Ar AMRANTIAD

Gol. Gareth Evans-Jones

Dyma gasgliad o siath stori fer amrywiol a chywrain gan awduron newydd a phrofiadol yn cynnwys:

  • Fflur Dafydd
  • Sian Melangell Dafydd
  • Gareth Evans-Jones
  • Jon Gower
  • Lleucu Non
  • Lois Roberts
  • Francesca Sciarillo

Mae straeon Ar Amrantiad yn rhoi cip olwg gyfoethog ar yr hyn sy’n ein gwneud ni’n bobl.

Yn dilyn Cystadleuaeth Stori Fer Sebra i awduron newydd gwobrwywyd tair stori a’u cynnwys yn y gyfrol hon.

Adolygiad gan marged berry

Mawr yw f’edmygedd tuag at unrhyw un sy’n llwyddo i sgwennu stori fer dda. Mae’n her unigryw o ran cynildeb, a dawn yn sicr yw’r gallu, gyda chyn lleied o eiriau, i greu awyrgylch a chymeriadau â dyfnder iddynt.

Casgliad o saith stori fer sydd yma, a olygwyd gan Gareth Evans-Jones. Yn ogystal â stori gan y golygydd, mae tair stori gan awduron newydd – enillwyr cystadleuaeth y wasgnod Sebra, gyda’r dasg i sgwennu stori ar y themâu rhyddid a/neu hunaniaeth. Mae enwau adnabyddus y tri awdur arall – Jon Gower, Fflur Dafydd a Siân Melangell Dafydd – yn atgyfnerthu safon uchel yr ysgrifennu.

‘Cil y Drws’ gan Jon Gower yw’r stori agoriadol, un drawiadol tu hwnt am garcharor yng ngharchar Wakefield, ac am fywyd wedi ei ddinistrio. Mae’n stori ddwys o ran ei thema, ond un sy’n hardd ei harddull, a myfyriais amdani ymhell wedi i mi orffen ei darllen.

‘Y Phoenix’ gan Lois Roberts sy’n dilyn – stori deimladwy, yn llawn awyrgylch arbennig a gobaith.

Cefais fy nghyffwrdd i’r byw gan ‘Llychyn Dant y Llew’ gan Gareth Evans-Jones, stori am brofiad torcalonnus drwy lygad plentyn diniwed. Ymddengys y cymeriadau yn fregus a real dros ben, gyda chariad hefyd yn llifo drwy’r naratif.

Mi wnes i wir fwynhau ‘Plethu’ gan Francesca Sciarrillo – stori am genedlaethau o ferched, a’r pethau sy’n eu clymu at ei gilydd. Ceir archwiliad o sut beth yw peidio perthyn i le, a gorfod cyfuno dau fywyd er mwyn gosod gwreiddiau yn rhywle arall. Mae cymaint o galon i’r stori yma, yn cyfleu cariad at deulu, a hiraeth am hen wlad.

Roedd fy nghalon ar garlam yn darllen ‘Y Plant’ gan Fflur Dafydd – stori â theimlad hollol wahanol iddi. Mae hon yn ein denu i’w darllen o’r gair cyntaf, ac fe awn ar lwybr sy’n arwain at sefyllfa erchyll ac at banig tu hwnt i’r dychymyg, gan gyfleu cymaint am y cymeriadau mewn darn mor fyr.

Stori Lleucu Non, ‘Pwy Ydw I?’ sy’n dilyn – stori sydd ar yr wyneb yn ysgafn ond sy’n delio â themâu pwysig a pherthnasol. Ceir darlun sensitif o gymeriad sy’n ceisio bod yn driw iddo’i hun, a pha mor anodd gall hyn fod, hyd yn oed ymysg ffrindiau.

Mae dirgelwch a thyndra i’w cael yn stori olaf y gyfrol, ‘Totem y Tŷ Hyll’ gan Siân Melangell Dafydd, sydd rhywsut yn gysurlon ond yn gythryblus ar yr un pryd.

Er mor wahanol yw’r saith stori, mae themâu tebyg yn amlwg drwy’r gyfrol: teulu, atgofion, gwreiddiau, a hiraeth – y pethau syflaenol sy’n ein rhwymo at ein gilydd. Rhywsut mae bob stori yn gweddu i’w gilydd, a phob un yn haeddu ei lle yn y gyfrol. Pleser oedd gwibio drwyddynt; yng ngeiriau Gareth Evans-Jones, mae cyfoeth mewn cynildeb.