Ein Newyddion

Warning: Undefined array key "text" in /var/web/site/public_html/wp-content/plugins/TwitterAPICyngorLlyfrau/ategyn-twitter.php on line 84
Cyfarchion y Nadolig 2024

Cyfarchion y Nadolig 2024

Cyfarchion y Nadolig 2024 Bydd y Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Llun, 23 Rhagfyr 2024 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd iau, 2 Ionawr 2025. Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc, 2024 Heddiw, dydd Iau 28 Tachwedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi teitlau’r llyfrau sydd wedi ennill Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc, a gyflwynir am y tro cyntaf yn 2024. Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Yr enillwyr yw: Enillydd y categori Gymraeg:Mynd i Weld Nain Darluniad y clawr gan Lily Mŷrennin. Dyluniad y clawr gan Richard Pritchard....

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Dathlu amrywiaeth drwy lyfrau i blant a phobl ifanc

Dathlu amrywiaeth drwy lyfrau i blant a phobl ifanc Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio detholiad newydd o lyfrau gwreiddiol i blant a phobl ifanc mewn digwyddiad arbennig yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Cafodd dysgwyr o ysgolion lleol eu gwahodd i weld y llyfrau newydd ac i gwrdd â’r awduron. Sefydlwyd prosiect Rhyngom, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cyhoeddi mwy o lyfrau i ddarllenwyr ifanc sy’n cynrychioli diwylliant, pobl a hanes Cymru gyfan, ac sy’n dathlu a hyrwyddo amrywiaeth....

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Coffa da – Mick Felton

Mick Felton Gyda thristwch y clywodd Cyngor Llyfrau Cymru am farwolaeth Mick Felton. Fel cyhoeddwr Seren, roedd gan Mick rôl ganolog yn y byd cyhoeddi yng Nghymru am ddeugain mlynedd. Mae dyled y diwydiant ac awduron Cymru yn fawr iddo. Gwerthfawroga’r Cyngor Llyfrau y gwaith aruthrol y mae cyhoeddwyr yn gyffredinol, a Mick yn benodol, wedi ei wneud yn dawel, y tu ôl i’r llenni, i sicrhau bod cyhoeddi yng Nghymru a chan awduron Cymreig yn parhau i ffynnu. Llafur cariad yw hyn yn aml iawn a...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Dathlu canlwyddiant geni’r awdur Islwyn Ffowc Elis (1924–2004)

Islwyn Ffowc Elis (1924–2004) Rhai atgofion Robin Chapman Tua chanol haf 1996, yn sgil derbyn comisiwn i lunio cyfrol fach ar Islwyn i’r gyfres Writers of Wales, ysgrifennais ato i ddweud y byddwn yng nghyffiniau ei gartref yn Llanbedr Pont Steffan o fewn ychydig wythnosau ac mai braf fyddai cyfarfod. Daeth pecyn swmpus yn ateb: llythyr yn fy ngheryddu am ei alw yn ‘Dr Elis’ (‘Islwyn wyf fi i’m ffrindiau’) ac yn fy nghroesawu i alw yn y tŷ am goffi neu ginio canol dydd neu de pnawn. Amgaeodd...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Gwobrau clawr y flwyddyn Cymru 2024 am lyfrau i blant a phobl ifanc

GWOBRAU CLAWR Y FLWYDDYN CYMRU 2024 AM LYFRAU I BLANT A PHOBL IFANC Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion yn eu Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc a gyflwynir am y tro cyntaf erioed yn 2024. Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Dewiswyd y llyfrau ar y rhestrau byrion gan y naw aelod o Banel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Bydd enillwyr y ddau gategori yn cael eu dewis drwy bleidlais...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt: Arddangos Cymru yn ffair gynnwys fwyaf y byd Bydd gan Gymru bresenoldeb yn Ffair Lyfrau Frankfurt fis Hydref eleni am yr ail flwyddyn yn olynol, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cydlynu presenoldeb Cymruyn y ffair i hyrwyddo’r llyfrau a’r awduron gorau o Gymru ar lwyfan rhyngwladol. Cynhelir Ffair Lyfrau Frankfurt bob blwyddyn ym mis Hydref a hi yw’r ffair gynnwys fwyaf yn y byd, gyda chynrychiolaeth o...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi derbynnydd Gwobr Mary Vaughan Jones 2024

  Bethan Gwanas yn derbyn yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru: Cyhoeddi derbynnydd Gwobr Mary Vaughan Jones 2024 Mae Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru, wedi ei dyfarnu i Bethan Gwanas, i ddathlu ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Fe gyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983, i berson a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Ysbrydoli darllenwyr ifanc yn y dosbarth – pecyn adnodd newydd

YSBRYDOLI DARLLENWYR IFANC YN Y DOSBARTH Mae gan athrawon mewn ysgolion ledled Cymru adnodd newydd i’w helpu i ysbrydoli cariad at ddarllen gyda’u dysgwyr ifanc. Heddiw, 1 Hydref, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio Pecyn Dathlu Darllen ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sy’n llawn dop o syniadau, gweithgareddau ac adnoddau arbennig i fwynhau darllen yn y dosbarth. Crëwyd y pecyn yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan athrawon yng Nghymru yn gofyn am adnoddau i’w helpu i ddathlu darllen trwy...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Her yr Hydref – Beth am ymuno?

HER YR HYDREF Eisiau darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn gwybod ble mae dechrau? Ydy dod o hyd i amser i chi’ch hunan yn brin? Angen her i’w chyflawni dros yr hydref? Ymunwch â Her yr Hydref! Os ydy’n anodd cael hyd i amser i ymlacio, neu os carech chi ddarllen mwy ac ymgolli mewn llyfr da ond bod amser yn brin, mae Her yr Hydref yn ffordd wych o ddechrau arni. Mae’r her yn eich annog i ddarllen un llyfr Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref. Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr Cymru a thu hwnt

Folding Rock –Cyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt Heddiw mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi pwy sydd wedi derbyn £80,000 o arian blynyddol i gyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd o Gymru. Bydd Folding Rock: New Writing from Wales and Beyond yn rhoi llwyfan i awduron newydd a chydnabyddedig, gan ddathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Fe’i sefydlir gan yr awdur, golygydd a’r cynhyrchydd creadigol, Kathryn Tann, a’r golygydd a’r dyluniwr, Robert...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 Dewch i fwynhau'r arlwy isod yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd rhwng 3–10 Awst 2024. DYDD SADWRN, 3 AWST11:00 | Stondin Cant a MilIrram IrshadCymraeg, Asiaidd a Balch 11:30 | Stondin RilyCyflwynwyr StwnshGemau rhyfeddol gyda chyflwynwyr Stwnsh 12:00 | Storyville, PontypriddFound in Translation: Art or Alcemi?Digwyddiad wedi ei drefnu fel rhan o Cwr Stryd Felin Frinj – Storyville Books. Digwyddiad...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Rhodd arbennig i gefnogi ac ysbrydoli awduron ifanc

Eleni, mae naw awdur ifanc wedi gallu cymryd cam yn nes at wireddu eu huchelgais i ddod yn awduron cyhoeddedig, diolch i gymynrodd hael gan Marie Evans, oedd yn dymuno cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Diolch i deulu Marie, roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu trefnu encil ysgrifennu, er mwyn rhoi cyfle i awduron ifanc dreulio deuddydd yng nghwmni’r awdur Sioned Erin. Roeddent yn gallu cymryd amser i drafod ysgrifennu, rhannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau unigol...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Darllenwyr ifanc yn paratoi ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf

Mae darllenwyr ifanc o Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych wedi bod yn paratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid, mewn lansiad yn Llyfrgell Dinbych heddiw, dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024. Mae’r plant wedi ymuno â’r Sialens, a grëwyd gan yr elusen genedlaethol The Reading Agency, sydd â’r nod o’u cadw yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol. Mae Sialens Ddarllen yr Haf...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Dros 40 o brosiectau yn derbyn arian Cynulleidfaoedd Newydd

Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi dros 40 o brosiectau sy’n rhannu cronfa o £500,000 yn nhrydedd flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd NewyddMae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r 44 prosiect ledled Cymru sydd wedi derbyn arian trwy’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn 2024.Derbyniwyd ceisiadau am brosiectau gwerth bron £1 filiwn ar gyfer cronfa o £500,000. Arian gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol oedd hwn, gyda’r nod o gefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.Gwahoddwyd ceisiadau...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod, mewn seremoni arbennig amser cinio heddiw, ddydd Mercher 29 Mai. Enillydd y categori cynradd ydy Jac a’r Angel gan Daf James, ac enillydd y categori uwchradd ydy Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter – dwy nofel sydd yn dathlu pŵer y dychymyg i’n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd. Enillydd y categori Cynradd:Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024

Where the River Takes Us gan Lesley Parr (cyhoeddwyd gan Bloomsbury Publishing) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Yr awdur Lesley Parr yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2024 gyda’r gyfrol Where the River Takes Us – stori antur gyffrous wedi ei lleoli mewn cwm yng Nghymru yn y 1970au ac wedi’i chyhoeddi gan Bloomsbury. Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni amser cinio, dydd Gwener 17 Mai yng Nghynhadledd CILIP Cymru Wales yng Nghaerdydd, gan...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi cronfa o £500,000 ar gyfer Grant Cynulleidfaoedd Newydd 3

Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Grant Cynulleidfaoedd Newydd 3 wrth gyhoeddi cronfa newydd o £500,000 Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer trydedd rownd y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, diolch i £500,000 gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol. Pwrpas y grant yw cynnal a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae grantiau ar gael i gyhoeddwyr, elusennau neu sefydliadau yng Nghymru ar gyfer: Creu cynlluniau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Datgelu Rhestr Fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru a’r cyflwynydd, y dylanwadwr a’r llyfrbryf Ellis Lloyd Jones y teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og ddydd Gwener, 15 Mawrth am 12pm ar eu cyfrifon Instagram a TikTok. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023. Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024

Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Fercher, 13 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023. Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol,...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Prosiectau sydd wedi derbyn arian Grant Cynulleidfaoedd Newydd 2

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi manylion y prosiectau a ariennir yn ail flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, gyda phrosiectau ar hyd a lled Cymru yn rhannu cronfa o £400,000 yn ystod 2023/24.Ariennir Grant Cynulleidfaoedd Newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Pwrpas y grant yw cryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Roedd grantiau o hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau a mentrau newydd yng Nghymru ar gyfer:datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o...

