Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Bydd parti priodas Dafydd a Samantha yn noson i’w chofio.
Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd ac Idris yn hiraethu am ei ffrind gorau wrth ddychwelyd i Lyn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?
Dyma wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
AR DAITH
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, mae Parti Priodas ar daith ledled Cymru rhwng Ebrill a Mai 2024.
Manylion y daith yn llawn YMA.