasglu tan 4.00 o’r gloch ar 24 Rhagfyr 2020. Ail-agor ar ddydd Llun, 4 Ionawr 2021.

Griffin Books, Penarth  –  www.griffinbooks.co.uk  /  info@griffinbooks.co.uk  / 02020 706455  / Facebook: Griffin Books / Instagram @griffinbooksUK / Twitter @griffinbooksUK  Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael ar gyfer archebion sydd wedi’u talu ymlaen llaw rhwng 9yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwasanaeth postio fel arfer. Gellir archebu ymlaen llaw oddi ar wefan y siop, ebost neu ffôn – ni ellir gwerthu o’r drws.

Gwisgo, Aberaeron  –  www.gwisgobookworm.co.uk  /  info@gwisgo.co.uk  / 01545 238282. Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar ddydd Llun, Mercher a Gwener rhwng 11.00 a 3.00pm. Gellir archebu ar wefan y siop, ebost neu ffôn. Gellir cysylltu drwy Twitter, Instagram @Gwisgobookworm / #gwisgobookworm, a Facebook www.facebook.com/GwisgoBookworm. Gallwn ddosbarthu’n lleol (Aberaeron) a chynnig gwasanaeth postio fel arfer.

Hintons, Conwy  –  @hintons.conwy / 01492 582212

Igam Ogam, Llandeilo  –  www.igamogamgifts.co.uk  /  igamogam103@gmail.com   /  01558 822698  /  www.facebook.com/IgamOgam

Inc, Aberystwyth  –  https://www.facebook.com/Siop-Inc-121059026497  /  mail@siopinc.com  / 01970 626200 / 07834 957158

Llên Llŷn, Pwllheli  –  01758 612907 /  llenllyn@btconnect.com  / Facebook: Llên Llŷn Llyfrau a Recordiau

Llyfrau Eaves a Lord, Trefaldwyn – 01686 668450 /  Barrylord1965@btinternet.com

Llyfrau’r Enfys, Merthyr Tudful  –  Vikki.marsh@sky.com / 01686 722176 / Facebook: @llyfraurenfys

Na Nog, Caernarfon  –  www.na-nog.com  / facebook.com/SiopNanog / Instagram – siop_nanog / Twitter – @SiopNanog. 01286 676946 /  Bethan@na-nog.com  Parhau i dderbyn archebion – gwasanaeth Clicio a Chasglu, archebu oddi ar y wefan a dros y ffôn.

Narberth Museum Bookshop, Arberth  –  www.narberthmuseum.co.uk  / 01834 861719

No 1 High St, Y Drenewydd  –  www.no1highstreet.co.uk  / 07866259710 /

Palas Print, Caernarfon  –  www.palasprint.com /  @PalasPrint /  eirian@palasprint.com / 01286 674631  Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael.  Gweithredu fel arfer tu ôl i ddrysau caeedig – Llun – Mercher 9:00-5.00 a 9:00-4.00 ar ddydd Iau, 24 Rhagfyr 2020.

Paned o Gê, Caerdydd  –  www.paned-o-ge.cymruinfo@paned-o-ge.waleswww.twitter.com/panedogehttps://instagram.com/panedoge.  Gellir archebu oddi ar y we.

Pen’rallt Gallery Bookshop, Machynlleth  –  www.penralltgallerybookshop.co.uk  /  penralltbooks@gmail.com  / 01654 700559

Pethe Powys, Y Trallwng  –  Faceboook –  Pethe Powys  / 01938 554540 /  post@pethepowys.co.uk  SIOP WEDI CAU AR HYN O BRYD.

Poetry Bookshop, Y Gelli Gandryll  –  info@poetrybookshop.co.uk / 01497 821812

The Rossiter Books Team – www.rossiterbooks.co.uk  /  iloveit@rossiterbooks.co.uk  /  ross@rossiterbooks.co.uk / 01989 564464 / FB: Rossiter Books / Twitter: Rossiterbooks / Instagram: Rossier_books

Seaways Bookshop, Abergwaun  –  SIOP AR GAU TAN 9-11-20 Seawaysorders@gmail.com  / 01348 873433

Siop Clwyd, Dinbych  –  www.facebook.com/Siop-Clwyd-468077820051483  /  siopclwyd@yahoo.co.uk / 01745 813431  Gwasanaeth Clicio a Chasglu ar gael tan 24 Rhagfyr 2020.