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024

Dathlu Diwrnod y Llyfr yng Nghymru 2024 Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ar ddydd Iau 7 Mawrth, ac yn annog plant ledled y wlad i fwynhau darllen, gan dderbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am un o’r llyfrau £1 a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer y cynllun AM DDIM, neu i’w roi tuag at lyfr arall o’u dewis. Y llyfr Cymraeg eleni, a gefnogir gan y Cyngor Llyfrau ac a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Rily, yw Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff. Wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan Kev...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyfle tendro ar gyfer cylchgrawn newydd sbon yng Nghymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau am gytundeb pedair blynedd (2024–28) ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd sbon, wrth iddo agor y broses dendro heddiw, 4 Mawrth 2024. Mae £80,000 y flwyddyn ar gael i ddatblygu a sefydlu un cylchgrawn newydd. Cylch gorchwyl y cylchgrawn fydd cylchgrawn llenyddol Saesneg ei iaith gyda ffocws cryf ar ffuglen a rhyddiaith ffeithiol greadigol, yn cynnwys adolygiadau a sylwebaeth gadarn, ac sydd â model busnes cynaliadwy a hyblyg yn greiddiol...

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddwyd buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i hybu diddordeb mewn darllen... a dyna gychwyn ar y prosiect rhoi llyfrau mwyaf uchelgeisiol i ni ei reoli erioed! Nod rhaglen Caru Darllen Ysgolion oedd rhoi llyfr i’w gadw i bob plentyn yn ysgolion gwladol Cymru, yn ogystal â darparu llyfrau ychwanegol ar gyfer llyfrgell pob ysgol. Ddwy flynedd yn...

Cyfarchion y Nadolig 2023

Cyfarchion y Nadolig 2023

Cyfarchion y Nadolig 2023 Bydd y Cyngor Llyfrau a'r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Iau, 21 Rhagfyr 2023 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 2 Ionawr 2024. Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi derbynwyr grantiau Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi heddiw (7 Rhagfyr) enwau’r rhai fu’n llwyddiannus i ennill grantiau ar gyfer Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28. Mae’r grant, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn cael ei ddyfarnu fel cyllid newydd, sy’n sefyll ar ei draed ei hun bob pedair blynedd yn dilyn proses dendro gystadleuol agored. Hysbysebwyd y tendr ym mis Mai, a chynhaliwyd cyfweliadau ym mis Tachwedd 2023. Dyfernir y grantiau gan banel annibynnol yn dilyn...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Prosiect Rhyngom i gyhoeddi 50 o lyfrau i gefnogi sgiliau empathi a llythrennedd

50 o lyfrau i gael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc, i gefnogi eu sgiliau empathi a llythrennedd, ac i hyrwyddo darllen er pleser Nod Project Rhyngom Cyngor Llyfrau Cymru, project sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw hybu amrywiaeth mewn llyfrau darllen er pleser i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed. Bydd y project dwy flynedd hwn yn arwain at gyhoeddi 50 o lyfrau darllen er pleser fydd yn dathlu diwylliant, pobl a hanes Cymru gyfan, gan gefnogi iechyd a lles...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Dros hanner miliwn o lyfrau a thocynnau llyfrau am ddim yn cael eu dosbarthu i blant yng Nghymru

Wrth i’r flwyddyn ysgol ddod i ben, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru yn nodi carreg filltir allweddol i broject sy’n rhoi llyfr yn anrheg fel rhan o gynllun Caru Darllen Ysgolion, i ddarparu llyfr eu hunain i bob plentyn mewn ysgol wladol yng Nghymru. Mae bron i 300,000 o lyfrau rhad ac am ddim a 170,000 o docynnau llyfrau wedi'u rhoi i ddysgwyr wrth i’r cam o’r project sy’n darparu rhoddion unigol mewn ysgolion ddod i ben. Y llynedd rhoddwyd tua 53,000 o lyfrau i fanciau bwyd a...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Llais Pobl Ifanc yn tanio a sbarduno darllen er pleser yng Nghymru

Ddydd Gwener 7 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru. Bwriad y cynllun hwn yw sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc i fynegi barn ar ddeunydd darllen a themâu cyfredol, ynghyd â’u dyheadau am gyhoeddiadau yn y dyfodol. Yn ategol at hyn, fe fydd y panel yn ystyried ymgyrchoedd amrywiol i hyrwyddo darllen er pleser ymysg pobl ifanc. Penodwyd yr aelodau i’r panel yn dilyn galwad agored yn ystod mis Chwefror eleni am unigolion rhwng 17 ac 20 oed. Yn sgil hynny,...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Grant Cylchgronau 2023

Dau gylchgrawn newydd Cymraeg i ddod yn 2023 Bydd dau gylchgrawn newydd ar gael yn y Gymraeg eleni, ar ôl i Wasg Carreg Gwalch a Golwg ennill grantiau gan y Cyngor Llyfrau i beilota dau deitl newydd. Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn lansio cylchgrawn hanes poblogaidd, Hanes Byw, ym mis Medi a bydd Golwg yn lansio cylchgrawn digidol ar chwaraeon erbyn yr hydref. Cafodd y ddau deitl eu sefydlu trwy gyllideb gan y Cyngor Llyfrau, sy’n cefnogi cylchgronau Cymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar bynciau o...

Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros wrth i The Blue Book of Nebo ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros wrth i The Blue Book of Nebo ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn estyn llongyfarchiadau gwresog i Manon Steffan Ros wrth iddi gael ei chyhoeddi’n enillydd gwobr Yoto Carnegie am Ysgrifennu am ei nofel The Blue Book of Nebo. Am y tro cyntaf ers i’r gwobrau gael eu cyflwyno bron i 90 o flynyddoedd yn ôl, llyfr wedi’i gyfieithu sy’n ennill. Gwobrau Yoto Carnegie yw’r hynaf a’r mwyaf poblogaidd o blith gwobrau am lyfrau i blant a phobl ifanc yn y DU. Continue Reading Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros wrth i The Blue Book of Nebo ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Manon Steffan Ros yn Ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Manon Steffan Ros yn Ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

AM Y TRO CYNTAF, LLYFR WEDI’I GYFIEITHU YN ENNILL MEDAL YOTO CARNEGIE AM YSGRIFENNU;NOFEL GRAFFIG YN ENNILL Y FEDAL AM DDARLUNIO AM YR AIL FLWYDDYN YN OLYNOL LLYFRAU AROBRYN SY’N CYNNIG CYFLE I DDARLLENWYR IFANC YMGOLLI YN Y PROFIAD O DDARLLEN, A’U HANNOG I EDRYCH I’R DYFODOL yotocarnegies.co.uk | #YotoCarnegies23 | @CarnegieMedals Dydd Mercher 21 Mehefin 2023: Heddiw, mewn seremoni wedi’i ffrydio’n fyw o’r Barbican, cyhoeddwyd enillwyr gwobrau Yoto Carnegie – y gwobrau hynaf a mwyaf...

Lansio Y Gragen yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin

Lansio Y Gragen yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin

LANSIO Y GRAGEN YN EISTEDDFOD YR URDD, SIR GAERFYRDDIN Lansiwyd Y Gragen, llyfr stori-a-llun gwreiddiol gan Casia Wiliam, yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin. Darluniwyd y gyfrol gan Naomi Bennet, enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru i ddarganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant. Dyfarnwyd y wobr i Naomi Bennet nôl yn 2022. Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â’r gyfrol Y Gragen,...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2023

The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (cyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2023 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Cyhoeddwyd enw’r enillydd ar raglen Radio Wales, The Review Show, am 18:30 ddydd Gwener 2 Mehefin 2023.Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023

Llyfrau llawn hwyl a sbri, ynghyd â negeseuon cryf, yn cipio Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2023 Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og mewn seremoni arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin heddiw, dydd Iau 1 Mehefin 2023. Mae’r llyfrau buddugol – Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron a Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies – yn dathlu pa mor unigryw yw bob plentyn, a’r pwysigrwydd o dderbyn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n rhyfeddol. Ar ben hyn...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

£400,000 i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru

£400,000 i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru. Heddiw, mae Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â Chymru Greadigol, wedi cyhoeddi manylion cronfa £400,000 i gynnig y Grant Cynulleidfaoedd Newydd am yr ail flwyddyn; i gryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Bydd grantiau hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau neu fentrau newydd yng Nghymru ar gyfer: datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Arian ychwanegol i ehangu’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg

golwg360 yn derbyn £330,000 yn ychwanegol i ehangu ei wasanaeth newyddion digidol Cymraeg Mae gwefan newyddion golwg360 wedi sicrhau £330,000 o arian ychwanegol i ehangu ei darpariaeth o gynnwys newyddion digidol. Mae’r grant, a weinyddir gan Gyngor Llyfrau Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ar gael i sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau newyddion digidol ar gael yn y Gymraeg. Roedd £100,000 y flwyddyn am dair blynedd yn dal ar gael o fewn amodau’r grant, yn ogystal â £30,000 oedd yn weddill o...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer Gwobr Tir na n-Og 2023

