![PosterBlwyddlyfr_2022 Blwyddlyfr](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2022/03/PosterBlwyddlyfr_2022-scaled.jpg)
Rydym wedi curadu dewis anhygoel o lyfrau i blant ac oedolion ifanc ar gyfer ein Blwyddlyfrau; maen nhw’n cynnig toreth o gyfleoedd newydd a chyffrous i ddarllen ac yn arddangos teitlau newydd a gyhoeddwyd yng Nghymru – yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog.
O lyfrau bwrdd lliwgar i nofelau heriol ar gyfer oedolion ifanc, mae rhywbeth yma ar gyfer pob oedran a diddordeb, ynghyd â rhestr gynhwysfawr o adnoddau sydd ar gael i helpu dysgwyr ar eu taith addysgol.
Mae’r amrywiaeth yn cynnwys teitlau a gyhoeddwyd yng Nghymru gyda’n cymorth ni, ac yn adlewyrchu holl ystod gwahanol ddiddordebau a chwaeth darllenwyr ifanc. Gallwch hefyd gael mynediad atynt mewn fformat e-lyfr oddi ar y platfform digidol pwrpasol ffolio.cymru.
Mae yna, wrth gwrs, lawer mwy o lyfrau ar gael i blant ac oedolion ifanc nag a gynhwysir yn y Blwyddlyfr. Gallwn rannu gyda chi fanylion yr holl deitlau o Gymru sydd ar gael, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb.
Cymerwch gip ar ein gwefan gwales.com lle gallwch hefyd ddod o hyd i gyfoeth o adolygiadau i’ch helpu i ddewis. Mae’r holl deitlau ar gael i’w prynu drwy eich llyfrwerthwr lleol, gyda llawer o siopau’n cynnig gwasanaeth i archebu llyfrau ar-lein a’u derbyn drwy’r post, neu wasanaeth clicio a chasglu.
Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau pori drwy’r Blwyddlyfrau ac yn cael ysbrydoliaeth i barhau ar eich taith ddarllen.
@LlyfrDaFabBooks #carudarllen #lovereading
![Cynradd_2024_CLAWR_thumbnail CYM](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2024/03/Cynradd_2024_CLAWR_thumbnail-CYM.jpg)
2024
Blwyddlyfr Plant 2024
![Uwchradd_2024_Clawr_thumbnail_CYM](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2024/03/Uwchradd_2024_Clawr_thumbnail_CYM.jpg)
2024
Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2024
![Blwyddlyfr Plant 2023 CLAWR](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2023/04/Blwyddlyfr_cynradd_CLAWR-1-pdf.jpg)
2023
Blwyddlyfr Plant 2023
Flipsnack Blwyddlyfr Plant 2023
![Clawr Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2023](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2023/04/Blwyddlyfr-Uwchradd-clawr-CYM.jpg)
2023
Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2023
Flipsnack Blwyddlyfr Pobl Ifanc 2023
![Clawr Blwyddlyfr 2022](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2022/04/Clawr-Blwyddlyfr-2022.jpeg)
2022
Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2022
Flipsnack Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2022
![Clawr Blwyddlyfr 2021](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2022/04/Clawr-Blwyddlyfr-2021.jpeg)
2021
Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2021
Flipsnack Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2021
![Clawr Blwyddlyfr 2020](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2022/04/Clawr-Blwyddlyfr-2020.jpeg)
2020
Blwyddlyfr Llyfrau Plant 2020