Siop Cwlwm, Croesoswallt  –  Gwasanaeth Clicio-a-chasglu ar gael ar ddydd Llun, Mercher a Gwener rwhng 10.00am-2.00pm / Gwasanaeth Cludo i’r Cartref / Gwasanaeth postio ar gael  www.siopcwlwm.co.uk  / 07814 033759 /  post@siopcwlwm.co.uk

Siop Dewi, Penrhyndeudraeth  –  dewi11@btconnect.com / 01766 770266

Siop Eifionydd, Porthmadog  –  siopeifionydd@hotmail.com / 01766 514045  / Facebook: Siop Eifionydd

Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog  –  henbost.blaenau@gmail.com  / 01766 831802 / 07496 134845

Siop Lyfrau Lewis, Llandudno  –  www.facebook.com/sioplewis  /  www.sioplewis.cymru  /  @sioplewis /  helo@sioplewis.com /  01492 877770

Siop Ogwen, Bethesda  –  @siopogwen /  https://www.facebook.com/siopogwen  /  siop@ogwen.org  / 01248 208485

Siop y Pentan, Caerfyrddin  –  busnes@ypentan.co.uk / 01267 253044 / 07951 610278  / www.facebook.com/SiopyPentan  / Instagram @Siopypentan

Siop y Pethe, Aberystwyth  –  www.siopypethe.cymru  / post@siopypethe.cymru  / 01970 617120

Siop Tŷ Tawe, Abertawe  –  https://www.facebook.com/Ysioptytawe  /  siop@sioptytawe.co.uk  / 01792 456856

Siop Sian, Crymych  –  https://www.facebook.com/SiopSian  /  steph_ellen@hotmail.co.uk / 01239 831230

Siop y Siswrn, Yr Wyddrug  –  01352 753200 /  siopysiswrn@aol.com  / Facebook – Siop Y Siswrn /  www.siopysiswrn.com  Gwasanaeth Ffonio a Chasglu tan 4.00 o’r gloch ddydd Mercher, 23 Rhagfyr 2020.  Ail agor ar 4 Ionawr 2021.

Siop Siwan, Wrecsam  –  https://www.facebook.com/siopsiwan  / 07375 653387 /  tecstiliausiwmai@outlook.com  Ar gau tan ddiwedd Ionawr 2021.  Cysylltwch i drefnu archebu a chludo.

Siop y Smotyn Du, Llanbed  –  01570 422587.

Tenby Bookshop, Dinbych y Pysgod  –  https://www.facebook.com/tenbybookshop  / 01834 843514 /  tenbybookshop@aol.com

The Bookshop, Yr Wyddgrug  –  www.mold-bookshop.co.ukinfo@moldbookshop.co.uk / 01352 759879 / Gwasanaeth postio ar gael yn ystod y cyfnod clo.

The Hours, Aberhonddu  –  www.thehoursbrecon.co.uk  /  thehours@btinternet.com / 01874 622800

Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe  –  Byddwn yn derbyn archebion ond ni fydd modd i’r cwsmeriaid gasglu eu llyfrau nes ar ôl y cyfnod clo.  www.facebook.com/Tyrgwrhyd  / 07990 153730 /  post@gwrhyd.cymru / 01639 763818

Verzon Bookshop Gallery, Llandrindod  –  www.facebook.com/VerzonBookshopGallery  /  jorice2003@yahoo.com / 01597 825171 Gwasanaeth Clicio a Chasglu rhwng 10.00-3.00 o’r gloch hyd 24 Rhagfyr.  Ail agor yn Ionawr 2021.

Victoria Bookshop, Hwlffordd  –  https://www.facebook.com/VictoriaBookshop  / 01437 762750 (bore’n unig) /  mail@victoriabookshop.co.uk

Y Felin, Caerdydd  –  Shan@siopyfelin.co.uk  / 02920 692999 /  shani.williams@live.co.uk  / Facebook: Siopyfelin / Twitter @siopyfelin / Instagram @y_felin

Ystwyth Books, Aberystwyth  –  01970 639479 / 07590 764115 /  www.facebook.com/YstwythBooks /  ystwyth.books@btinternet.com 

Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu

Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu

Bydd ein swyddfeydd a’r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021.

Bydd ein swyddfeydd a’r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021.

Carem ddymuno Nadolig dedwydd i chi a diolch am eich cenfogaeth o dan amgylchiadau tu hwnt o heriol yn 2020.

Ymlaen â ni tuag at 2021!

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gefnogi cystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru.

Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr 2021, mae rhaglen foreol Aled Hughes yn galw ar blant rhwng 5-11 oed i ysgrifennu stori Cymraeg hyd at 500 gair ar thema “Y Llwybr Hud”.