Tir na n-Og 2023 Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru Ffantasi, bydoedd eraill, realiti amgen, mythau a chwedlau… Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 24 Mawrth. Dathlu pwysigrwydd straeon chwedlonol sy’n nodweddu’r pedwar llyfr sydd ar restr fer y wobr Saesneg eleni. Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yw’r...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2024

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2023

Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2023 Datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru pa lyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 23 Mawrth. Mae’r gwobrau yn dathlu’r straeon gorau o Gymru a’r straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2022. Mae’r rhestr fer eleni yn dathlu’r ystod helaeth o fformatau sydd wedi’u cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf i ysbrydoli darllenwyr ifanc. O’r llyfrau stori-a-llun,...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023

Gwnewch e’n Ddiwrnod y Llyfr I CHI yn 2023 Gweithio mewn partneriaeth i helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at lyfrau a darllen Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau, 2 Mawrth 2023 – diwrnod sydd wedi’i ddynodi’n arbennig i sicrhau bod pob plentyn yn gallu datblygu cariad at ddarllen. Bydd Diwrnod y Llyfr yn darparu nifer fawr o gyfleoedd i sicrhau bod teuluoedd a phlant yn cael nodi’r diwrnod mewn dulliau hwyliog a fforddiadwy sy’n golygu rhywbeth...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Amdani! Dathlu pum mlynedd o’r gyfres boblogaidd i ddysgwyr

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig eleni wrth i’r gyfres boblogaidd o lyfrau i ddysgwyr, cyfres Amdani, gyrraedd ei phumed pen-blwydd. Yn ystod 2023 bydd pob teitl yn y gyfres ar gael fel llyfr llafar am y tro cyntaf. Mae 40 o lyfrau yn y gyfres, gan amrywiol weisg, a gomisiynwyd drwy grantiau’r Cyngor Llyfrau. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel dysgu – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, a nod y gyfres yw rhoi...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Llwyddiant wrth gyhoeddi llyfr o straeon teuluol

Straeon o Gymru ac Affrica: Llwyddiant wrth gyhoeddi llyfr o straeon teuluol Eleni, bydd teuluoedd a phlant sy’n aelodau o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn gweld eu stori hwy eu hunain mewn print wrth i’r Lolfa baratoi i gyhoeddi Y Bysgodes – stori a grëwyd mewn gweithdai gyda’r awdur Casia Wiliam a’r darlunydd Jac Jones. Cydlynwyd y prosiect gan y rhaglen BLAS yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau Bangor – sefydliad a chanddo berthynas hirhoedlog gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Roedd hwn...

Manon Steffan Ros yn Ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu

Cwpan Y Byd Pêl-droed

gan Morgan Tomos Mae Alun yn cael cyfle i ymarfer gyda thîm pêl-droed Cymru.  Ond dyw e ddim yn gallu chwarae’n dda iawn felly mae’n penderfynu bod yn ddyfarnwr.  Ond sut ddyfarnwr yw Alun, tybed?gan Lleucu Fflur Lynch Mae’r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae’n benderfynol o sgorio’r gôl orau erioed.  Ond tydi o’n cael fawr o hwyl arni.  Tybed all y Ci Bach helpu’r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?add. gan Elinor Wyn Reynolds Llyfr yn llawn hwyl ond a...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Ar y trywydd iawn i stori dda

Cynllun llyfrau am ddim i deithwyr trenau Cambrian Line Bydd teithwyr ar Lein y Cambrian yn cael eu gwahodd i ddianc i mewn i stori dda y gaeaf hwn wrth i Gyngor Llyfrau Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian ymuno i gynnig llyfrau am ddim i deithwyr a helpu i’r milltiroedd hedfan heibio. Bydd y rhaglen beilot gyda Phartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian yn rhedeg trwy’r hydref a’r gaeaf. Mae’n dathlu cynllun Stori Sydyn y Cyngor Llyfrau, sef cyfres o lyfrau byrion, difyr ar gyfer darllenwyr o...

Cyfarchion y Nadolig 2022

Cyfarchion y Nadolig 2022

Bydd y Cyngor Llyfrau a'r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Iau, 22 Rhagfyr 2022 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 3 Ionawr 2023. Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.  

Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau

Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau

Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc rhwng 13 a 18 oed, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i'w helpu i reoli eu teimladau ac ymdopi ar adegau anodd. Mae’r llyfrau wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw ac maent wedi’u cynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc yn eu harddegau. The Reading Agency sydd wedi datblygu’r cynllun mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru a Lloegr, gyda Chyngor Llyfrau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest

Datganiad ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Newsquest – Corgi Cymru Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Newsquest wedi cytuno i roi terfyn ar ariannu a darparu’r gwasanaeth newyddion digidol Cymraeg, Corgi Cymru. Daeth y ddwy ochr i gytundeb ar y cyd i gynnig cau sianeli digidol Corgi Cymru ar ddiwedd mis Hydref a chaniatáu i’r gwasanaeth gael ei ddirwyn i ben dros y mis canlynol. Mae un swydd lawn-amser ac un swydd ran-amser bellach mewn perygl a bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda staff sy’n...

Straeon Campus – Cwpan y Byd 2022

Straeon Campus – Cwpan y Byd 2022

Cyngor Llyfrau Cymru yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘i fynd â Chymru i’r Byd’ Fel rhan o Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru ymhlith y 19 sefydliad sy’n cefnogi tîm Cymru wrth iddynt fynd i Qatar ym mis Tachwedd. Cyhoeddodd y Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, enwau’r prosiectau a fydd yn hybu a dathlu Cymru yn y twrnament. Bydd cyfanswm o £1.8 miliwn yn cael ei rannu ymhlith 19 prosiect, gan helpu i rannu gwerthoedd a gwaith ein cenedl i...

Archwilio’r byd

add. gan Siân Lewis Canllaw gwreiddiol i'n byd ar gyfer plant 9-12 oed, sef plethiad llawn gwybodaeth o feysydd daearyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth a gyflwynir drwy ddwsin o fapiau lliw.gan Anni Llŷn, Sioned V. Hughes Dewch i deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Beth ydy'r 'Sambadrome'? Pa fath o anifeiliaid sy'n byw yn yr Amason?add. gan Eurig Salisbury Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau,...

Archwilio eich Dychymyg

add. gan Tudur Dylan Jones Mae Gwern yn cofio gwrando ar ei daid yn adrodd straeon am fan lle mae'r môr yn cwrdd â'r awyr, lle mae morfilod a slefrod yn hedfan ac mae adar a chestyll yn arnofio. A'i daid bellach wedi mynd, er mwyn cofio amdano, mae Gwern am adeiladu cwch a dod o hyd i'r man hudol hwnnw. Ac ar y daith, efallai daw Gwern o hyd i rywbeth ...gan Manon Steffan Ros Paid â mynd i'r goedwig! dywedodd pawb. Yn fan'na mae'r Soddgarŵ yn byw! Ro'n i'n gwybod y ffordd drwy'r caeau, felly i...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Llongyfarch Helgard wrth iddi ymuno â Gorsedd y Beirdd

Llongyfarchiadau gwresog i’n Prif Weithredwr, Helgard Krause, wrth iddi ymuno â Gorsedd y Beirdd am ei chyfraniad i’r celfyddydau yng Nghymru. Yn wreiddiol o Pfalz yn ne’r Almaen ac yn amlieithog, mae gan Helgard gyfoeth o brofiad ym maes cyhoeddi yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Daeth i Gymru yn 2005 a dechrau gweithio i’r Cyngor Llyfrau fel Swyddog Gwerthu Rhyngwladol. Dysgodd Gymraeg er mwyn ymgymryd â rôl Pennaeth Gwerthu a Marchnata, ac yr oedd yn rhugl o fewn ychydig fisoedd. Bu’n...

Penodi Linda Tomos CBE yn Gadeirydd Cyngor Llyfrau

Penodi Linda Tomos CBE yn Gadeirydd Cyngor Llyfrau

PENODI LINDA TOMOS CBE YN GADEIRYDD CYNGOR LLYFRAU CYMRU Penodwyd Linda Tomos yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Llun, 25 Gorffennaf. Mae Linda yn olynu’r Athro M. Wynn Thomas, sy’n ymddeol ar ôl arwain y Cyngor am 20 mlynedd. Cadarnhaodd yr aelodau hefyd y byddai Rona Aldrich yn parhau yn ei rôl fel Is-Gadeirydd y Cyngor Llyfrau, rôl y mae wedi ei chyflawni ers 2015. Ar ôl ei phenodi, dywedodd Linda Tomos: ‘Rwyf yn edrych ymlaen...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Diwrnod o ddathlu i ddarllenwyr ifanc o bob cwr o Gymru

DIWNROD O DDATHLU I DARLLENWYR O BOB CWR O GYMRU Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 21–23 Mehefin pan ddaethant i gymryd rhan yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru a BookSlam, sef cystadlaethau darllen a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant ysgolion cynradd yng Nghymru. Gwelwyd 35 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn cystadlu am wobrau arbennig trwy drafod ystod eang o lyfrau, a chyflwyno perfformiadau’n seiliedig ar gyfrolau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022

  Cymeriadau cofiadwy yn cipio Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022 am lyfrau i blant Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og mewn dathliad arbennig yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych heddiw, dydd Iau, 2 Mehefin. Er eu bod yn wahanol iawn o ran lleoliad a thema, mae’r cymeriadau sy’n ganolog i’r nofelau buddugol – Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts ac Y Pump, wedi’i olygu gan Elgan Rhys – yn rhai cofiadwy. Wedi eu sefydlu yn 1976, mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r...

