Casgliad o fyfyrdodau a thraethodau personol. Yn sbardun i bob pennod mae byd natur. Ond nid llyfr natur mohono. Wrth iddi ystyried blodau, cerrig, esgyrn, adar, cawn ein tywys ar drywydd annisgwyl i grombil ei phen. Cawn gipolwg ar ei bywyd wrth iddi rannu atgofion a chanfyddiadau, a cheisio gwneud synnwyr o’r byd a’i bethau.
DIGWYDDIADAU DATHLU CYHOEDDI’R GYFROL
Georgia Ruth yn sgwrsio gyda Marged Tudur
Dydd Iau, 5 Rhagfyr 2024 am 7:00yh, Palas Print, Caernarfon
Mynediad am ddim – croeso cynnes i bawb.