Mae tri chategori ar gyfer oedrannau gwahanol, sef:

• Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed
• Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed
• Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed

Bydd Aled yn cyhoeddi’r enillwyr ar ei raglen yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 4 Mawrth 2021, gyda’r buddugwyr yn derbyn pentwr o lyfrau yn wobr gan y Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ddigwyddiad holl bwysig yn ein calendr blynyddol ac rydyn ni’n falch iawn i gefnogi’r gystadleuaeth yma sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru. Mae gan bob unigolyn stori yn cuddio y tu mewn iddyn nhw a dyma gyfle gwych felly i ddechrau meithrin doniau ysgrifennu ymhlith y to ifanc.”

Llio Maddocks yw’r beirniad fydd yn pori drwy’r straeon ac yn dewis y dair stori orau.

Os am gystadlu, mae gofyn i ysgolion anfon straeon eu disgyblion at BBC Radio Cymru erbyn y dyddiad cau 25 Ionawr 2021, ynghyd â’r ffurflen gais sydd i’w chael ar wefan Radio Cymru.

Y cyfeiriad ar gyfer anfon y straeon yw:

Sgwennu Stori Aled Hughes
BBC Radio Cymru
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY

Rhaid nodi’n glir ffugenw’r disgybl, y categori ac enw’r ysgol ar ben pob stori, a bydd angen i’r ysgol gadw rhestr o’r enwau sy’n cyd-fynd â’r ffugenwau.

 

 

Mae manylion pellach ynghyd â thermau ac amodau llawn i’w cael ar wefan BBC Radio Cymru neu gallwch chi gysylltu gyda rhaglen Aled Hughes ar aled@bbc.co.uk.

Pob lwc!

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021.

Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw.

I ddathlu cyhoeddi’r teitl, mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth arbennig i ddod o hyd i’r 150 o gymeriadau o lyfrau plant Cymru sydd wedi cael eu cuddio gan Huw mewn poster prysur.

Cystadleuaeth
Mae cystadleuaeth ‘Ble yn y byd, Boc?’ ar agor i ysgolion ac i unigolion o bob oedran, ac mae gwobrau gwych i’w hennill.

Bydd enillydd categori’r ysgolion yn derbyn pentwr o lyfrau, gyda thaleb llyfrau £50 yn ail wobr.

Y brif wobr yn y categori unigol fydd darn gwreiddiol o waith celf Huw sy’n ymddangos yn Ha Ha Cnec a phentwr o lyfrau, gyda thocyn llyfr £20 yn ail wobr.

Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Huw Aaron: “Dw i wedi arlunio llun o barti arbennig iawn ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r gwesteion i gyd yn gymeriadau o lyfrau plant a theledu Cymru – rhai newydd, rhai o’m mhlentyndod, a rai sy’n hen iawn erbyn hyn! Mae ’na 150 i’w henwi – ond bydd angen help mam a dad (ac efallai Mam-gu neu Taid!) i adnabod nhw i gyd. Pob lwc!”

Mae manylion pellach am y gystadleuaeth i’w gweld ar www.mellten.com a’r dyddiad cau yw 31 Ionawr 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Ddiwrnod y Llyfr 4 Mawrth 2021.

Bydd modd prynu copi o Ha Ha Cnec (Y Lolfa) am £1 neu ddefnyddio’r tocyn llyfr £1 a roddir i bob plentyn i nodi Diwrnod y Llyfr 2021 ar 4 Mawrth.

Bydd Stori Cymru – Iaith a Gwaith, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, hefyd ar gael eto eleni am £1. Dyma lyfr sy’n adrodd hanes Cymru a gwaith ei phobl drwy gyfrwng stori, llun a chân.

Bydd fersiynau hygyrch o’r llyfrau ar gael, gan gynnwys fersiynau braille, print bras a sain, diolch i gefnogaeth yr RNIB.

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Nod Diwrnod y Llyfr yw sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i gael eu llyfr eu hunain a’u helpu i fwynhau’r profiad o ddarllen er pleser, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Rydym wrth ein bodd felly bod Huw Aaron wedi cytuno i greu llyfr newydd a fydd, gyda chyfrol Myrddin ap Dafydd, yn sicrhau dewis da o lyfrau Cymraeg am £1 i blant ar Ddiwrnod y Llyfr 2021.”

Mae’r poster sydd yn sail i’r gystadleuaeth yn ymddangos yn llyfr newydd Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau gan Huw Aaron a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020 ac sydd wedi’i ddewis yn Llyfr y Mis gan y Cyngor Llyfrau ar gyfer mis Rhagfyr 2020.

Diwrnod y Llyfr
Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Waterstones.

Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain.

Bydd manylion pellach am ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2021 yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.