Lansio Y Gragen yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gydag Urdd Gobaith Cymru i ddarganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant. Dyfarnwyd y wobr i Naomi Bennet, 21 oed, am ei gwaith celf ‘neilltuol o gain’ a’i ‘meistrolaeth o’r grefft o gyfleu naratif drwy lun’. Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer gan un o awduron plant amlycaf...

Prosiect Caru Darllen Ysgolion yn rhoi hwb i ddarllenwyr ifanc

Rhaglen Caru Darllen Ysgolion yn cael ei lansio

Sbarduno cariad at ddarllen: llyfr i bob disgybl ei gadw wrth i’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion gael ei lansio   Bydd pob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion gwladol yng Nghymru yn derbyn eu llyfr eu hunain i’w gadw, wrth i Gyngor Llyfrau Cymru a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, lansio’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion heddiw, ddydd Iau, 26 Mai. Roedd disgyblion Ysgol Hamadryad, Tre-biwt, Caerdydd, ymhlith y cyntaf i dderbyn eu llyfrau newydd. Daeth tua 70 o ddisgyblion ynghyd i...

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022

Nofel dwymgalon am adeg y rhyfel yn ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022 am lyfr i blant The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (a gyhoeddwyd gan Bloomsbury) yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Cyhoeddwyd y teitl buddugol ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener 20 Mai, gyda’r awdur yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru Wales, yn ogystal â thlws a gomisiynwyd yn arbennig ac a grëwyd gan The Patternistas, dylunwyr o...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi enwau derbynwyr Grant Cynulleidfaoedd Newydd

Cyfleoedd cyhoeddi newydd ledled Cymru wrth i Gyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi enwau derbynwyr Grant Cynulleidfaoedd Newydd Heddiw, mae Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi enwau’r rhai fydd yn derbyn £186,000 o arian grant i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru. Bydd y Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn ariannu 13 o brosiectau yn y lle cyntaf, gyda phrosiectau’n amrywio o sefydlu cwmnïau cyhoeddi newydd sy’n eiddo i...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cefnogi banciau bwyd a grwpiau cymunedol drwy roi llyfr yn anrheg

Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd a grwpiau cymunedol lleol drwy roi llyfr yn anrheg i blant a phobl ifanc ledled Cymru   Mae grwpiau cymunedol a banciau bwyd ledled Cymru wedi ychwanegu llyfrau plant at y rhestr o adnoddau a chymorth y gallant eu darparu i deuluoedd o’r gwanwyn hwn ymlaen. Fel rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgyrch rhoi llyfr yn anrheg, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflenwi dros 40,000 o lyfrau i’r banciau bwyd, sefydliadau cymunedol a grwpiau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Ariannu dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg o Ebrill 2022

Cyngor Llyfrau Cymru i ariannu dau wasanaeth newyddion digidol Cymraeg o Ebrill 2022 Bydd gan Gymru fwy o sianeli newyddion digidol pwrpasol yn y Gymraeg o Ebrill 2022 ymlaen wrth i Gyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi pwy fydd yn derbyn cyllid y gwasanaeth newyddion digidol am y 4 blynedd nesaf. Bydd Golwg 360 a Corgi Cymru yn derbyn cyllid blynyddol o £100,000 yr un dan y cytundeb newydd, a fydd yn parhau o Ebrill 2022 tan Fawrth 2026. Dyfarnwyd y grantiau yn dilyn proses dendro agored, sy’n...

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Tir na n-Og 2022

Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru Tir na n-Og 2022 Drama afaelgar mewn cyfnod o ryfel… chwedlau hynafol wedi’u hadrodd o’r newydd… stori’n myfyrio ar rym iachaol natur a chymeriadau lliwgar o fyd hanes Cymru. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 11 Mawrth. Mae’r gwobrau eleni yn gymysgedd eclectig o’r gorau o straeon o Gymru a...

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2022

Cyhoeddi’r Rhestr Fer Gymraeg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru – Gwobrau Tir na n-Og 2022 Dirgelion, anturiaethau a direidi cyffrous... golwg ffres ar hanesion a chymeriadau Cymru... a straeon pwerus a grymusol am dyfu i fyny yng Nghymru heddiw. Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn datgelu’r llyfrau Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 10 Mawrth. Mae’r gwobrau eleni yn gymysgedd eclectig o’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a...

Dathlu 25 mlynedd o Diwrnod y Llyfr

Dathlu 25 mlynedd o Diwrnod y Llyfr

Dathlu 25 mlynedd o Ddiwrnod y Llyfr Bydd y rhaglen lawn eleni yn helpu mwy o blant nag erioed i ddarganfod cariad at ddarllen. Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ddydd Iau, 3 Mawrth 2022, ac mae’n gwahodd pawb i barti i ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol darllen plant. Darllen er pleser yw’r dangosydd mwyaf o lwyddiant plentyn yn y dyfodol – yn fwy felly nag amgylchiadau ei deulu, cefndir addysgol ei rieni neu eu hincwm.[1] Fodd bynnag, mae’n mynd yn llai...

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Gofynnir yn garedig i chi nodi y bydd staff Canolfan Ddosbarthu'r Cyngor yn cynnal eu cyfrif stoc blynyddol o Ddydd Llun y 24ain tan dydd Mercher y 26ain o Ionawr, ac yn ystod yr amser yma ni fydd archebion yn cael eu prosesu.

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Cyfarchion y Nadolig

Bydd y Cyngor Llyfrau ar gau o nos Iau, 23 Rhagfyr 2021 ac yn dychwelyd wedi'r gwyliau ar ddydd Mawrth, 4 Ionawr 2022.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Stori i Bawb: Creu Cwrs Straeon Amrywiol i Blant a Phobl Ifanc – Tŷ Newydd

Gwahodd ceisiadau ar gyfer Stori i Bawb: Cwrs Creu Straeon Amrywiol i Blant a Phobl Ifanc yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Mae Cyngor Llyfrau Cymru ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd ceisiadau gan awduron sydd â phrofiadau bywyd sy’n cael eu tangynrychioli, yn benodol o fewn y byd llenyddiaeth a chyhoeddi yn y Gymraeg, i ymgeisio am le ar gwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Hwylusydd: Elgan Rhys Siaradwyr gwadd/tiwtoriaidar gyfer gweithdai unigol: Cyd-awduron Y Pump, Nia...

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

£5m ar gyfer Rhaglenni Darllen a Rhoi Llyfr yn Anrheg i Blant a Phobl Ifanc

Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi buddsoddiad o £5m ar gyfer rhaglenni darllen a rhoi llyfr yn anrheg i blant a phobl ifanc ledled Cymru   Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol sylweddol er mwyn cefnogi’r ymgyrch rhoi llyfr yn anrheg #CaruDarllenYsgolion o wanwyn 2022 ymlaen. Fel rhan o’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer ymgysylltu â darllen, bydd detholiad o 50 o lyfrau’n cael ei anfon i bob ysgol wladol yng Nghymru, yn...

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw

Ein Stori –lleisiau cyhoeddi heddiw  I nodi’n pen-blwydd yn 60, comisiynwyd dwy ffilm fer, Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw ac Our Story – publishing voices today. Mae Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw yn ffilm fer sy’n dathlu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Trwy leisiau Manon Steffan Ros, Jon Gower, Myrddin ap Dafydd ac eraill, mae’n archwilio cyfraniad y Cyngor Llyfrau dros y 60 mlynedd diwethaf, ac yn edrych ymlaen tuag at heriau a chyfleoedd y dyfodol. https://vimeo.com/642264367...

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr – Lawnsio strategaeth bum mlynedd

Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr – Lawnsio strategaeth bum mlynedd Cyngor Llyfrau Cymru Am 60 mlynedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymroi i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hybu darllen er pleser. A ninnau’n nodi’n pen-blwydd, rydym yn falch iawn o rannu’n strategaeth newydd sy’n datgan ein huchelgeisiau a’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y byddwn yn parhau â’n cenhadaeth o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yng nghyd-destun yr...

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Cyhoeddi O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 oed

Cyhoeddi O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 Cyhoeddir O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 heddiw i nodi pen-blwydd y sefydliad. Mae’r gyfrol hardd hon yn adrodd stori’r Cyngor Llyfrau dros 60 mlynedd, o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw. Golygwyd y gyfrol gan Gwen Davies, gyda thorluniau leino gwreiddiol gan yr artist Molly Brown. Fe’i cyflwynir er cof am Alun Creunant, Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru. Ceir yma gyfraniadau gan amrywiaeth o leisiau o fewn y...

Cyfri Stoc Blynyddol 2022

Cyngor Llyfrau Cymru yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a dathlu darllen gydag wythnos o weithgareddau o 1–5 Tachwedd 2021. O edrych yn ôl at ei wreiddiau fel elusen a sefydlwyd i hybu cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn 1961, i gyhoeddi’i weledigaeth am y dyfodol gyda lansiad y Cynllun Strategol pum mlynedd newydd, Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr, bydd y Cyngor yn archwilio holl agweddau’r sector yng Nghymru yn ystod wythnos gyfan o ddathlu. Bydd byd creadigol, bywiog, cyffrous...

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT

ANRHYDEDDU CYFRANIAD OES I LYFRAU PLANT – GWOBR MARY VAUGHAN JONES 2021 Cyfraniad Menna Lloyd Williams gaiff ei anrhydeddu wrth gyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones eleni. Fe gyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983, i berson a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru. Yn enedigol o Lanfaethlu, fe addysgwyd Menna Lloyd Williams yn Ysgol Ffrwd Win ac yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bu’n fyfyrwraig ym...

