Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024 yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ym Meifod, mewn seremoni arbennig amser cinio heddiw, ddydd Mercher 29 Mai.

Enillydd y categori cynradd ydy Jac a’r Angel gan Daf James, ac enillydd y categori uwchradd ydy Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter – dwy nofel sydd yn dathlu pŵer y dychymyg i’n helpu i ymdopi ag amseroedd a phrofiadau anodd.

Enillydd y categori Cynradd:
Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
Nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.

Dywedodd Daf James: “Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo… mae’r rhestr yn hirfaith! Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi.

Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny. Dod yn dad nath fy ysgogi i fwrw ati – ro’n i eisiau sgwennu stori i’m plant – ac felly dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw am fod yn ysbrydoliaeth; ond hefyd dwi’n ddiolchgar i’r awduron hynny a ddaeth o’m blaen, ac a wnaeth i fi gredu, fel Jac yn Jac a’r Angel, bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân.”

Enillydd y categori Uwchradd:
Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Mae Rosie wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr, a phan mae llong ofod yn glanio yn yr ardd gefn, mae wrth ei bodd. Nofel yw hon am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf.

Dywedodd Megan Angharad Hunter: “Does ’na ddim geiria sy’n gallu esbonio gymaint ma’r anrhydedd hwn yn ei olygu i fi. Fel plentyn ac yn ystod fy arddegau, ro’n i wastad yn cadw llygad ar Wobrau Tir na n-Og felly mae ei hennill, a hynny am lyfr sy mor agos at fy nghalon – yn brofiad bendigedig o swreal.

Bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o’n i’n yr ysgol felly gobeithio y bydd hi’n gysur i blant Cymru heddiw hefyd, ac yn mynd â nhw ar antur gyffrous a dychmygus ar draws y gofod!

Mae Gwobr Tir na n-Og mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol, sy’n eironig iawn achos mae angen darllenwyr iau i sicrhau y bydd ’na ddarllenwyr Cymraeg sy’n oedolion yn nes ymlaen! Ma ’na lot o resyma pam dwi’n meddwl fod llyfrau plant yn bwysicach, o bosib, na rhai oedolion – ond dyma un ohonyn nhw.”

Roedd gan ddisgyblion o Ysgol Pennant, Penybont Fawr, a Gwenno Wigley o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ran arbennig i’w chwarae yn y seremoni heddiw, gan berfformio darnau o’r nofelau buddugol i’r awduron a’r gynulleidfa.

Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.

Dywedodd Jamie Finch, Cadeirydd CILIP Cymru Wales: “Ar ran CILIP Cymru Wales, rydym yn falch unwaith eto i gefnogi’r Gwobrau Tir na n-Og blynyddol, sy’n amlygu rhai o’r llyfrau mwyaf ysbrydoledig a difyr sydd wedi eu hysgrifennu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru am drefnu’r gwobrau, ac wrth gwrs, i’r panel beirniaid am ymgymryd â’r dasg o ddewis enillydd.”

Y teitlau eraill ar y rhestr fer o lyfrau yn y categorïau Cymraeg oedd:

Cynradd

  • Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)
  • Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
  • Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)


Uwchradd

  • Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
  • Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Cyhoeddwyd hefyd enillwyr Gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr. Gwobrau arbennig yw’r rhain wedi’u dewis o deitlau’r rhestr fer ymhob categori gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog iawn i Daf James a Megan Angharad Hunter ar ennill Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og eleni. Llongyfarchiadau hefyd i Caryl Lewis a Casia Wiliam am ennill Gwobrau Dewis y Darllenwyr.

Diolch i bawb fu’n ran o’r gwobrau eleni, gan ddiolch yn arbennig i’r llyfrgellwyr, athrawon a’r llyfrwerthwyr am eu rhan hanfodol yn helpu darllenwyr ifanc i ddarganfod y llyfrau arbennig hyn.”

Mewn seremoni arbennig yng nghynhadledd CILIP ar 17 Mai, cyhoeddwyd mai Where the River Takes Us gan Lesley Parr (cyhoeddir gan Bloomsbury) oedd enillydd y categori Saesneg, ynghyd â’r wobr Saesneg Dewis y Darllenwyr eleni.

Mae rhagor o fanylion am y gwobrau a’r teitlau i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau – llyfrau.cymru