ARAITH ALLWEDDOL YR ATHRO CHARLOTTE WILLIAMS OBE

ARAITH ALLWEDDOL YR ATHRO CHARLOTTE WILLIAMS OBE

https://youtu.be/FFnOoUaqD8s Dyma sgwrs wadd gan yr Athro Charlotte Williams OBE ar y thema Harnessing ‘book power’ for race Equality in Wales a draddodwyd yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru, Gorffennaf 2021.

CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN PENODI TRYSORYDD NEWYDD, ALFRED OYEKOYA

CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN PENODI TRYSORYDD NEWYDD, ALFRED OYEKOYA

Heddiw mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi penodi eu Trysorydd newydd, Alfred O. Oyekoya, i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Bydd y rôl bwysig hon ar y Bwrdd yn allweddol wrth arwain y Cyngor wrth iddo gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru trwy adferiad Covid, gan fwrw’i olygon tuag at ei strategaeth newydd ar gyfer 2022 a thu hwnt. Graddiodd Alfred Oyekoya gydag MSc Cyllid o Brifysgol Abertawe ac mae’n Gyfrifydd Siartredig, gyda phrofiad o arweinyddiaeth a datblygu busnes dros nifer o...

Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol

Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol

Gorau’r Goreuon: Cyflwyno tair stori o’r gorffennol i gynulleidfaoedd ifanc 2021 Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio tri theitl cyntaf Gorau’r Goreuon, detholiad o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad Gorau’r Goreuon yw cyflwyno detholiad o lyfrau a ystyrir yn glasuron ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Y teitlau fydd yn ymddangos yn y flwyddyn gyntaf yw Dirgelwch y Dieithryn (Elgan Philip Davies), O’r Tywyllwch (Mair Wynn Hughes) a Luned Bengoch...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cofio Roger Boore 1938–2021

Ar 30 Gorffennaf, fe gollodd Cymru un o’i gymwynaswyr mawr i fyd llyfrau plant pan fu farw Roger Boore yn 82 oed. Ganed Roger Boore yng Nghaerdydd yn 1938. Roedd ganddo radd yn y Clasuron o Rydychen, PhD mewn Hanes o Brifysgol Cymru Abertawe ac roedd yn Gyfrifydd Siartredig. Dychwelodd i Gymru gan ddysgu’r Gymraeg yn ei arddegau, a magu teulu yng Nghaerdydd. Sefydlodd Wasg y Dref Wen gyda’i wraig Anne yn 1969 yn bennaf ar gyfer cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant. Sylweddolodd gyn lleied o lyfrau...

Caru Darllen Ceredigion: Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn

Caru Darllen Ceredigion: Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn

Pecynnau lles ar gyfer gofalwyr ifanc yng Ngheredigion yr haf hwn Mae 80 pecyn o lyfrau yn cael eu hanfon at ofalwyr ifanc ledled Ceredigion i gefnogi eu lles ac annog eu taith ym myd darllen yr haf hwn. Mae gofalwyr ifanc yn wynebu’r anhawster o gydbwyso’u cyfrifoldebau gofalu â rhai bywyd bob dydd, gan gynnwys eu haddysg eu hunain. Bydd y pecynnau lles hyn yn hwb iddynt ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith rhagorol y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae’r pecynnau hyn wedi eu darparu mewn...

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llyfrau

CYFARFOD BLYNYDDOL Gwahoddir chi i Gyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau CymruDdydd Llun, 26 Gorffennaf am 12.00 o’r gloch ar ZoomSgwrs wadd gan yr Athro Charlotte Williams OBE ar y thema Harnessing ‘book power’ for race equality in WalesAnfonwch ebost at castellbrychan@llyfrau.cymru i gael y ddolen ar gyfer y cyfarfod.  Gwybodaeth bellach: Mae Charlotte Williams OBE, academydd ac awdur, yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac mae...

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2021

Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2021

Cynhaliwyd cystadlaethau Darllen Dros Gymru eleni mewn ffordd dra wahanol i’r arfer. Yr un oedd y tasgau i’r darllenwyr; trafod llyfr oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad i ddenu eraill at ddarllen y llyfr. Llinos Penfold oedd yn beirniadu’r trafod a Mari Lovgreen yn beirniadu’r perfformiadau. Ond dan amgylchiadau gwahanol y cyfnod sydd ohoni, bu’n rhaid cynnal y gystadleuaeth ar-lein. Disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 oedd y cyntaf i gystadlu. Ysgol y Felinheli ddaeth i’r brig trwy...

Arwyr y Byd Gwyllt Sialens Ddarllen yr Haf 2021

Arwyr y Byd Gwyllt Sialens Ddarllen yr Haf 2021

Ewch yn ferw gwyllt dros ddarllen gydag Arwyr y Byd Gwyllt yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021 – ar-lein neu yn eich llyfrgell leol Bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr ar 10 Gorffennaf 2021 (fe’i lansiwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 19 Mehefin) Y thema yw ‘Arwyr y Byd Gwyllt’, mewn partneriaeth â WWF, gan annog plant ledled y wlad i gymryd rhan mewn gweithgaredd darllen hwyliog sy’n canolbwyntio ar faterion amgylcheddol Mae platfform...

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth darlunio llyfr stori-a-llun i blant

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi enillydd cystadleuaeth arbennig a drefnwyd gydag Urdd Gobaith Cymru i ganfod talent newydd ym maes darlunio llyfrau plant. Dyfarnwyd y wobr i Lily Mŷrennyn, 24 oed o’r Rhondda, am ei gwaith celf ‘neilltuol o gain’ a’i ‘meistrolaeth ar y grefft o gyfleu naratif drwy lun’. Y dasg i ymgeiswyr rhwng 18 a 25 oed oedd creu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â stori fer i blant gan un o brif awduron Cymru, Manon Steffan...

Nofel hanesyddol i bobl ifanc am iaith a hunaniaeth Gymreig yn cipio Gwobr Tir na n-Og 2021

Nofel hanesyddol i bobl ifanc am iaith a hunaniaeth Gymreig yn cipio Gwobr Tir na n-Og 2021

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – sydd wedi dod i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc. Ysgrifennwyd The Short Knife fel rhan o ddoethuriaeth yr awdur mewn Ysgrifennu Creadigol lle bu’n edrych ar y cyfleoedd creadigol y mae ysgrifennu dwyieithog yn eu cynnig. Dyma’r tro cyntaf i Elen ennill Gwobr Tir na n-Og. Datgelwyd enw’r llyfr...

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2021

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2021

Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch mewn sefyllfaoedd heriol ond gwahanol iawn sydd wedi cipio’r prif wobrau ar gyfer llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021. Casia Wiliam sy’n fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa), gyda #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) yn dod i’r brig yn y categori uwchradd. Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill Gwobr Tir na n-Og. Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr ar raglen Heno ar S4C am 19:00 nos Iau, 20 Mai, ac...

Cyhoeddi fideo arbennig i nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl 2021

Cyhoeddi fideo arbennig i nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl 2021

I nodi wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2021 rydym yn falch iawn o gyhoeddi fideo arbennig sy’n cyflwyno cynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant. https://youtu.be/JT0FyUdb4jI   Mae Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn darparu darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth, straeon a chyngor gyda sicrwydd ansawdd. Mae llyfrau wedi cael eu dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol a’u cynhyrchu ar y cyd gyda...

Penodi Ymddiriedolwyr newydd i’r Cyngor Llyfrau

Penodi Ymddiriedolwyr newydd i’r Cyngor Llyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi penodi saith Ymddiriedolwr newydd i arwain gwaith yr elusen yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi a hyrwyddo darllen. Bydd Rajvi Glasbrook Griffiths, Alwena Hughes Moakes, Lowri Ifor, yr Athro Carwyn Jones, Linda Tomos, yr Athro Gerwyn Wiliams a Dr Caroline Owen Wintersgill yn cymryd eu lle ar Fwrdd Ymddiriedolwyr newydd y Cyngor ar 1 Ebrill 2021. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethiant y Cyngor Llyfrau ac am oruchwylio cyfeiriad a strategaeth yr elusen genedlaethol....

Cyhoeddi rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021

Cyhoeddi rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021

Tair stori wahanol am fywyd yng Nghymru ar wahanol adegau yn ei hanes sy’n cael sylw yn y llyfrau Saesneg ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021, a gyhoeddwyd heddiw (12 Mawrth 2021) ar raglen y Radio Wales Arts Show. Mae’r cyfnodau hanesyddol yn ymestyn o’r Canol Oesoedd cynnar pan oedd hunaniaeth Cymru yn cryfhau yn The Short Knife gan Elen Caldecott, i deulu a ymfudodd o Gymru i’r Unol Daleithiau ar droad yr ugeinfed ganrif yn The Quilt gan Valériane Leblond, a stori gyfoes wedi’i gosod mewn...

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2021

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gyhoeddi teitlau’r chwe llyfr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 sy’n anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn y categori cynradd mae Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa), Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) a Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa). Y llyfrau ddaeth i’r brig yn y categori uwchradd oedd Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), Llechi gan...

Cystadleuaeth #rhannwchStori #diwrnodyllyfr 2021

Mae rhannu straeon yn ffordd wych o ddathlu darllen gyda'n gilydd ar Ddiwrnod y Llyfr 2021. Felly rydyn ni'n gwahodd pawb i ymuno yn ein cystadleuaeth rhannu stori. Postiwch lun ohonoch chi yn rhannu stori gyda’r teulu, gyda’r gath neu yn darllen yn eich hoff leoliad! Cofiwch dagio @llyfrauCymru a chynnwys  #rhannwchstori #diwrnodyllyfr #carudarllen Mae croeso i chi e-bostio'r llun atom  – cllc.plant@llyfrau.cymru Gallai rhannu stori fod yn darllen gartref gyda'ch teulu, darllen yn...

Dathlu llyfrau ar y llwyfan digidol

Dathlu llyfrau ar y llwyfan digidol

Bydd llyfrau o Gymru yn cael eu dathlu ar y llwyfan digidol ar Ddiwrnod y Llyfr eleni, dydd Iau 4 Mawrth 2021. Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a phlatfform diwylliant aml-gyfrwng AM, bydd dathliad o ddarllen yn digwydd dros gyfnod o 12 awr ar amam.cymru o 9 y bore ymlaen ar Ddiwrnod y Llyfr. Ymhlith arlwy’r dydd bydd darlleniadau gan awduron, adolygiadau o lyfrau, argymhellion darllen a mwy gyda chyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a mudiadau eraill ar draws Cymru yn ychwanegu deunydd...

Rhannu stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Rhannu stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth. Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda'r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a mwy! Gydag wythnos i fynd cyn y diwrnod mawr, mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn gofyn i bobl roi llun ar y cyfryngau cymdeithasol ohonyn nhw’n darllen yn ystod mis Mawrth, gan ddefnyddio’r...

Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant

Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant

Mae caniatâd hawlfraint ar ailddefnyddio deunydd wedi’i gyhoeddi wedi’i gynyddu dros dro ar gyfer ysgolion a cholegau, yn dilyn ymdrechion gan Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA, Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiant cyhoeddi. Wedi trafodaethau gyda’u haelodau, cyhoeddodd y CLA ar 9 Chwefror 2021 bod uchafswm y deunydd y gellid ei gopïo o dan eu Trwydded Addysg yn cynyddu dros dro - o'r 5% presennol i 20% tan 31 Mawrth 2021. Ac mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu caniatâd arbennig gyda rhai o...

Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant

Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd o'r enw Iechyd Da i sicrhau fod pob ysgol gynradd yn derbyn pecyn arbennig o lyfrau sy’n cefnogi iechyd a lles plant. Gan gydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles. Mae pob un o’r llyfrau wedi’u dewis gan banel arbenigol ac yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod ar gyfer oedrannau rhwng 4 –...

Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau

Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio platfform digidol newydd sbon ar gyfer e-lyfrau o Gymru. ffolio.cymru fydd y platfform dwyieithog cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar werthu e-lyfrau o Gymru i’r byd ehangach. Mae’r wefan ddielw yn cychwyn gyda dewis o dros 800 o deitlau ffuglen a ffeithiol ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal â llyfrau addysgol i blant yn Gymraeg a Saesneg. Mae dros 500 o’r llyfrau Cymraeg ar y wefan ar gael fel e-lyfrau am y tro cyntaf erioed, a bydd y ffigwr hwn yn...

DIWEDDARIAD – Sefyllfa’r siopau llyfrau – Ionawr 2021

DIWEDDARIAD – Sefyllfa’r siopau llyfrau – Ionawr 2021

Mae llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru hefyd yn parhau i gymryd archebion ar-lein, dros y ffôn neu clicio-a-chasglu lle bo hynny'n bosibl. Mae llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru hefyd yn parhau i gymryd archebion ar-lein, dros y ffôn neu clicio-a-chasglu. Os ydych chi am ddianc i fyd arall drwy gloriau llyfr da, mae gan y llyfrwerthwyr wledd o ddewis darllen ar eich cyfer. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth personol unigryw a chyngor gwych ar beth i’w brynu. Mae manylion cyswllt ar gyfer siopau...

Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu

Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu

Bydd ein swyddfeydd a'r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021. Bydd ein swyddfeydd a'r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021. Carem ddymuno Nadolig dedwydd i chi a diolch am eich cenfogaeth o dan amgylchiadau tu hwnt o heriol yn 2020. Ymlaen â ni tuag at 2021!

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Her Sgwennu Stori Aled Hughes

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gefnogi cystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru. Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr 2021, mae rhaglen foreol Aled Hughes yn galw ar blant rhwng 5-11 oed i ysgrifennu stori Cymraeg hyd at 500 gair ar thema "Y Llwybr Hud". Mae tri chategori ar gyfer oedrannau gwahanol, sef: • Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed • Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed • Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed Bydd Aled yn...

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw. I ddathlu cyhoeddi’r teitl,...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cofio Jan Morris 1926–2020

Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed. Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed. Yn newyddiadurwr, yn nofelydd, yn awdur llyfrau teithio ac yn hanesydd, fe ysgrifennodd dros 40 o lyfrau yn ystod ei hoes, yn cynnwys trioleg ar hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica (Faber, 1968, 1973, 1978); The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country (Oxford University Press, 1984) a...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Troi dalen newydd i gefnogi iechyd meddwl plant

Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles drwy ddarllen. Mae'r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a'i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a'u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus. Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ar ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae'r Asiantaeth Ddarllen a'r llyfrgelloedd cyhoeddus...

Cyhoeddi cyfrolau newydd yn sgil cynnal cyrsiau ysgrifennu a darlunio

Cyhoeddi cyfrolau newydd yn sgil cynnal cyrsiau ysgrifennu a darlunio

Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae nifer o lyfrau gwahanol wedi’u cyhoeddi neu ar fin eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd. Cynhaliwyd...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

DIWEDDARIAD – Siopau Llyfrau Lleol sydd ar agor a/neu yn Gwerthu Ar-lein

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn lleol neu drwy’r post. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Teyrnged i Emyr Humphreys 1919–2020

Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma deyrnged Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas, i’r gŵr a oedd yn gyfaill agos iddo ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma...

Syniad Seran Dolma am nofel i oedolion ifanc yn cipio gwobr y Cyfeillion

Syniad Seran Dolma am nofel i oedolion ifanc yn cipio gwobr y Cyfeillion

Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru. Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru. Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, 29 Medi 2020. Bydd Seran, sy’n fam i ddau o blant 8 a 3 oed, yn derbyn gwobr o £1,000 gan y...

Haf o Ddarllen i Blant a Phobl Ifanc Ceredigion

Haf o Ddarllen i Blant a Phobl Ifanc Ceredigion

Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon. Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon. Mewn partneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor Llyfrau Cymru, mae detholiad o chwe llyfr yn cael eu hanfon at 100 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaethau cymorth drwy’r awdurdod lleol. Mae’r...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2020 heddiw

Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Nod y Sialens flynyddol yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf. Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd,...

Gwobrau Tir na n-Og 2020 i Byw yn fy Nghroen a Pobol Drws Nesaf

Gwobrau Tir na n-Og 2020 i Byw yn fy Nghroen a Pobol Drws Nesaf

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg. Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg. Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones a ddaeth i’r brig yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun...

Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020

Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020

Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig. Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig. Roedd Storm Hound (Macmillan Children's Books) ymhlith pedwar o lyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar restr fer y gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau...

Actorion Arad Goch yn dod â llyfrau Tir na n-Og yn fyw

Actorion Arad Goch yn dod â llyfrau Tir na n-Og yn fyw

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020. Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020. Yn sgil gohirio pob cynhyrchiad theatrig yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws, mae actorion Arad Goch yn Aberystwyth wedi bod yn perfformio ac...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Datganiad Cyngor Llyfrau Cymru – 19 Mehefin 2020

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn croesawu’n gynnes gyhoeddiad y Prif Weinidog bod siopau llyfrau ymhlith y busnesau a fydd yn cael ailagor o ddydd Llun 22 Mehefin 2020. Diogelwch staff a chwsmeriaid sy’n dod yn gyntaf ar bob cyfrif, wrth gwrs, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda llyfrwerthwyr wrth iddynt baratoi i ailagor yn ddiogel yn unol â chanllawiau Covid-19. Nid pob siop efallai fydd yn dewis agor ei drysau’n syth ac fe fydd nifer ohonynt yn addasu eu horiau a’u ffyrdd o weithio. Er bod y...

Pedwar o E-lyfrau Byr a Bachog ar gael am ddim

Pedwar o E-lyfrau Byr a Bachog ar gael am ddim

Bydd casgliad o lyfrau byr a bachog gan awduron o Gymru ar gael i’w lawrlwytho am ddim yr haf hwn. O stori garu i gariad at gŵn anhygoel, ac o heriau rhedeg eithafol i fyd coll, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu bod y pedwar teitl diweddaraf yn y gyfres boblogaidd Stori Sydyn ar gael fel e-lyfrau mewn cydweithrediad â chyhoeddwyr y gyfres, y Lolfa a Rily. Ac am gyfnod o un mis yn unig rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf 2020, bydd modd eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar blatfform digidol...

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og ym mis Gorffennaf

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og ym mis Gorffennaf

Bydd enillwyr gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc Tir na n-Og yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020. Bydd dewis y beirniaid ar gyfer y llyfr gorau yn Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys yn cael ei ddatgelu ar y BBC Radio Wales Arts Show am 6.30yh nos Wener 3 Gorffennaf 2020. Caiff y cyfrolau buddugol yn y categorïau Cymraeg ar gyfer oedrannau cynradd ac uwchradd eu cyhoeddi ar raglen gylchgrawn Heno ar S4C am 7yh nos Wener 10 Gorffennaf 2020. Dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru, mae’r...

Mwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg

Mwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg

Mae hunangofiant yr awdur arobryn Matt Haig am ei brofiad o iselder wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg fel rhan o gynllun arloesol Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Mae Reasons to Stay Alive gan Matt Haig, sydd i’w weld yn gyson ar restrau’r gwerthwyr gorau, ymhlith y cyfrolau hunangymorth diweddaraf i’w cyhoeddi yn y Gymraeg i helpu pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd...

Gwylio Mawr ar Wersi Celf Ar-lein i Blant

Gwylio Mawr ar Wersi Celf Ar-lein i Blant

Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws. Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws. Partneriaeth yw’r Criw Celf rhwng dau o gylchgronau plant Cymru sef Cip a Mellten, y darlunydd Huw Aaron, Urdd Gobaith...

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Llyfrau Cymru yn dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes Llenyddiaeth Plant

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Llyfrau Cymru yn dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes Llenyddiaeth Plant

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (Ebrill 2ail), mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi eu bod wedi dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes rhyngwladoli llenyddiaeth plant i Megan Farr o Benarth. Dros gyfnod o dair blynedd, bydd Megan Farr yn datblygu strategaeth ar gyfer rhyngwladoli straeon i blant ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru. Bydd yn ymchwilio’r strategaethau priodol sydd angen i’r sector gyhoeddi yng Nghymru eu...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Siopau Llyfrau Lleol sy’n Gwerthu Ar-lein

Wrth i ni hunan-ynysu ac ymbellhau’n gymdeithasol, bydd nifer ohonon ni’n estyn am lyfr da. Ac er bod siopau llyfrau annibynnol ar hyd a lled Cymru wedi cau eu drysau dros dro yn unol â’r canllawiau swyddogol, y newyddion da yw bod nifer yn dal i gynnig gwasanaeth postio llyfrau arlein. Rydyn ni’n wedi tynnu’r manylion ynghyd ar y dudalen yma ac fe fyddwn yn diweddaru’r rhestr wrth i ni dderbyn gwybodaeth newydd. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym, mae’n bosib na fydd y manylion...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyllid Brys i’r Sector Llyfrau yng Nghymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi croesawu cyllid brys o £150,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu’r sector llyfrau yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol. Caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Cyngor Llyfrau, yr elusen genedlaethol sy'n gyfrifol am gefnogi'r diwydiant llyfrau a hyrwyddo darllen yng Nghymru. Mae’r arian ychwanegol ar gyfer y sector llyfrau yn rhan o becyn cynhwysfawr o gymorth gwerth £18m ar gyfer y sector diwylliant, celfyddydau a chwaraeon yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth...

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020

Mae llyfrau sy’n mynd i’r afael â rhai o’r pynciau mawr sy’n poeni plant a phobl ifanc ymhlith y cyfrolau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 sy’n cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 27 Mawrth 2020). Mae’r rhestr fer o lyfrau Cymraeg yn y categori uwchradd yn ymdrin ag iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a mewnfudo tra bod y categori cynradd yn cynnwys llyfrau stori am oddefgarwch, materoliaeth mewn cymdeithas a hanes menywod ysbrydoledig o Gymru. Straeon wedi’u lleoli ar hyd arfordir a...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Coronafeirws: Diweddariad y Cyngor Llyfrau 24 Mawrth 2020

Yn dilyn cyflwyno mesurau llymach i geisio arafu lledaeniad coronafeirws, mae swyddfeydd y Cyngor Llyfrau yng Nghastell Brychan a’n Canolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth bellach ynghau am o leiaf dair wythnos. Mae nifer o’n staff yn dal i weithio, gan gyflawni eu dyletswyddau o gartref wrth i ni barhau i wneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi mewn amgylchiadau eithriadol a sicrhau ein bod yn dod trwy’r cyfnod hwn. Golyga hyn y bydd y gwasanaethau canlynol ar gael o hyd i’r...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Coronafirws: Diweddariad gan Gyngor Llyfrau Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn monitro datblygiadau yn ofalus ac yn cyflwyno cyfres o fesurau arbennig mewn ymateb i’r sefyllfa a’r canllawiau diweddaraf. Y nod yw cymryd camau priodol i sicrhau ein bod yn gallu parhau gyda’n gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi wrth wneud pob dim sy’n ymarferol bosib i helpu lleihau lledaeniad posib y firws, a thrwy hynny gwarchod ein staff a’n rhanddeiliaid. • Mae ein Canolfan Ddosbarthu llyfrau ac adnoddau yn Glanyrafon, Aberystwyth, yn dal i weithredu...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cymorth ychwanegol ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru i fuddsoddi mewn systemau technoleg a fydd yn helpu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru i dyfu. Mae £750,000 ychwanegol wedi cael ei sicrhau gan gyllideb 2020–21, a bydd yn caniatáu i Gyngor Llyfrau Cymru gyflwyno system TG integredig newydd i reoli'r gwaith o werthu, cyflenwi a dosbarthu llyfrau, a fydd hefyd yn cefnogi gwaith cyhoeddwyr Cymru. Mae £145,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gyngor Llyfrau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Darllenwyr Brwd Cymru yn Paratoi i Ddathlu Diwrnod y Llyfr 2020

Bydd darllenwyr brwd Cymru yn ymuno â’i gilydd i ddathlu Diwrnod y Llyfr, sy’n cael ei gynnal eleni ar 5 Mawrth 2020. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, siopau llyfrau, colegau, llyfrgelloedd, busnesau a theuluoedd i ymuno â’r dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â rhannu’r mwynhad o ddarllen. I nodi Diwrnod y Llyfr 2020, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd dau lyfr...

Llwyfan i Iechyd Meddwl ar Ddiwrnod y Llyfr

Llwyfan i Iechyd Meddwl ar Ddiwrnod y Llyfr

Ydy llyfrau yn gallu helpu i leddfu problemau iechyd meddwl? Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw eleni yn nigwyddiad blynyddol Diwrnod y Llyfr sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles. Mae ystod eang o lyfrau i’w cael fel rhan o gynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn, sy’n cyhoeddi cyfresi o...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Hyfforddiant Rhyngwladol i Gyhoeddwyr Cymru

Daeth cynrychiolwyr o 12 o weisg o bob cwr o Gymru ynghyd yng Nghastell Brychan, Aberystwyth, ym mis Chwefror 2020 ar gyfer sesiwn hyfforddi arbennig ar safonau metadata rhyngwladol ar gyfer y sector llyfrau. Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o’u rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer y sector cyhoeddi. Cafodd yr hyfforddiant ei ddarparu gan sefydliad EDItEUR sy’n arbenigo ar fetadata, dynodwyr a safonau e-fasnach llyfrau – yn enwedig ONIX, sef y safon ryngwladol...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch o gael cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc ym mis Chwefror 2020. Bydd y cwrs dwys yn darparu arweiniad gan arbenigwyr ar y grefft o ysgrifennu ar gyfer Oedolion Ifanc gyda’r gobaith o lenwi silffoedd siopau llyfrau’r dyfodol â chyhoeddiadau Cymraeg at ddant oedolion ifanc. Caiff y cwrs wythnos o hyd ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd a’i arwain gan ddwy awdur profiadol...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyfri Stoc Blynyddol

Gofynnir yn garedig i chi nodi y bydd staff Canolfan Ddosbarthu'r Cyngor yn cynnal eu cyfrif stoc blynyddol o Ddydd Llun y 27ain tan dydd Mercher y 29ain o Ionawr, ac yn ystod yr amser yma ni fydd archebion yn cael eu prosesu.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Darllen a Bwrw Bol!

Gwahoddiad arbennig i fod yn rhan o Wobr Tir na n-Og – Dewis y Darllenydd. Annwyl Ddarllenwyr, Yma yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru, rydym wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og, ac yn falch iawn o gynnig cyfle i chi fod yn rhan bwysig o’r broses. Bu ein panel o feirniaid swyddogol wrthi’n brysur dros gyfnod y Nadolig yn darllen yr holl lyfrau a gyflwynwyd i’w hystyried ar gyfer y rhestr fer. Cyhoeddir y rhestr honno ar 27 Mawrth, ar...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am syniadau am nofelau i oedolion ifanc

Mae Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am syniadau am nofelau i oedolion ifanc mewn cystadleuaeth arbennig sy’n cynnig gwobr hael. Gofynnir i awduron anfon penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, yn ogystal â synopsis o weddill y nofel, drwy ebost erbyn 20 Chwefror 2020. Beirniedir y gystadleuaeth gan yr awdur Meinir Pierce Jones, y cyfansoddwr a’r cyn-lyfrgellydd Robat Arwyn Jones, a Gwawr Maelor, darlithydd mewn Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymgynghoriad â chriw o...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Golygathon Wici-Llên yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru

Cynhelir Golygathon Wici-Llên, yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, dydd Gwener, 10 Ionawr 2020, rhwng 12:00 – 16:00. Nod y prosiect Wici-Llên yw creu a chyfoethogi gwybodaeth am lenyddiaeth Cymru ar lwyfannau Wicipedia a Wicidata. Cydlynir y prosiect gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Môn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn bresennol gan gynghori ar ffyrdd o baratoi a golygu...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyngor Llyfrau yn Chwilio am y ‘Gryffalo’ Newydd

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020. Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros. Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor, "Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Llyfr y Flwyddyn 2020

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Categori Newydd Plant a Phobl Ifanc a Lleoliad y Seremoni Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi categori newydd i Wobr Llyfr y Flwyddyn, sef categori  Plant a Phobl Ifanc.  Bydd y categori ychwanegol hwn yn ehangu cyrhaeddiad ac effaith y wobr drwy gynyddu cyfleoedd a chodi proffil awduron talentog Cymru. Mae’r datblygiad yma’n cefnogi gweledigaeth  Cynllun Strategol 2019-22  Llenyddiaeth Cymru, i ysbrydoli ac annog cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Gŵyl Lyfrau Aberaeron 1-3 Tachwedd

Digwyddiad am ddim; Ffair Lyfrau; Darlleniadau; Arwyddo Llyfrau a mwy... Dydd Gwener 1 Tachwedd am 7:30yh - Barddoniaeth a Cherddoriaeth yng Ngwesty Monachty Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 11yb-5yp a dydd Sul 10yb-4yp - Ffair Lyfrau yn y Neuadd Goffa Awduron yn bresennol – Alun Davies; Alys Einion; Chris Armstrong; Colin R Parsons; Daniel Davies; Derek Moore Geraint Evans; Huw Davies; Ifan Morgan Jones; Jackie Biggs; Jacqueline Jeynes; John M Hughes Karen Gemma Brewer; Kathy Miles; Lazarus Carpenter;...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Ar eich marciau, barod, ewch:

#Her100Cerdd yn dychwelyd i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Her 100 Cerdd yn dychwelyd unwaith eto eleni, a hynny am y seithfed tro. Yn unol â’r arfer, mae pedwar bardd wedi eu herio i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Y pedwar dewr eleni yw Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker. Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Sut dwi’n teimlo

Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol, gan gynnwys dicter, hapusrwydd, cenfigen, ofn a phryder. Wrth i ystadegau diweddar awgrymu bod gorbryder ar gynnydd ymhlith plant ifanc, mae’n amlwg fod yna angen gwirioneddol am adnoddau a llenyddiaeth addas i geisio helpu plant i ddod i ddeall a dygymod â’u teimladau, er lles eu hiechyd meddwl. Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol,...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi mai’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed yw Eloise Williams

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai'r awdur plant poblogaidd o Sir Benfro,  Eloise Williams,  yw'r  Children's Laureate Wales  cyntaf erioed. Nod y rôl lysgenhadol newydd hon yw ymgysylltu  â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain. Cyhoeddwyd y newyddion ddydd Mercher 18 Medi o flaen 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd. Eloise yw Llysgennad Darllen yr ysgol ac yn dilyn y cyhoeddiad, bu’n rhan o agoriad swyddogol...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

RYGBI

Rygbi  –  y llyfr sy’n cynnwys popeth sydd angen ei wybod am fyd rygbi, o sut i chwarae, i chwaraewyr eiconig, Cwpan y Byd, timau arwrol, yn ogystal â ffeithiau a ffigyrau i’n cyffroi ni i gyd wrth sôn am y gêm anhygoel hon – ein gêm genedlaethol ni fel Cymry! Cyhoeddir y llyfr clawr caled arbennig hwn gan Rily Publications mewn da bryd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan. Mae’n cynnwys cyfoeth o ffeithiau, ystadegau a gwybodaeth, lluniau a ffotograffau’n ymwneud â phob agwedd ar y gêm...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Datblygiadau yng Ngwasg Gomer, Ymateb y Cyngor Llyfrau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ymwybodol o benderfyniad Gwasg Gomer i roi’r gorau i gomisiynu teitlau newydd. Gwnaeth Gomer gyfraniad aruthrol i gyhoeddi yng Nghymru. Mae’n gartref i rai o’n prif awduron a’n llyfrau mwyaf nodedig. A thra’n bod ni’n siomedig iawn gyda’r datblygiad hwn rydym yn falch bod Gomer yn parhau i ofalu am y miloedd o deitlau ac awduron pwysig sydd yn eu ôl-restr a sicrhau y bydd teitlau poblogaidd yn aros mewn print. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Gwasg Gomer dros y...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyngor Llyfrau yn chwilio am y ‘Gryffalo’ Newydd

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020. Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros. Meddai Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant y Cyngor, ‘Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd geiriau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Medal Ryddiaith 2019

Enillydd y Fedal Ryddiaith 2019 yw Rhiannon Ifans am ei nofel,  Ingrid. Rhiannon Ifans yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy 2019, gyda’i nofel  ‘Ingrid’. Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema 'Cylchoedd'. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Mererid Hopwood, Alun Cob ac Aled Islwyn. ‘Gwaith llenor arbennig iawn, un crefftus a gwreiddiol’. Mererid Hopwood ‘Awdur [sy’n] feistr ar ei grefft... Campus!’ Alun Cob ‘Mae...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Gwobr Goffa Daniel Owen 2019

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2019 yw Guto Dafydd am ei nofel, Carafanio.     Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 2019, a hynny am nofel o’r enw Carafanio. Gofynion y gystadleuaeth oedd nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen. ‘Dyma nofel wirioneddol wych ' Llwyd Owen ‘Stori syml ar yr wyneb am deulu cyffredin yn mynd ar...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Plant Cymru yn Mentro i’r Gofod wrth i Sialens Ddarllen yr Haf Gychwyn

Paratowch i ddathlu ugeinfed pen-blwydd Sialens Ddarllen yr Haf a mynd ar Ras Ofod. Cafodd y sialens ei lansio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Llyfrgell y Drenewydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019, yng nghwmni’r awdur a’r darlunydd poblogaidd Max Low.     Teitl Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw Ras Ofod, sy’n cyd-fynd â dathlu 50 mlynedd ers y glaniad ar y lleuad. Wedi’i chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Pencampwyr Darllen Dros Gymru

Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 25 a 26 Mehefin pan ddaethant yn eu cannoedd i ddathlu darllen yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru, cystadlaethau a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant oedran cynradd. Roedd 34 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn ymgiprys am y teitl Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019. Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Llyfrau, yn Aml, yw’r Moddion Gorau: Pennod Newydd i Bresgripsiynau Iechyd Meddwl yng Nghymru

O'r 26ain Mehefin ymlaen, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn gallu rhoi llyfrau llyfrgell am ddim ar bresgripsiwn i gynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd yn yr hyn y mae’r arbenigwyr sydd y tu ôl i’r cynllun yn ei alw’n ‘fibliotherapi’. Datblygwyd cynllun Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Iechyd Meddwl gan The Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Llyfrau Newydd Dan yn Cynllun Darllen yn Well

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ymfalchïo yn y newyddion fod yr addasiadau Cymraeg cyntaf ar iechyd meddwl yn y cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn wedi’u cyhoeddi. Drwy gydweithio â chwmni cyfieithu Testun, llwyddwyd i gyfieithu’r pedwar teitl cyntaf o blith ugain o lyfrau i’r Gymraeg, yn barod ar gyfer eu lansio gan The Reading Agency yng Nghaerdydd ar 26 Mehefin. Y llyfrau, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yw: Cyflwyniad i Ymdopi â Gorbryder Cyflwyniad i Ymdopi â Galar Cyflwyniad i...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Darllenwyr Brwd yn Cyrraedd y Brig

Cafodd tîm o ddarllenwyr brwd o Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, eu coroni’n Bencampwyr 2019 BookSlam, cystadleuaeth ddarllen y Cyngor Llyfrau i blant yn seiliedig ar lyfrau Saesneg o Gymru. Cynhaliwyd y rownd genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar, a gwelwyd cannoedd o ddisgyblion cynradd o bob cwr o Gymru’n cystadlu i fod yn bencampwyr cenedlaethol. Eu tasg oedd creu argraff ar y beirniaid mewn dwy rownd – sef trafodaeth am 10 munud, a chyflwyniad dramatig yn para 8 munud, yn...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai. Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai. Enillwyr y categori cynradd  yw Elin Meek o Gaerfyrddin a Valériane Leblond o Langwyryfon, am y gyfrol  Cymru ar y Map  (Rily), llyfr atlas darluniadol sy’n dangos Cymru ar ei gorau. Enillydd y categori...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Catherine Fisher a’i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og

Dirgelwch hudolus llawn eira a sêr gan storiwraig feistrolgar. Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd eleni yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd ar 16 Mai, fel rhan o Gynhadledd CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol Cymru), cyflwynwyd y wobr i Catherine Fisher am ei nofel  The Clockwork Crow, a gyhoeddir gan Wasg Firefly. Bob blwyddyn ers ei sefydlu ym 1976, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dathlu’r teitl Saesneg gorau...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh yw prif berfformwyr ail Ŵyl Llên Maldwyn

Mae manylion y rhaglen lawn ar gyfer  Gŵyl Llên Maldwyn  eleni wedi'u rhyddhau, gyda rhestr ddisglair o awduron blaenllaw yn cynnwys Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh. Datganiad i’r wasg Bellach yn ei hail flwyddyn, bydd Gŵyl Llên Maldwyn 2019 yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos 14-16eg Mehefin ym mhlas gwych ac hanesyddol Gregynog, ger y Drenewydd. Fel yr Ŵyl agoriadol y llynedd, mae’r digwyddiad yn dathlu awduron sydd â chysylltiadau personol a llenyddol â Chymru a’r...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyfernir y Gwobrau i'r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Mae'r rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg eleni yn cynnwys...

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi enillydd gwobr Cyfraniad Oes gwyl Bedwen Lyfrau 2019

Enillydd Gwobr Cyfraniad Oes y Fedwen Lyfrau eleni yw’r bardd, llenor, addysgwr a’r pregethwr o Wrecsam, Aled Lewis Evans. Er mai gyda ardal Maelor y cysylltir Aled yn bennaf erbyn hyn, bu’n byw ym Machynlleth, Llandudno, a’r Bermo wrth i waith ei dad fel postfeistr arwain y teulu o le i le. Mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Ers cyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Tre’r Ffin, ym 1983, cyhoeddodd naw cyfrol o farddoniaeth Gymraeg. Cyrhaeddodd y diweddaraf,...